Cwblhewch eich cyfrif i aros wedi mewngofnodi

Rydych chi bron yno! Gorffennwch sefydlu'ch cyfrif i gadw'ch mynediad at nodweddion Adobe Express.

Fe'ch anogir i gwblhau'ch sefydlu eich cyfrif o fewn 24 awr.

Rhoi Cynnig ar Premiwm
Datgloi cynnwys a nodweddion premiwm
Adobe Express - Canllawiau Cymunedol

Mae Adobe Express yn helpu i wneud i'ch syniadau edrych yn grêt a sefyll allan. Rydyn ni'n annog y rheini sy'n creu drwy ddefnyddio Adobe Express i rannu eu gwaith yn eang ac rydyn ni'n croesawu ystod eang o safbwyntiau. Drwy ddefnyddio Adobe Express, byddwch hefyd yn cael cyfle i fod yn rhan o gymuned Adobe Express -- cymuned ddiogel, gynhwysol a chefnogol sydd ag amrywiaeth eang o sgiliau, diddordebau a hunaniaethau sy'n canolbwyntio'n llwyr ar greu graffigau cymdeithasol, fideos byr neu dudalennau gwe sy'n edrych yn ffantastig.

Mae ein Canllawiau Cymunedol (“Canllawiau”) yn rhoi'r rheolau ar gyfer defnyddio Adobe Express i gynnal cymuned o ymgysylltu ac o ymddiriedaeth sy'n meithrin creadigrwydd. Mae'r Canllawiau hyn yn llywodraethu sut byddwch chi'n defnyddio platfform cymunedol Adobe Express, ac maen nhw wedi'u hymgorffori, drwy gyfeirio atynt, yn Nhelerau Defnyddio Cyffredinol Adobe. Os dewch chi ar draws cynnwys sy'n mynd yn groes i'r Canllawiau hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn yr adran 'Riportio Camddefnydd' isod. Mae hyn yn bwysig i ni a gobeithio bod hyn yn bwysig i chi hefyd.

Byddwch yn Barchus ac yn Ddiogel

Mae Adobe Express yn blatfform i greu graffigau, tudalennau gwe a straeon fideo hyfryd i fynegi eich creadigrwydd, dysgu gan eraill, a rhannu eich gwybodaeth â chymuned fyd-eang. I ddiogelu ein defnyddwyr a chynnal ansawdd uchel y cynnwys sydd ar y platfform, nid ydym yn caniatáu cynnwys nac ymddygiad sy'n cam-drin nac yn anghyfreithlon. Mae hyn yn cynnwys y canlynol, ond nid dim ond hyn:

Cofiwch y gallem riportio unrhyw ddeunydd sy'n ecsbloetio plant i'r National Center for Missing & Exploited Children (NCMEC) CyberTipline.

K-12

Defnyddwyr oed ysgol, peidiwch â defnyddio Adobe Express i rannu eich gwybodaeth bersonol (fel enw llawn, cyfeiriad cartref, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost, nac unrhyw beth arall a fyddai'n galluogi rhywun i ddod o hyd i chi neu i gysylltu â chi yn y byd go iawn). Gall addysgwyr a gweinyddwyr ddysgu rhagor am yr arferion gorau ar gyfer defnyddio Adobe Express ar gyfer Addysg yn ein Canllaw i Ysgolion ac Addysgwyr. Defnyddwyr sy'n oedolion ac yn fusnesau, defnyddiwch eich crebwyll.

Byddwch yn Gefnogol

Rydyn ni'n gwerthfawrogi mynegiant artistig, ond gofynnwn i chi gadw eich sylwadau, eich negeseuon preifat ac unrhyw ohebiaeth arall yn adeiladol ac yn barchus. Dydyn ni ddim yn goddef negeseuon a sylwadau difrïol, di-chwaeth na sarhaus.

Byddwch yn Wreiddiol

Mae Adobe Express yn galluogi pobl i ddangos pwy ydyn nhw go iawn a rhannu eu gwaith creadigol yn gyhoeddus. Rydyn ni'n analluogi cyfrifon sy'n ymddwyn mewn ffordd sy'n tanseilio dilysrwydd ein cymuned, gan gynnwys yr ymddygiadau niweidiol neu dwyllodrus canlynol, ond nid dim ond y rhain:

Mae darlledu neu lwytho gwaith pobl eraill i fyny fel eich gwaith eich hun yn torri hawlfraint ac ni fyddwn yn goddef hyn o gwbl. Os nad ydych chi'n siŵr a yw eich defnyddio chi o gynnwys neu nod masnach rhywun arall yn eich gwaith yn gyfreithlon, holwch gyfreithiwr neu cyfeiriwch at ddeunydd sydd ar gael yn gyhoeddus gan:

Os ydych chi eisiau rhoi gwybod bod un o'n defnyddwyr wedi camddefnyddio eich gwaith creadigol neu'ch nod masnach, gallwch chi wneud hynny yma: Ffurflen Adrodd am drosedd ar Rwydwaith Adobe. Os oes gennych chi anghydfod contract neu anghydfod arall gydag un o ddefnyddwyr Adobe Express ynghylch y cynnwys maen nhw wedi'i lwytho i fyny i'n safle, ewch ati i ddatrys y mater yn uniongyrchol gyda'r defnyddiwr. Does dim modd i ni gymedroli anghydfodau ynghylch contractau, cyflogaeth nac anghydfodau eraill rhwng ein defnyddwyr a'r cyhoedd.

Riportio Camddefnydd

Os ydych chi'n credu bod defnyddiwr neu ei gynnwys yn torri'r Canllawiau Cymunedol, dylech ei riportio drwy gysylltu â'r e-bost "Riportio Camddefnydd" a restrir yma.

Rhagor o wybodaeth

Mae'n bosib y byddwn yn dileu cynnwys sy'n torri'r canllawiau hyn ac yn cadw'r hawl i gymryd camau pellach ar eich cyfrif Adobe. Am ragor o wybodaeth am yr hyn y gallwch ei wneud ar ein platfform, cyfeiriwch at Delerau Defnyddio Adobe.