Loading

Tir Coed - Cymraeg Adroddiad Effaith: Tachwedd 2021 – Hydref 2022

Sôn am flwyddyn! Roedd mwy o angen nag erioed am weithgareddau ymgysylltu, lles a hyfforddiant Tir Coed yn ystod y flwyddyn hon – ac fe wnaethon ni gyflawni! Teimlai’r cyfranogwyr eu bod wedi’u CYSYLLTU – â natur a phobl eraill, wedi’u GRYMUSO drwy eu hymgysylltiad â dysgu ymarferol, ac o feithrin sgiliau gan ddefnyddio technegau ac offer traddodiadol i gyflawni gwaith pwrpasol ac yn FALCH o’r hyn a wnaethant i gynyddu bioamrywiaeth a gwella coetiroedd a mannau gwyrdd i bawb. Dywedodd yr hyfforddeion eu bod wedi cael manteision iechyd a lles o dreulio mwy o amser yn yr awyr agored ac wedi cael ymdeimlad o gyflawniad o ennill cymwysterau, gan ddatblygu ar yr un pryd ddealltwriaeth ddyfnach o brosesau naturiol a bywyd gwyllt.

Ar yr un pryd, roedd ymgysylltu’n heriol, gydag unigolion a oedd eisoes yn ynysig yn dal i fod yn bryderus ar ôl Covid ac yn amharod i gymysgu, teithio ac ymrwymo i weithgareddau. Roedd y nifer wnaeth ddim troi i fyny, y nifer wnaeth roi’r gorau iddi ar ganol gweithgaredd a nifer yr absenoldebau yn uwch oherwydd salwch a’r pandemig.

O’r herwydd, roedd yn anos trefnu’r gweithgareddau, roedd mwy o bwysau emosiynol ar bawb ac roedd y gweithgareddau’n fwy amrywiol wrth inni hefyd ail-greu cysylltiadau a chreu perthnasoedd a phartneriaethau newydd ar draws Dyfed Powys. Gydag amynedd, dygnwch a hyblygrwydd, fe wnaeth ein timau ar draws y pedair sir ganfod ffyrdd creadigol o estyn allan i ymgysylltu â’u cymunedau a chynnal gweithgareddau gwych gan annog y cyfranogwyr i wneud eu rhan.

Blwyddyn o dyfu

Ym mis Hydref 2022 fe wnaethom ddathlu diwedd ein prosiect LEAF 5 mlynedd. Er i Covid-19 effeithio ar y dulliau a’r canlyniadau am 3 allan o 5 mlynedd y prosiect, llwyddom i gyflawni a rhagori ar y canlyniadau arfaethedig. Mae Tir Coed wedi tyfu a ffynnu yn ystod oes y prosiect, gydag Arian Loteri yn ein galluogi i ddatblygu ac arbrofi’n eang fel sefydliad gyda gweithgareddau, dulliau, systemau, partneriaid a thechnolegau dysgu newydd. Fe wnaeth hyn oll gyfrannu at ymchwil a datblygiadau i baratoi ar gyfer ein strategaeth barhaus ar ôl LEAF gan ein galluogi i dreialu ein Rhaglen newydd AnTir, sy’n ehangu ein gweithgareddau oddi wrth goetiroedd at arferion cadwraeth/adfywiol a garddwriaeth fwytadwy ehangach.

Prosiect LEAF

Roedd ein prosiect 5 mlynedd, LEAF (Dysgu i Alluogi Cyflawniad a Boddhad), yn cael ei ariannu i raddau helaeth gan y Gronfa Loteri Gymunedol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, a gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (fel rhan o brosiect Cysylltiadau Elan) ym Mhowys, ac fe ddefnyddiai fodel cynnydd sefydledig Tir Coed, gan alluogi i bobl symud ymlaen ar hyd lwybr at y pwrpas o’r ymgysylltiad cychwynnol at gefnogaeth i ymgysylltu’n economaidd neu’n gymunedol, yn ôl eu dyheadau.

Y nod oedd:

• Gwella sgiliau pobl ddi-waith a thangyflogedig.

