Loading

Gerallt Gymro Gan Ruth Gooding, Llyfrgellydd Casgliadau Arbennig

Honnir mai Gerallt Gymro (c. 1146 - 1223) oedd yr awdur teithiau mawr cyntaf o Brydain. Yn ogystal â bod yn awdur toreithiog, roedd yn ysgolhaig, yn eglwyswr, yn ddiwygiwr, yn aelod o’r llys, yn ddiplomydd, yn asiant i Harri II Brenin Lloegr ond yn eiriolwr ar ran Eglwys Cymru. Yn chwilfrydig am bopeth ond yn glebryn di-ball, mae ei lyfrau’n tynnu llun hynod o fanwl ac eang o Gymru ei ddydd.

Cerflun o Giraldus Cambrensis yn Neuadd y Ddinas Caerdyff, Wikimedia Commons, https://commons.wikimedia.org/wiki/File:St.David%27s_Cathedral_-_Dreieinigkeitskapelle_5_Giraldus_Cambrensis.jpg, Wolfgang Sauber, CC BY-SA 3.0 <https://creativecommons.org/licenses/by-sa/3.0>, via Wikimedia Commons

Cymru yn 1188

Disgrifiwyd Cymru ar ddiwedd y ddeuddegfed ganrif yn ‘blethwaith o arglwyddiaethau Normanaidd a thywysogaethau Cymreig.’ Er i Gwilym I orchfygu Lloegr yn gyflym, cymerodd dros ddwy ganrif i’r Normaniaid oresgyn Cymru. Pan oedd Gerallt Gymro yn ysgrifennu, roedd llwyddiannau’r Eingl-Normaniaid wedi eu hatal ac weithiau wedi eu gwrthdroi. Roedd Gororau Cymru, neu’r ffin a oedd dan reolaeth yr arglwyddi Normanaidd, wedi eu cyfyngu i lain gul o iseldir ffrwythlon ar hyd arfordir deheuol a’r ffin ddwyreiniol. Roedd y rhan fwyaf o Gymru dan reolaeth arweinwyr Cymreig brodorol, yn nhair prif dywysogaeth Gwynedd yn y Gogledd-orllewin, Powys yn y Gogledd-ddwyrain a’r Canolbarth, a’r Deheubarth yn y De-orllewin. Gwnaeth Gerallt y sylw bod y boblogaeth gyfan, yn hytrach na’r boneddigion yn unig, wedi eu hyfforddi i ryfela ac ‘wedi eu magu’n llwyr i ddefnyddio arfau.’ Yn filwyr guerilla, yn brwydro ar eu telerau eu hunain, roedd bron yn amhosibl eu trechu’n derfynol.

Yn yr un modd â gwledydd eraill Ewrop ar y pryd, roedd yr Eglwys yn tra-arglwyddiaethu ar lawer o fywyd cyhoeddus Cymru, yn ogystal â’i fywyd crefyddol. Fodd bynnag, roedd yn rhan o archesgobaeth Caergaint ac felly’n ddarostyngedig i awdurdod yr archesgob. Ofer fu cyfres o gynigion, rhai ohonynt gan Gerallt yntau, i wneud Tyddewi yn archesgobaeth.

Lhewelyn ap Gruffyth o Historie of Cambria now called Wales / Humphrey Llwyd (1584) - Lhewlyn ap Iorweth o Historie of Cambria now called Wales / Humphrey Llwyd (1584)

Roedd y rhan fwyaf o bobl Cymru’n byw yn hynod ddarbodus. Yn ei waith diweddarach Descriptio Kambriae, disgrifiodd Gerallt eu ffordd o fyw. ‘Nid ydynt yn byw mewn trefi, pentrefi, na chestyll, ond maent yn byw bywyd unig yn y coed, heb godi palasau moethus ar eu hymylon, nac adeiladau cerrig uchel, ond ymfodlonant ar fythod bach a wnaed o gangau coed wedi eu plethu gyda’i gilydd, wedi eu creu heb fawr o lafur na thraul, ac sy’n ddigon i oroesi gydol y flwyddyn.’ (erbyn hyn, roedd ychydig o drefi arfordirol ac iseldir yn ne-orllewin Cymru lle maged Gerallt, ond ychydig yn yr ardaloedd gogleddol a gorllewinol yr ymwelodd â hwy ar ei daith yn 1188).

