View Static Version

Ysgol Parc y Bont "Cymuned Sy'n Tyfu a Ffynnu Fel Un"

Gweledigaeth Ysgol Parc y Bont

Rydym ni yn Ysgol Parc y Bont yn grediniol mai ysgol yw calon cymuned. I sicrhau cymuned lwyddiannus mae'n hanfodol bwysig ein bod ni fel ysgol yn datblygu'r sgiliau a meithrin y wybodaeth a fydd yn galluogi bod pob disgybl yn llwyddo, nid o reidrwydd yn academaidd ond mewn bywyd yn gyffredinol.

Ein bwriad yw sicrhau bod pob disgybl yn ein gadael wedi cael profiadau cyfoethog sydd am sicrhau eu bod nhw yn gallu ymdopi gyda bywyd tu hwnt i addysg. Ymdrechwn i greu unigolion hapus, hyderus, annibynnol, parchus sydd yn mwynhau trio pethau newydd a gyda'r gwytnwch i oresgyn adfyd i sicrhau llwyddiant.

I sicrhau llwyddiant rydym o'r farn ei fod yn hanfodol bwysig bod pob aelod o'r gymuned gyda llais i ddylanwadu ar ddatblygiad a chyfeiriad yr ysgol. Mae'r berthynas rhwng yr holl randdeiliaid a'r parch cilyddol sy'n cael ei ddangos yn ddylanwadol ar gyfer creu unigolion a fydd yn gallu ymdopi a byw yn llwyddiannus o fewn cymdeithas yn y dyfodol.

Mae pentref Llanddaniel Fab yn bentref sy'n diferu mewn hanes, mae hi'n hanfodol bwysig ein bod ni fel ysgol yn addysgu nid yn unig y disgyblion ond y gymdeithas o'r digwyddiadau nodweddiadol yma. Mae hi'n bentref unigryw o ran ei thirweddau a'i phobl. Mae disgyblion yr ysgol fel cymdeithas yr ynys yn unigryw drwy'r wlad o ran y ffactorau amgylcheddol sydd yn ac yn mynd i'w effeithio a'u herio yn y dyfodol, mae hi'n bwysig ein bod ni'n gallu rhannu gwybodaeth a datblygu dealltwriaeth y gymdeithas i sicrhau eu bod nhw'n ymwybodol o'r byd o'u cwmpas, ac yn berchen ar y sgiliau i allu ymdopi a dylanwadu'r dyfodol yn gadarnhaol.

Holiadur Rhanddeiliaid

Rydym yn gweld yr ysgol fel rhan bwysig iawn o'r gymdeithas ac i sicrhau ein bod yn cyrraedd gofynion y gymdeithas penderfynom rannu holiadur gyda nhw a fydd yn sail bwysig iawn ar gyfer cynllunio ein hunedau gwaith/themâu dosbarth, beth y bydd angen pwysleisio arno er mwyn symud yr ysgol ymlaen a hefyd beth yr ydym ni fel ysgol am gynnig i'r disgyblion.

Canlyniadau holiaduron rhanddeiliaid

Holiadur Disgyblion

Y disgyblion yw'r elfen bwysicaf o fewn ysgol, felly penderfynom ei fod yn hanfodol bwysig ein bod ni yn cael barn y disgyblion ar yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw, pa themâu yr hoffen nhw ddysgu amdanynt a sut y gallem ni gynnig y profiadau a'r cyfleoedd gorau i symud yr ysgol yn ei flaen.