• Darparu mwy o gyfleoedd i bobl wledig symud ymlaen i gyflogaeth ystyrlon a sgilgar.

• Darparu mwy o gyfleoedd i gymunedau ymgysylltu â thir a choedwigoedd.

• Gwella ansawdd coetiroedd er mwyn cymunedau gwledig.

Effeithiau LEAF dros 5 mlynedd

LEAF: Y flwyddyn olaf

Daeth blwyddyn olaf y prosiect LEAF i ben ar nodyn uchel, pan gyflawnwyd 454 o sesiynau gweithgareddau ar gyfer dysgu a lles yn yr awyr agored, ymgysylltwyd â 57 o grwpiau cymunedol a 1,634 o unigolion, a dreuliodd gyda’i gilydd 19,293 o oriau, sy’n nifer aruthrol o uchel, mewn coetiroedd a mannau gwyrdd ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys. Fe wnaethant oll elwa o dreulio amser mewn natur, dysgu mwy am yr amgylchedd a/neu wella safleoedd awyr agored ar gyfer bywyd gwyllt a phobl.

“Cyflwynwyd y cwrs ar gyflymder da oherwydd amrywiaeth y bobl sydd yma. Mae’n gefnogol ac yn gynhwysol, yn ddynamig ac yn hwyl. Rwyf wedi dysgu llawer o sgiliau.” (hyfforddeion Sir Benfro)

LEAF: Dysgu yn yr Awyr Agored

Fe wnaeth cyfanswm o 180 o unigolion ymrwymo i ddysgu dros y flwyddyn, gyda 145 yn ennill ardystiad am gwblhau cyrsiau. O’r rheini, fe wnaeth 50 o hyfforddeion fynd ar gyrsiau hirach ac ennill achrediad Agored Cymru ac o ganlyniad cafodd cyfanswm o 261 o gredydau o ddysgu achrededig eu hennill.

O’r rheini, fe wnaeth 23 o’r hyfforddeion ennill Dyfarniad Gofalu Dysgu yn yr Awyr Agored gyda 9 hefyd yn ennill y Dyfarniad Estynedig drwy gwblhau achrediad yn llwyddiannus ar gyfer cyrsiau gaeaf a haf fel ei gilydd.

Fe wnaeth yr hyfforddeion ddefnyddio tabledi electronig yn bennaf i gofnodi tystiolaeth o’u dysgu yn ein llyfrau gwaith digidol at y pwrpas. Dywedodd yr hyfforddeion eu bod yn falch o’u llyfrau gwaith gorffenedig, ac roeddent yn hawlio perchnogaeth dros eu dysgu ac yn myfyrio ar eu cyflawniadau.

Gwelliannau i Goetiroedd

Ar draws ein safleoedd awyr agored, codwyd 17 adeiladwaith. Roedd y rhain yn cynnwys adeiladweithiau mawr neu atodol i wella cyfleusterau neu fynediad, gan gynnwys gweithdy mawr dan do, lloches tân pren crwn mawr, sied, toiledau compost, meinciau, byrddau picnic, ceffylau naddu, turnau polion a ffwrn garreg. Cafodd 11 erw o dir a choedwigoedd eu rheoli ar gyfer bywyd gwyllt a phobl, cafodd dros 300m o lwybrau eu cynnal neu eu creu a phlannwyd dros 400 o goed.

Rhaglen Mentor

Diolch i gefnogaeth Mentoriaid Tir Coed, cafodd 87 o unigolion gefnogaeth bersonol, wedi’i theilwra, gyda 74 yn cael eu helpu i ddatblygu eu llwybr cynnydd eu hunain drwy gwblhau cynlluniau gweithredu personol.

Mae rôl y Mentor yn rhan holl bwysig o’r gefnogaeth unigryw a gaiff hyfforddeion, gyda’r Mentoriaid yn meithrin perthynas sy’n para pob cam o siwrnai’r unigolyn a thu hwnt. Mae’r Mentoriaid yn parhau â’u cysylltiadau â hyfforddeion am rhwng 3 mis a 3 blynedd yn dilyn y cyrsiau, os oes arnynt angen cefnogaeth barhaus.