Dywedodd Gerallt nad oedd y rhan fwyaf o bobl ond yn bwyta un pryd bob dydd. ‘Yn gyfarwydd o ymprydio o fore gwyn tan nos ... maent yn cysegru’r diwrnod cyntaf i’r busnes, ac yn y nos maent yn cymryd pryd cymedrol; a hyd yn oed os nad oes ganddynt ddim, neu ddim ond un tenau iawn, maent yn disgwyl yn amyneddgar tan y noson ganlynol.’ Roedd pobl yn byw ar geirch ac ar gynnyrch eu gyrroedd, llaeth, caws a menyn gan mwyaf. Roeddent yn bwyta digon o gig ond heb lawer o fara.

Ac eto roedd pawb yn lletygar. Meddai Gerallt, ‘Does neb yn y genedl hon byth yn cardota, gan fod yr holl dai’n gyffredin i bawb ... Caiff y rhai sy’n cyrraedd yn y bore eu difyrru tan yr hwyr â sgwrs menywod ifanc, a cherddoriaeth y delyn.’

Gerallt Gymro

Ganed Gerallt yng Nghastell Maenor Bŷr, ar arfordir deheuol Sir Benfro. Daeth ei dad, William de Barry, o deulu o wladychwyr Normanaidd; roedd ei fam Angharad i’r dywysoges Gymreig Nest, drwy Gerallt Windsor. Felly, roedd Gerallt yn perthyn i’r prif deuluoedd Eingl-Normanaidd yn ogystal â theuluoedd y Deheubarth. Yn wir, gwnaeth y sylw ‘Rwy’n disgyn o Dywysogion Cymru a Barwniaid y Gororau … ac mae’n gas gennyf weld anghyfiawnder yn y naill genedl a’r llall.’

Inner court of Manorbier Castle, o Wales illustrated / Henry Gastineau (1834) - Castell Maenorbŷr, Wikimedia Commons, https://commons.wikimedia.org/wiki/File:Manorbier_Castle_H12a.jpg, Helge Klaus Rieder, CC0, via Wikimedia Commons

Roedd Gerallt wedi ei fwriadu i’r offeiriadaeth er pan oedd yn ifanc iawn. Yn blentyn, dywedir ei bod yn well ganddo adeiladau eglwysi tywod na chestyll tywod. Fe’i haddysgwyd gan ei ewythr Dafydd Fitzgerald, esgob Tyddewi, ac wedyn yn abaty San Pedr, Caerloyw. Ar ôl hyn, daeth yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Paris, lle astudiodd y celfyddydau breiniol a dod yn y pen draw yn athro ar gyfer y trifiwm. Ar ôl dychwelyd i Brydain, ymwelodd â Rhisiart o Dover, archesgob o Gaergaint, i gwyno am ddegymau gwlân a chaws a oedd heb eu talu yn esgobaeth Tyddewi.

Anfonodd Rhisiart Gerallt yn ôl i’r esgobaeth i fynnu taliad. Wedyn darganfu Gerallt fod Jordan, Archddiacon Aberhonddu, yn cyd-fyw â’i feistres. O ganlyniad i hyn, gwaharddwyd Jordan, a phenodwyd Gerallt yn archddiacon yn ei le.

Bu farw ewythr Gerallt, Dafydd Fitzgerald, ym mis Mai 1176. Ar ôl methu â’i ddilyn yn esgob Tyddewi, dychwelodd Gerallt i Baris, lle astudiodd am y tair blynedd nesaf. Yn 1184, ymunodd Gerallt â gwasanaeth Harri II o Loegr. Ac yntau’n perthyn i Rhys ap Gruffudd o’r Deheubarth, y rheolwr mwyaf pwerus yng Nghymru, yn ogystal â’r rhan fwyaf o dywysogion eraill Cymru, daeth Gerallt yn swyddog cyswllt defnyddiol. Flwyddyn wedyn, yn 1185, aeth Gerallt gyda mab ieuengaf Harri II, y darpar Frenin Ioan, ar ymweliad ffurfiol ag Iwerddon. Dechreuodd ysgrifennu ei ddau lyfr cyntaf Topographia Hibernica (Topograffeg Iwerddon) ac Expugnatio Hibernica (Concwest Iwerddon).