Canlyniadau Holiadur Disgyblion

Crynodeb Holiadur Rhanddeiliaid a Disgyblion

  • Mae’r teimlad o berthyn a bod yr ysgol yn rhan o gymuned yn hanfodol bwysig i’r rhieni.
  • Mae’r staff, addysg, cyswllt efo'r cartref a’r elfen o gymuned i’w gweld fel llwyddiannau ym marn y rhieni.
  • Mae'r rhieni o'r farn bod angen i ni ddatblygu clybiau ar ôl ysgol a rhannu gwybodaeth mewn mwy o fanylder am themâu ac unedau gwaith efo’r rhieni
  • Mae’r rhieni yn credu bod angen i’r disgyblion fod yn wybodus am iechyd ac iechyd meddwl, cynhesu byd eang a newid yn yr hinsawdd, cymhwysedd digidol, costau byw a hanes Cymru.
  • Hoffai’r rhieni i’w plant i astudio lles ac iechyd meddwl, sut i edrych ar ôl y byd, a’u hardal leol/hanes Cymru yn ystod eu hamser yn yr ysgol.
  • Hoffai’r rhieni i’w plant gael profiadau o gystadlaethau chwaraeon, o deithiau preswyl ac i gael y cyfle i berfformio yn greadigol.
  • Hoff bethau’r disgyblion am yr ysgol yw’r staff, y plant a’r cyfleoedd a gynnigwyd o fewn y gwersi.
  • Mae’r disgyblion yn credu ei bod yn bwysig iddyn nhw ddysgu sgiliau mathemateg, rhif ac arian, am yrfaoedd a sut i edrych ar ôl y byd ar gyfer eu dyfodol.
  • Hoffai’r disgyblion gael clybiau chwaraeon, arlunio a choginio ar ôl ysgol.
  • Hoffai’r disgyblion astudio chwaraeon a’i hanes, y byd a rhyfeloedd.
  • Hoffai’r disgyblion gael profiadau o gystadlaethau chwaraeon, amryw o dripiau a chyfleoedd i berfformio.

Gwerthoedd Ysgol Parc y Bont

Credoau syml a sylfaenol yw'r gwerthoedd sy'n arwain neu'n cymell agweddau neu weithredoedd. Maent yn ein helpu i benderfynu beth sy'n bwysig i ni fel ysgol. Aethom ati i hel syniadau'r cymhorthyddion, athrawon, rhieni, llywodraethwyr a'r gymdeithas i ddarganfod y 10 gwerth pwysicaf i'n helpu i ddatblygu unigolion llwyddiannus. Rydym o'r farn bod rhaid i'r bob un o'r gwerthoedd cael eu gweithredu gyda Chymreictod a'r Gymraeg yn treiddio drwyddynt.

1. Hapus - Rydym fel ysgol yn trio sicrhau hapusrwydd pob plentyn ac aelod o’n cymdeithas wrth fod yn agored, drwy gyfathrebu effeithiol a sicrhau y cyfleoedd gorau posibl i’n dysgwyr fwynhau eu dysgu.

2. Hyderus - Rydym yn credu bod hyder yn werth hanfodol bwysig i bobl allu llwyddo mewn bywyd. Gan weithio tuag at weithredu cwricwlwm i Gymru rydym yn sicrhau cyfleoedd gwerthfawr i ddatblygu hyder.

3. Profiadau - Mae’r profiadau yn elfen pwysig iawn i ni yn Ysgol Parc y Bont, rydym yn trio rhoi profiadau gwerthfawr i’r disgyblion o fewn y thema gwaith a thu allan i’r dosbarth.

4. Parchus - Mae pawb yn yr ysgol ac o fewn y gymdeithas yn unigryw, mae’n bwysig ein bod yn trin pob un o’n rhanddeiliaid efo parch a’n sicrhau sefydliad parchus.

5. Cefnogol - O fewn yr ysgol rydym yn cydweithio ac yn cefnogi ein gilydd fel staff a hefyd fel disgyblion i sicrhau datblygiad a dysgu parhaus.

6. Ysbrydoli - Drwy ein dysgu a’n amryw o brofiadau tu mewn a thu allan i’r dosbarth rydym yn ymdrechu i ysbrydoli disgyblion Ysgol Parc y Bont i fod eisiau dysgu, datblygu a llwyddo.

7. Lles - Rydym yn dangos gofal, empathi a chonsyrn am les pob un person sy’n ymwneud a’r ysgol. Rydym yn gwrando ar bawb, rhoi llais i bawb allu rhannu unrhyw broblemau a gweithredu i sicrhau bod pawb yn teimlo’n ddiogel ac yn saff o fewn ein gofal.

8. Iach - Mae gennym ni fel ysgol ddyletswydd i roi’r wybodaeth a chynyddu dealltwriaeth y disgyblion o sut i fyw yn iach. Mae’r cwricwlwm newydd yn sicrhau cyfleoedd euraidd i alluogi hyn.