Aeth 81% o’r hyfforddeion ymlaen i hyfforddiant pellach, cyflogaeth, hunan-gyflogaeth neu waith gwirfoddol.

Stori Natalie

“Rwyf wrth fy modd gyda bywyd gwyllt ac rwy’n hoffi bod yn yr awyr agored cymaint â phosibl, rwyf wedi gweithio mewn amrywiol swyddi ac wedi gwirfoddoli mewn ysbyty bywyd gwyllt, ond pan gyrhaeddais Tir Coed i ddechrau, nid oedd fy iechyd meddwl yn dda a roeddwn i’n teimlo’n ynysig, nid oeddwn wedi bod yng nghanol grŵp mawr o bobl ers tro. Mae mynychu’r cyrsiau hyn wedi ysgubo ymaith y cwmwl du a fu’n fy nilyn ers tipyn, buom yn chwerthin, yn chwysu chwartiau ac yn mwynhau naws hamddenol braf gyda chriw arbennig o bobl. Rwy’n falch iawn o’r tîm a’r hyn a wnaethom dros y 12 wythnos diwethaf, er mod i braidd yn emosiynol ei fod wedi dod i ben.

Rwyf wedi dysgu sgiliau mewn gwaith saer coetiroedd, am blanhigion coetiroedd, ond yn anad dim, mae’r hapusrwydd a’r brwdfrydedd a deimlais o weithio gyda chriw cyfeillgar wedi magu fy hyder ac wedi fy ysbrydoli.

Rwy’n cychwyn gradd mewn Bioleg Anifeiliaid a Chadwraeth ym Mhrifysgol Brookes Rhydychen ac rwy’n edrych ymlaen at y dyfodol. Mae’n dal yn heriol weithiau, ond bydd yr hyder rwyf wedi’i fagu drwy Tir Coed yn aros gyda mi, byddaf yn dal i ddilyn y gwaith gwych rydych chi’n ei wneud a byddwn yn argymell Tir Coed i unrhyw un.”

Yn ôl yr hyfforddeion, y pethau gorau am ein cyrsiau oedd ‘bod yn yr awyr agored’, ‘dysgu sgiliau newydd’ a ‘gweithio gyda phobl eraill’.

AnTir

Fe wnaethom ddatblygu a chywreinio ein rhaglen AnTir gydol y flwyddyn, gan adeiladu ar y profiadau a’r gwersi a ddysgom oddi wrth brosiect LEAF. Mae AnTir yn cynnwys ein holl weithgareddau coetir, o sesiynau gweithgaredd i gyrsiau cynnydd, ond ei fod yn ychwanegu amrywiol elfennau arferion tir adfywiol a chadwraeth, tyfu bwyd, garddio bywyd gwyllt ynghyd â chyrsiau ‘Mynd i Waith’ sy’n darparu tocynnau a chefnogaeth ar gyfer hunan-gyflogaeth. Fel LEAF, ei nod yw mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a chyfoeth yn ogystal â datblygu gwytnwch cymunedol a phersonol a gwella cynefinoedd a gofodau awyr agored ar gyfer cymunedau.

Prosiect Ymarferoldeb AnTir

Llwyddwyd i ddarparu gweithgareddau dysgu ac allbynnau ychwanegol eleni drwy Brosiect Ymarferoldeb AnTir, sef Prosiect dysgu, iechyd ac adfywio yng Ngheredigion sy’n darparu sgiliau ymarferol i bobl ar gyfer arferion tir adfywiol, tyfu bwyd a gwytnwch. Ochr yn ochr â hyn, cyflwynodd y prosiect ddysgu achrededig, mentora a chefnogaeth er mwyn i unigolion symud ymlaen i waith gwirfoddol neu swyddi awyr agored/gwyrdd, datblygu ymwybyddiaeth o’r byd naturiol a gwella’u lles.

Ariannwyd y prosiect hwn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy’r Gronfa Adfywio Gymunedol a weinyddwyd gan Gyngor Ceredigion.