Bu farw Peter de Leia, esgob Tyddewi, yn 1198. Roedd Gerallt nid yn unig i’w olynu ond hefyd i wneud Tyddewi’n archesgobaeth. Roedd enw Gerallt ar frig y rhestr o enwebiadau, a anfonwyd gan gabidwl Tyddewi at Hubert Walter, archesgob Caergaint. Fodd bynnag, er gwaethaf cefnogaeth y canonau i Gerallt, ychydig o obaith oedd y byddai Hubert yn ei dderbyn, (a’i uchelgais o wneud Eglwys Cymru’n un annibynnol). Parhaodd y frwydr hir am bum mlynedd; ymwelodd Gerallt â Rhufain deirgwaith i bledio’i achos gerbron y Pab Innocentius III. Fodd bynnag, ofer fu ymdrechion Gerallt; yn y pen draw collodd ei gefnogwyr yn Nhyddewi hithau. Yn 1203 penodwyd Sieffre o Henlawe, prior Llanddewi Nant Honddu, yn esgob.

Byddai Gerallt yn byw am ugain mlynedd arall. Ymddengys iddo dreulio llawer o’r amser hwn yn Lincoln, yn dal i ysgrifennu’n helaeth ond yn ddadrithiedig iawn erbyn hynny. Mae manylion ei farwolaeth yn ansicr, gwyddys iddo farw yn 1223 neu cyn 1223, o bosibl yn Henffordd.

Eglwys Gadeiriol Tyddewi, corff yr eglwys, o Wikimedia Commons, https://commons.wikimedia.org/wiki/File:St_David%27s_Cathedral_(8242).jpg, Nilfanion, CC BY-SA 4.0 <https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0>, via Wikimedia Commons

Taith trwy Gymru

Yn 1188 aeth Gerallt gyda Baldwin, archesgob Caergaint, ar daith trwy Gymru, gan recriwtio milwyr i’r Drydedd Groesgad. Dechreuodd y fintai o deithwyr ar eu taith o Henffordd tua dechrau mis Mawrth. Cyfarfuant â Rhys ap Gruffudd a thywysogion brodorol eraill ym Maesyfed, cyn mynd yn eu blaen i Gasnewydd trwy’r Gelli Gandryll ac Aberhonddu. O Gasnewydd, dyma nhw’n marchogaeth o gwmpas arfordir Cymru, gan symud i’r gorllewin i Dyddewi, ac wedyn i’r Gogledd trwy Geredigion, Meirionnydd a Gwynedd. Wedyn dyma nhw’n troi i’r Dwyrain, gan fynd trwy Fangor, Rhuddlan a Llanelwy. Cyraeddasant Gaer mewn pryd i’r Pasg, (dydd Sul 17 Ebrill). Ar ôl hyn, dychwelodd y fintai i Henffordd trwy Groesoswallt a’r Amwythig. Cymerodd y daith gyfan ryw saith wythnos. Gweinyddodd Baldwin yr offeren ym mhob un o’r pedair cadeirlan, gan achub felly ar y cyfle i orfodi ei awdurdod dadleuol dros Eglwys Cymru.

Mae’n debyg i wybodaeth leol a chysylltiadau Gerallt hwyluso ar gryn dipyn o’r daith. Fodd bynnag, mae’n ymddangos yn annhebygol ei fod yn rhugl ei Gymraeg; fel Baldwin, pregethai naill ai yn Lladin neu Ffrangeg Normanaidd. O’r herwydd teithiodd cyfieithydd, Alexander Cuhelyn, archddiacon Bangor, gyda’r cwmni. Ymunodd amrywiol bobl â’r grŵp ar gyfer rhan o’r daith; teithiodd abadau Hendy-gwyn ar Daf ac Ystrad Fflur o Ystrad Fflur i Ogledd Cymru. Teithiodd Esgob Tyddewi Peter de Leia gyda nhw drwy dde Cymru. Ar y cyd â’r rhain, mae’n rhaid bod y cwmni wedi cynnwys gwarchodwyr arfog, gweision personol, gwastrodion-farchogion.