9. Caredig - Rydym yn sicrhau ein bod yn trio’n gorau i greu awyrgylch garedig drwy’r amser a hefyd yn annog hyn gan bob un on rhanddeiliaid.

10. Cymdeithas - Mae'r ysgol yn ganolbwynt ac yn rhan hanfodol o gymdeithas y pentref. Yn anffodus mae'r capeli a siopau wedi cau, felly mae dyletswydd ar yr ysgol i sicrhau cyfleoedd i'r gymdeithas ymgynyll a chreu cymdeithas a chymuned gref.

4 Diben - Cwricwlwm i Gymru

Mae'r 4 diben yn sail i bob agwedd o'n dylunio cwricwlwm, ein cynllunio a’n addysgu. Mae ein gweledigaeth a’n gwerthoedd fel ysgol yn cefnogi’r 4 diben a chrynhown isod yr hyn maent yn ei olygu i ni. Bydd ein profiadau dysgu a’n dulliau addysgu yn anelu at wireddu’r isod bob amser. Rydym yn anelu i sicrhau dealltwriaeth pob disgybl o'r dibenion a'r hyn sydd angen iddyn nhw gyflawni i allu gwireddu'r dibenion o fewn eu haddysg.

6 Maes Dysgu a Phrofiad

Yr Hyn Sy'n Bwysig

O fewn y 6 maes dysgu a phrofiad mae 27 o ddatganiadau wedi cael eu clustnodi fel yr hyn mae'n rhaid i bob ysgol seilio eu cwricwlwm arnynt. Bydd ein cynlluniau yn pwysleisio ar brif ddatganiadau o'r hyn sy'n bwysig o fewn themau, gan obeithio y bydd pob un yn cael eu datblygu yn ystod eu hamser gyda ni yn Ysgol Parc y Bont.

Dyma esiampl o ran o'n cynlluniau tymor canol yn dangos pa ddatganiadau o'r hyn sy'n bwysig a fydd yn hanfodol ar gyfer llwyddo yn y thema.

Cwestiynau Mawr

O fewn y themau bydd cwestiynau mawr a fydd yn sicrhau bod y datganiadau yma yn cael eu gweithredu. Isod mae enghraifft o sut y byddem yn sicrhau cynllunio trylwyr yn erbyn hyn. Y gobaith yw y bydd nifer o gwestiynau yn pwysleisio ar ddatganiad o'r hyn sy'n bwysig neu ddau, yn hollol ddibynnol ar ffocws y cwestiwn. Dylai pob cwestiwn o fewn y thema fod yn uned wythnos neu pythefnos.

Y 12 Egwyddor Addysgu

Mae addysgu ardderchog yn hanfodol os ydym am wireddu’r 4 diben, y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig, ein gweledigaeth fel ysgol a gofynion Fframwaith y Cwricwlwm. Mae sicrhau amgylchedd dysgu o’r radd flaenaf yn greiddiol i ni yn Ysgol Parc y Bont i ddysgwyr ac i ymarferwyr. Mae cysondeb ethos ymhob dosbarth ar draws yr ysgol yn hollbwysig i ni er mwyn sicrhau amgylchfyd diogel a symbylus i’n dysgwyr allu mentro, gwneud camgymeriadau’n hyderus a dysgu mewn awyrgylch o gyd barch a gwerthfawrogiad o ymdrechion pawb.

Rydym yn ystyried, yn rhannu ac yn datblygu ein dulliau addysgu’n barhaus, a hynny’n seiliedig ar ein dealltwriaeth o’r 12 egwyddor addysgegol a nodir yn Fframwaith y Cwricwlwm ac ar y dulliau yr ydym ni’n eu canfod yn llwyddiannus yn yr ysgol hon. Gwelir isod sut yr ydym fel ysgol yn llwyddo i wireddu'r egwyddorion addysgu.

Meddylfryd Twf

Rydym ni o'r farn yma yn Ysgol Parc y Bont i sicrhau llwyddiant ymhob disgybl mae angen sicrhau eu bod yn newid eu meddylfryd i gredu y gallent lwyddo. Rydym wedi cyflwyno'r meddylfryd yma ers ychydig o flynyddoedd ac rydym yn parhau i'w fewnbynnu i mewn i fywyd pob dydd yr ysgol gan gyflwyno a defnyddio pwerau dysgu penodol.