Prosiect Ymarferoldeb Antir “ar lawr gwlad”

Cynhelir y prosiect hwn yng Ngheredigion, ac mae’n targedu pobl ddi-waith, tangyflogedig a dan anfantais drwy gyfrwng partneriaethau gydag amrywiaeth eang iawn o asiantaethau cyfeirio, gan eu galluogi i symud ymlaen yn agosach at ymgysylltu economaidd neu gymunedol, gan ddwyn manteision i’r gymuned ehangach.

Fel rhan o AnTir cyflwynwyd 2 gwrs hir achrededig mewn Garddio Bywyd Gwyllt a Thyfu Organig, nifer o gyrsiau byr, sesiynau gweithgaredd at y pwrpas a dyddiau gwirfoddoli, a gynhaliwyd ar draws amrywiol safleoedd yng Ngheredigion.

"Fe wnaeth y staff yng nghanolfan Penparcau a Tir Coed wneud gwaith gwych yn cyflawni’r gwaith paratoi ar gyfer y cwrs a’r hyfforddiant. Ers bod ar y cwrs rwyf wedi cael cynnig gwaith ychwanegol yn y sector amgylcheddol, oherwydd y sgiliau ychwanegol rwyf wedi’u datblygu drwy’r cymhwyster. Diolch ichi am y cyfle.” Carys, un o hyfforddeion Tir Coed.

Sgiliau i’r Dyfodol

Gan ymdrechu i drefnu hyfforddiant sy’n cyd-fynd â’r sgiliau y mae ar gyflogwyr eu hangen, bu Prosiect Ymarferoldeb AnTir hefyd yn gweithio gyda rheolwyr tir, gan ofyn iddynt ba sgiliau maen nhw’n chwilio amdanynt gan weithwyr a gwirfoddolwyr a pha sgiliau rheoli tir treftadaeth ac adfywiol a allai gyfrannu at ddyfodol mwy cynaliadwy.

Rhaglen Time to Shine

Dros y flwyddyn diwethaf, buom yn ffodus o elwa o Raglen Arweinyddiaeth Time to Shine y Rank Foundation sydd â’r nod o roi sylw i angen datblygu sefydliadol mewn elusen neu fenter gymdeithasol. Gan weithredu fel rhan o’r prosiect Llechi Glo a Chefn Gwlad, fe’i cyd-ariannwyd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Fe wnaeth ein Harweinydd Time to Shine, Vik Wood, achub ar y cyfle, gan ennill bwrsari ar gyfer swydd amser-llawn am 12 mis a oedd yn caniatáu iddi ddatblygu ei sgiliau arweinyddiaeth, magu hyder i ddelio â sefyllfaoedd a datblygu prosiectau. Fe wnaeth bwrsari Rank hefyd ei galluogi i barhau â’i dysgu galwedigaethol mewn garddio, gan roi sylfaen sgiliau mwy cadarn iddi ar gyfer y dyfodol. Bu Vik yn gymorth mawr i dîm Prosiect Ymarferoldeb AnTir. Mae wedi meithrin cysylltiadau cryf â’n cymuned leol ac mae’n eiriolwr ardderchog i Tir Coed.

Bu bod yn rhan o raglen Rank a rhaglen Llechi Glo yn werthfawr dros ben, gan ein helpu i gyrraedd ymhellach, anelu yn uwch, datblygu rhwydweithiau ehangach a phrofi syniadau newydd.

Cilrath Acre

Gan ymateb i angen y gymuned ynghyd â chynnig o dir gan fferm leol yn Arberth, aeth ein tîm yn Sir Benfro ati i droi ¼ erw o laswelltir yn ardal addysgu a thyfu eleni.

Roedd y safle yn llechen lân ar y dechrau, a drwy waith diflino gyda gwirfoddolwyr a help gan Cilrath Fach Farm, Banc Bwyd Sir Benfro, Cadwch Gymru’n Daclus a’r Gronfa Loteri Fawr, llwyddom i gyrraedd ein nod o ddatblygu gardd addysgu gynhyrchiol mewn 3 mis mewn pryd i gyflwyno cwrs tyfu 12 wythnos.