Ffordd Rufeinig Sarn Helen, Coed y Rhaiadr, Wikimedia Commons, https://commons.wikimedia.org/wiki/File:Sarn_Helen_Roman_Road,_Coed_y_Rhaiadr_-_geograph.org.uk_-_917466.jpg, Kev Griffin / Sarn Helen Roman Road, Coed y Rhaiadr

Ni fyddai hyd yn oed y ffyrdd gorau fawr gwell na thraciau garw. Yr hen ffyrdd Rhufeinig, gan gynnwys Sarn Helen, oedd y rhain fwy na thebyg neu ffyrdd a gynhelir gan fynachlogydd ochr ffordd, megis Margam ac Ystrad Fflur. Byddai’r llwybrau gwaethaf wedi cynnwys traciau ucheldir, er enghraifft ‘bwlch drwg’ Coed Gwyrne yn y Mynyddoedd Du. Roedd gwybodaeth leol yn bwysig wrth ddod o hyd i lwybrau, ac roedd tywyswyr wrth law o hyd ar gyfer cenhadaeth Baldwin. Y llwybrau mwyaf peryglus oedd y rhai a deithiai drwy goedwigoedd neu dir prysg, a oedd yn debygol o fod yn drigfan ysbeilwyr a herwyr. Er bod y gyfraith mewn theori’n gwahardd offeiriaid rhag cludo arfau, roedd Gerallt yn berchen ar gleddyf o ddur coethaf Lombardi.

Cafodd y fintai dderbyniad brwdfrydig iawn; dywedir i dair mil o bobl godi’r groes. Roedd Gerallt yntau yn eu plith; fe’i penodwyd hefyd i lunio hanes o’r groesgad. Gyda’r Archesgob Baldwin a’r Prif Ustus Ranulph de Glanville, hwyliodd am Ffrainc yng ngwanwyn 1189. Erbyn 10 Mai 1189, roedd yn Chinon, yn nyffryn afon Loire. Fodd bynnag, yn dilyn marwolaeth Harri II yn Chinon yn ddiweddarach yn yr haf hwnnw, anfonodd Rhisiart I Gerallt yn ôl i Loegr. Roedd yn debygol o fod o fwy o ddefnydd gwleidyddol ym Mhrydain nag yn y Dwyrain Pell! Teithiodd Archesgob Baldwin ymlaen i’r Tir Sanctaidd; bu farw yn ystod y gwarchae ar Acre ar 19 Tachwedd 1190.

Roedd Gerallt wedi cadw dyddiadur o’i daith; pan ddaeth y genhadaeth i ben, dechreuodd ysgrifennu adroddiad llawn ar sail ei nodiadau. Yn y pen draw byddai’n cyfansoddi tri fersiwn o’r Itinerarium Kambriae neu Y daith trwy Gymru. Ymddengys iddo gwblhau’r cyntaf yn 1191, yr ail oddeutu 1197 a’r trydydd yn 1214. Fel yr ysgrifennodd McGurk, ‘For the visitor to Wales, this … guide still makes compulsive reading, full of entertaining and delightful folk tales, laced with the miraculous, the picturesque and every kind of curiosity associated with the different localities the preachers passed through.’

Ymweliad Gerallt ag Abertawe

Daeth Gerallt a’i fintai i Abaty Margam ryw bryd oddeutu dydd Mercher 16 Mawrth. Trannoeth dyma nhw’n rhydio Afon Avon, cyn dilyn yr arfordir a rhwyfo ar draws Afon Nedd. Treuliasant y noson honno a’r noson drannoeth, fwy na thebyg, yng Nghastell Abertawe. Ysgrifennodd Gerallt,

‘Gan fynd i mewn i’r dalaith o’r enw Gwyr, treuliasom y nos yng nghastell Sweynsei, a elwir yn Abertawe yn Gymraeg, neu aber afon Tawe. Y bore trannoeth, a’r bobl wedi dod ynghyd ar ôl yr offeren, a llawer o bobl wedi eu darbwyllo i godi’r groes ...’

Aeth Gerallt yn ei flaen i adrodd sgwrs rhwng dau fynach, yn disgrifio anawsterau eu taith,

‘Ar yr un noson, roedd dau fynach, a oedd yn gweini yn siambr yr archesgob, yn sgwrsio am ddigwyddiadau eu taith, a’r peryglon ar eu taith, dyma un ohonyn nhw’n dweud ( gan gyfeirio at wylltineb y wlad), ‘Mae hon yn dalaith galed,’ a’r llall (gan gyfeirio at y sugndraeth), yn ateb yn ffraeth, “Ond roedd hi’n rhy feddal ddoe.”’