Meddylfryd Twf Cyfnod Sylfaen

Mae'r pwerau dysgu yn cael eu cyflwyno yn y meithrin a derbyn fel pwerau sy'n cyd-fynd gyda Llew Llwyddiant i sicrhau llwyddiant mewn tasgau. Allan o'r 8, dim ond y tri isod sy'n cael eu defnyddio yn y meithrin a derbyn sef Dal Ati, Trio Gorau Glas a Trio Pethau Newydd'

Erbyn diwedd y cyfnod sylfaen rydym yn gobeithio bod pob disgybl yn ymwybodol o'r 4 pwer dysgu sydd ar y llun yma o ddosbarth Miss Williams sef 'Gwella, Dal Ati, Trio Gorau Glas a Trio Pethau Newydd'. Y gobaith yw bod y dysgwyr nid yn unig yn ymwybodol o rain ond hefyd yn gallu eu hegluro, deall y buddiannau a'n gwybod pryd y defnyddir.

Meddylfryd Twf CA2

Wrth symud i fyny'r ysgol mae mwy o'r pwerau dysgu yn cael eu cyflwyno nes erbyn diwedd eu hamser gyda ni, dylai pob disgybl fod yn ymwybodol o'r 8 pwer dysgu, deall eu gofynion a'u pwysigrwydd tuag at sicrhau llwyddiant. Wrth weithio yn y CA2 mae'r disgyblion yn cael eu hatgoffa i sicrhau eu bod yn gweithio o fewn y darn dysgu ac nid o fewn y cylch cyffyrddus neu'r parth panig i sicrhau eu bod yn gweithio ar y lefel her briodol.

Dod Allan o'r Pwll

Rydym wedi clustnodi nifer o ddisgyblion ym mlwyddyn 3 a 4 sydd wedi bod yn cael trafferth unieithu gyda'r pwerau dysgu felly wedi cyflwyno 'Dod allan o'r pwll' iddyn nhw sy'n dangos y camau i allu cyrraedd llwyddiant. Gobeithio wrth gyfuno hwn efo'r pwerau dysgu gall pob disgybl lwyddo.

Annibyniaeth

Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar annibyniaeth o fewn dysgu'r disgyblion a'u bod nhw yn gyrru eu dysgu. Y ffyrdd amlycaf a mwyaf effeithiol yr ydym yn sicrhau hyn yw drwy'r cynllunio ar ddechrau thema. Gall hyn fod yn gamp yng ngwaelod y cyfnod sylfaen ond gwelir annibyniaeth effeithiol yn yr ardaloedd wrth iddyn nhw gwblhau'r tasgau yn enwedig gan ddefnyddio eu dychymyg wrth chwarae rol ac yn yr ardal 'Byd Bach'.

Cynllunio yn nosbarth Blwyddyn 1 a 2.

Mae'r llun uchod yn dangos y camau mae athrawes blwyddyn 1 a 2 yn ei gymryd i sicrhau bod llais y plentyn yn gryf o fewn y cynllunio. O fewn y llyfr mae'r plant yn ei ddefnyddio fel sail i'r addysgu maen nhw yn meddwl am ffordd i ddathlu'r llyfr ar ei ddiwedd. Yn yr ystyr yma, y llyfr oedd 'Y Cawr Mwyaf Crand yn y Dref', felly'r syniad y cawsant ar gyfer diwedd y gwaith oedd cynnal sioe ffasiwn. Roedd angen gweithio yn ôl o'r sioe ffasiwn gan hel syniadau ar beth oedd angen ei gwblhau ar gyfer creu sioe ffasiwn lwyddiannus. Ar y papur A3 ar waelod y llun gwelir syniadau'r disgyblion yn ddyfynedig sy'n bwydo mewn i'r camau bach.