Dysgu am Natur

Fe wnaeth ein prosiect Dysgu am Natur esgor ar ganlyniadau ardderchog eleni wrth inni gyflwyno amrywiol sesiynau gweithgareddau at y pwrpas i ysgolion cynradd ac uwchradd o Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Cafodd sesiynau ychwanegol ar gyfer ymarferwyr groeso brwd, gan roi i staff addysgu a staff cymorth y sgiliau a’r hyder i fynd â’u disgyblion allan i’r awyr agored, yn ogystal â rhoi iddynt amrywiol syniadau i ennyn diddordeb eu disgyblion a chreu cysylltiadau â’r cwricwlwm.

Yr uchafbwynt i’n Cydlynydd Dysgu am Natur, Nancy, oedd gweld dysgwyr yn Ysgol Harri Tudur yn ffynnu wrth iddynt gyfranogi mewn rhaglen tir coed gydol y flwyddyn gyda’r bwriad o gynyddu ymgysylltiad disgyblion a datblygu sgiliau ymarferol. Roedd yr adborth gan staff a disgyblion yr ysgol yn gadarnhaol dros ben - gan gynnwys lefelau cyflawniad gwell mewn pynciau eraill, mwy academaidd.

“Gwell hyder ymysg y disgyblion mae’n debyg oedd prif lwyddiant y prosiect. Roedd y plant a oedd, ar y dechrau, yn anghyfforddus yn amgylchedd y coetir, yn y diwedd, yn edrych ymlaen i’r sesiynau, fe wnaeth pob dysgwr ddefnyddio offer, roedd y rhan fwyaf yn hyderus i archwilio’r safle yn annibynnol ar yr oedolion ac roedd pawb yn llawer mwy parod i rannu’n rhydd gyda’r grŵp, boed hynny’n syniadau, storïau am eu penwythnos, caneuon, jôcs neu sut roedden nhw’n teimlo’r diwrnod hwnnw.”

- Nancy Hardy, Cydlynydd Dysgu am Natur

Gweithgareddau Prif Bwrpas

Eleni, gwelwyd galw mwy nag erioed am ddarpariaeth awyr agored, a bu inni o’r herwydd bron ddyblu ein gweithgareddau prif bwrpas o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, gyda chyfanswm o 119 o sesiynau gweithgaredd ychwanegol yn cael eu cynnal ar draws y pedair sir ar gyfer ysgolion a grwpiau cymunedol. Bu’r sesiynau hyn yn gyfle gwych ar gyfer arddangos ein gwaith i’r gymuned ehangach ac i gydnabod yr arbenigedd sydd gennym yn ein tîm.

Elusen Ddibynadwy

Enillodd Tir Coed statws Elusen Ddibynadwy Lefel 1 ym Mawrth 2022

Mae’r archwiliad trylwyr hwn yn annog gwelliant parhaus drwy ganiatáu i sefydliadau weithio yn eu pwysau i hunan-asesu cyn cael eu dilysu’n allanol ac ennill statws Elusen Ddibynadwy.

Mae’r nod ansawdd, a gymeradwyir gan wasanaeth achredu’r Deyrnas Unedig, yn dangos safonau uchel mewn sefydliad, gan brofi ei fod yn cael ei redeg yn dda, ei fod yn atebol ac yn dryloyw, ac mae’n rhoi hyder ynglŷn ag ansawdd a dibynadwyedd i’r cyhoedd, comisiynwyr a chyllidwyr. Adroddodd yr asesydd allanol fod gan:

“[Tir Coed] Fwrdd Ymddiriedolwyr profiadol a chefnogol ynghyd ag uwch dîm rheoli dynamig sy’n darparu arweinyddiaeth gadarn i dîm staff y sefydliad, sy’n gwerthfawrogi’r gefnogaeth a roddir. Roedd pawb a gyfwelwyd yn amlwg yn rhoi eu cleientiaid yn gyntaf ym mhopeth a wnânt. Mae gan y Ganolfan brosesau gweinyddol gadarn, rheolaeth ariannol sicr a systemau monitro cryf ar waith. Mae’n amlwg yn gwybod beth mae eisiau ei gyflawni. Roedd yn bleser cyfweld â phobl mor frwdfrydig, angerddol a llawn cymhelliant.”