Swansea Castle, o Wales Illustrated / Henry Gastineau & Castell Abertawe, o Wikimedia Commons, https://commons.wikimedia.org/wiki/File:Swansea_Castle_20190925_071839_(48791497503).jpg, Irid Escent, CC BY-SA 2.0 <https://creativecommons.org/licenses/by-sa/2.0>, via Wikimedia Commons

Abertawe yn 1188

Ymddengys i Abertawe ddechrau tua 1100 OC, tua nawdeg mlynedd cyn ymweliad Gerallt. Wedi’i annog gan Harri I o Loegr, yr arglwydd Normanaidd, Henry de Beaumont, iarll Warwick, wedi cwmwd Gŵyr. Daeth castell de Beaumont, yn gapwt arglwyddiaeth gororau Gŵyr; a throes yr anheddiad cyfagos yn Abertawe. Hwn oedd y prif gastell a oedd yn gartref i bencadlys gweinyddol yr arglwyddiaeth, ei llysoedd cyfiawnder, ei thrysorlys, a’i harfdy. Roedd hwn yn safle strategol da. Roedd y castell yn rheoli’r rhyd isaf ar Afon Tawe a’r llwybrau tir mwyaf agored i ymosodiadau i mewn i benrhyn Gŵyr. Roedd harbwr naturiol; a’r afon y gellid hwylio arni am ryw dair milltir i mewn i’r tir.

Er ei fod wedi ei atgyfnerthu’n gadarn, castell o goed o hyd oedd yr un a welodd Gerallt. Roedd wedi’i adeiladu ar gopa mwnt (tomen) gyda man gwastad (beili) oddi amgylch iddo (beili) gyda ffos, clawdd a phalisâd i’w amddiffyn. Mae’n debyg na chodwyd y castell carreg cyntaf tan oddeutu 1218.

Yn wahanol i’r arfer, dewisodd Henry de Beaumont beidio â sefydlu mynachlog Fenedictaidd yn Abertawe. Nid yw’n hysbys pryd y codwyd yr eglwys gyntaf. Er mai dim ond yn 1291 y ceir y dystiolaeth bendant gyntaf o eglwys , mae’n debyg bod y Santes Fair yn mynd yn ôl i’r ddeuddegfed ganrif.

Yn gyntaf, roedd y gymuned fach yn cynnwys pobl a oedd yn gwasanaethu’r castell a’i warchodlu. Wrth i’r amser fynd heibio, ymunodd crefftwyr â’r rhain. Yn arglwyddi’r Mers, roedd gan Henry de Beaumont a’i olynwyr yr hawl i greu bwrdeistrefi. Wedyn dyma nhw’n cadarnhau eu gafael ar yr ardal oddi amgylch drwy annog crefftwyr a masnachwyr o Loegr i ymsefydlu yno. Ymddengys yn debygol i Abertawe ddod yn fwrdeistref ar ddechrau’r ddeuddegfed ganrif.

Ymddengys i ŵyr Henry de Beaumont, William de Newburgh, roi i Abertawe siartr breintiau rywbryd rhwng 1158 a’i farwolaeth yn 1184. Awgryma’r geiriad anheddiad wedi’i amgylchynu gan goetir. Roedd gan fwrdeiswyr hawl ‘i bori eu gyrroedd cyn belled ag y gallant fynd mewn diwrnod a dychwelyd yn yr un noson i’w cartrefi ... [yn] ... y coedwigoedd ar bob ochr o gwmpas fy mwrdeistref.’ Roedd ganddynt yr hawl hefyd i glirio a dadwreiddio coed, ac amaethu’r tir. Gallent gymryd ‘pren deri i wneud eu cartrefi a ffensiau a llongau, gan dalu 12 ceiniog am long a’r holl goed arall ar gyfer eu tân ... ac i’w gludo a’i werthu ble bynnag y dymunant ac y gallant.’ Er ei bod yn fwy na’r rhan fwyaf o drefi Cymru, roedd Abertawe’n gymharol fach o hyd. O bosibl, erbyn y drydedd ganrif ar ddeg roedd tua 80 o dai.