Ein Llais Ni

Yng nghyfnod allweddol 2 mae'r disgyblion yn defnyddio eu llais nhw i gynllunio unedau gwaith neu themau. Mae'r themâu yn dechrau gyda phrofiad neu sbardun sy'n agor drysau i'r disgyblion allu cynllunio'r themâu a'r dathliad ar y diwedd drwy ofyn cwestiynau ac ymchwilio mewn iddynt.

Ein Llais Ni Blwyddyn 3 a 4
Ein Llais Ni Blwyddyn 5 a 6

Dyma esiamplau o waliau Ein Llais Ni sy'n cael eu newid ar ddechrau pob thema neu uned waith yng nghyfnod allweddol 2. Gwelir yn wal blwyddyn 3 a 4 esiampl o ysgrifen y disgybl ar y nodiadau post its tra bod athrawes blwyddyn 5 a 6 yn rhoi enwau'r disgybl i gyd-fynd efo'r syniad sydd wedi cael ei roi yn eu llyfrau. Mae'r syniadau yma yn cael eu pennu yn erbyn y 4 diben i sicrhau bod pob thema yn taro gofynion y cwricwlwm newydd. Bydd cyfle i'r disgyblion fyfyrio yn erbyn y thema gan ystyried y dibenion ar ddiwedd y thema, bydd gwneud hyn yn gyson yn sicrhau dealltwriaeth well o'r dibenion a fydd yn cael effaith gadarnhaol lwyddiant y cwricwlwm.

Gwelir uchod ychydig o luniau o ddathliad diwedd thema 'Yr Ail Ryfel Byd' gan flwyddyn 5 a 6. Roedden nhw wedi cynllunio'r diwrnod i gyd ei hunain, gan greu amryw o arddangosfeydd am yr hyn a ddysgwyd yn ystod y tymor i rannu gyda'u rhieni a chael te parti yn dathlu diwedd y rhyfel.

Asesu a Chynnydd

Fel ysgol rydym yn defnyddio nifer o strategaethau amrywiol i asesu a thracio cynnydd ein disgyblion dros y flwyddyn. Pwrpas y strategaethau yma yw sicrhau bod pob disgybl yn gwneud y cynnydd priodol ar draws ystod eang o ffactorau o fewn yr ysgol. Credwn y mwyaf o adnoddau gwahanol yr ydym am ei ddefnyddio, yr uwch fydd y posibilrwydd i ni allu cael darlun cyflawn o'n disgyblion i gyd a fydd yn sicrhau'r cyfle gorau i bob disgybl allu cyflawni ei ddisgwyliadau.

Asesu a Thracio Cwricwlwm i Gymru

Rydym yn agosâu tuag at lansiad swyddogol Cwricwlwm i Gymru. Mae angen defnyddio strategaeth i allu tracio ac asesu yn erbyn y cwricwlwm yma. Fel ysgol rydym ni wedi penderfynu mabwysiadu rhaglen Taith 360. Mae hwn yn adnodd hynod o ddefnyddiol i gynllunio unedau gwaith, i dracio'r cynllunio yn erbyn y dibenion, y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig a'r meysydd dysgu a phrofiad. Yn ychwanegol i hyn mae modd tracio cynnydd y disgyblion yn erbyn rhain hefyd.

Mae sgiliau iaith ohiriedig yn arwain at danberfformiad yn ddiweddarach mewn bywyd, ac eto mae gan lawer o blant ysgol gynradd anawsterau lleferydd ac iaith anhysbys. Felly rydym yn adnabod WellComm fel adnodd hanfodol pwysig i adnabod unrhyw ddisgyblion sydd angen cymorth ychwanegol yn y blynyddoedd cynnar. Gall hyn greu grwpiau targed i ni eu monitro a'u hybu ar draws y flwyddyn. Rydym yn ceisio cwblhau'r asesiadau yma ddwywaith y flwyddyn i amlygu unrhyw gynnydd neu unrhyw ffactorau sydd wedi cael eu methu.

Er bod dyddiau'r profion cenedlaethol wedi mynd erbyn hyn rydym ni yma yn credu bod yr Asesiadau Personol drwy Hwb yn adnodd hynod o ddefnyddiol i dracio cynnydd disgyblion o flwyddyn 2 i 6 dros y flwyddyn o fewn eu darllen Cymraeg, darllen Saesneg, Rhifedd gweithdrefnol a Rhifedd Rhesymu. Rydym yn cwblhau rhain ddwywaith y flwyddyn, unwaith yn mis Medi ac eto ym mis Mai. Dim yn unig mae'r asesiadau yma yn rhoi'r cyfle i ni dracio cynnydd ond hefyd gall glustnodi grwpiau targed a disgyblion MAT.

CAT4

Asesiad o alluoedd datblygedig mewn meysydd y gwydden eu bod yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i ddysgu a chyflawniad y disgyblion yw CAT4 - mae'n rhoi dadansoddiad cywir i chi o gyflawniadau posibl disgyblion.

Cynlluniwyd CAT4 i roi golwg llawer ehangach a mwy cyflawn i ysgolion o bob plentyn, eu potensial a sut maent yn dysgu. Mae'r canlyniadau yn helpu athrawon i benderfynu ar gyflymder y dysgu sy'n iawn i fyfyriwr ac a oes angen cymorth neu her ychwanegol arnynt.

Mae'r tasgau'n cynnwys meddwl am siapiau a phatrymau (Rhesymu Di-eiriau), geiriau (Rhesymu Geiriol), rhifau (Rhesymu Meintiol) ac atebir rhai cwestiynau trwy gynhyrchu delweddau gweledol yn feddyliol a thrawsnewid (Gallu Gofodol).

Rydym o'r farn ei bod hi'n hanfodol bwysig i edrych ar faterion eraill o fewn yr ysgol a'r disgyblion sy'n cael effaith ar eu cynnydd, ac nid ei gymryd fel diffyg gwybodaeth dealltwriaeth yn unig. Rydym yn defnyddio prawf PASS gan ei fod yn helpu i ni ddeall pam y gall disgyblion fod yn ddysgwyr amharod, wedi ymddieithrio neu hyd yn oed yn aflonyddgar trwy archwilio lles cymdeithasol ac emosiynol yn sensitif. Mae hefyd yn darparu ymyriadau ac arweiniad fel y gallwch ddechrau mynd i'r afael â materion ar unwaith.

Boxhall

Ar hyn o bryd rydym yn ystyried cyflwyno a threialu rhaglenni/adnoddau gwahanol megis Boxhall a Motional. Mae Boxhall yn adnodd ar gyfer asesu datblygiad cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol plant a phobl ifanc. Tra bod Motional yn adnodd sy'n asesu a gwella iechyd a lles emosiynol plant a phobl ifanc.

Cyswllt Academaidd a'r Cartref

Rydym ni o'r farn ei bod hi'n hanfodol bwysig bod y cyswllt rhwng yr ysgol a'r cartref yn gryf a bod y rhieni yn ymwybodol o'r gwaith sy'n digwydd yn y dosbarth ond hefyd yn gallu asesu cynnydd eu plant pan fo eisiau.

Rydym yn ymdrechu i rannu gwybodaeth am y thema a'r unedau gwaith gyda rhieni ar ddechrau thema gan roi'r cyfle iddyn nhw rannu eu syniadau eu hunain am beth yr hoffen nhw eu plant astudio o dan teitl y thema.

Rydym yn defnyddio'r rhaglen My Maths i roi'r cyfle i'r rhieni weld beth mae eu plant yn astudio o fewn y dosbarth. Hefyd mae'n gyfle iddyn nhw weithio yn annibynnol ar y sgiliau y mae nhw wedi eu datblygu o fewn y dosbarth.

Cynllunio Thema

Mae llais y plentyn yn amlwg yn ein gwaith cynllunio, i atgyfnerthu hyn ac i sicrhau bod ein rhieni yn ymwybodol o'r gwaith a hefyd yn gallu cael mewnbwn yng ngwaith eu plant ar hyn â astudiwyd.

Esiampl o gyswllt y meithrin a derbyn gyda'r cartref drwy Seesaw.
Esiampl o gyswllt blwyddyn 1 a 2 gyda'r cartref drwy Seesaw.
Esiampl o gyswllt blwyddyn 3 a 4 gyda'r cartref drwy Google Classroom.
Esiampl o gyswllt blwyddyn 5 a 6 gyda'r cartref drwy Google Classroom.
NextPrevious