Entrance to Swansea Harbour, o Wales illustrated / Henry Gastineau (1834)

Gerallt yn cyrraedd Caerfyrddin

Ymddengys i’r fintai gyrraedd Castell Cydweli ar neu oddeutu dydd Sadwrn 19 Mawrth. Y diwrnod trannoeth, croesasant Afon Tywi, a Llansteffan ar y chwith a Thalacharn ar y chwith, a theithio i Gaerfyrddin. Y tebygrwydd yw iddynt dreulio’r noson yno ac wedyn marchogaeth i fynachlog Hendy-gwyn ar Daf. Ysgrifennodd Gerallt am Gaerfyrddin,

‘Ystyr Caerfyrddin yw dinas Myrddin, oherwydd yn ôl hanes Prydain, dywedwyd iddo gael ei genhedlu yno o incwbws. Mae’r ddinas hynafol hon wedi ei lleoli ar lannau afon urddasol Tywi, wedi ei hamgylchynu gan goed a thir pori, ac wedi’i hamgáu’n gadarn â muriau o friciau, y mae rhan ohonynt yn dal i sefyll: mae iddi Gantref Mawr ar yr ochr ddwyreiniol yn noddfa ddiogel, mewn perygl, i drigolion de Cymru, oherwydd ei gopa uchel uwchlaw afon Tywi, gorseddfa frenhinol tywysogion de Cymru.’

Caerfyrddin yn 1188

Gall Caerfyrddin honni bod yn dref hynaf Cymru. Hwn oedd safle gwersyll milwrol Rhufeinig i ddechrau, a sefydlwyd tua 75 OC, ac wedyn tref Rufeinig fach, (Moridunum neu Gaer-fôr).

Fodd bynnag, erbyn ymweliad Gerallt, roedd wedi ei rhannu’n ddau anheddiad, Hen Gaerfyrddin a Chaerfyrddin Newydd. Adeiladwyd Hen Gaerfyrddin, o’r gogledd-ddwyrain o ganol presennol y dref, ar safle Moridunum ac yn wir, roedd rhai o hen furiau’r dref Rufeinig yn dal i sefyll. Fe’i llywodraethwyd gan Briordy Ieuan Efengylwr a Theulyddog, clas Celtaidd yn wreiddiol, wedi’i sefydlu o bosibl mor gynnar â’r chweched ganrif. Ar ôl methu â gosod rheol Fenedictaidd, sefydlodd y Normaniaid dŷ o ganonau Awstinaidd yno. Does fawr ddim ôl o’r priordy erbyn hyn, ond yn ei anterth, roedd yn un o fynachlogydd cyfoethocaf Cymru. Cymry oedd nifer o’r Cymry; mae’n debyg mai yma yn y sgriptoriwm yr ysgrifennwyd Llyfr Du Caerfyrddin, y casgliad hynaf o farddoniaeth Cymru, er i hynny ddigwydd, o bosibl, ryw chwedeg o flynyddoedd ar ôl ymweliad Gerallt. Efallai mai’r Priordy oedd yn gyfrifol am y cysylltiad cynnar rhwng Caerfyrddin a’r dewin Myrddin.

Carmarthen o Wales illustrated / Henry Gastineau (1834)

Adeg ymweliad Gerallt, roedd Caerfyrddin Newydd yn anheddiad bach o hyd. Cymuned o wladychwyr ydoedd, a dyfodd yng nghysgod y castell. Adeiladwyd y castell hwn gan y Normaniaid ddwy filltir i’r de o weddillion Moridunum. Roedd castell Caerfyrddin gyda’r mwyaf yng Nghymru ac yn ganolfan weinyddol i frenin Lloegr ar gyfer de-orllewin Cymru. Fe’i sefydlwyd yn gyntaf ar ei safle presennol uwch afon Tywi yn 1109, ond byrhoedlog fu’r ddwy gaer gyntaf. Dinistriwyd y gyntaf gan Owain Gwynedd yn 1137, a’r ail gan Llywelyn Fawr yn 1215. Fodd bynnag, rhwng 1181 a 1183, gwariodd Harri II £160 ar ‘ein castell yng Nghaerfyrddin’; a’r gwariant yn gysylltiedig, o bosibl, ag uwchraddio ei amddiffynfeydd. Er gwaethaf hyn, byddai’r castell a welodd Gerallt wedi’i wneud o goed i raddau helaeth er efallai gyda rhywfaint o waith ailadeiladu mewn cerrig. Roedd ganddo fwnt, a thŵr ar ei ben, a dau feili o’i gwmpas.

Lleolwyd San Pedr, sy’n parhau i fod yn eglwys plwyf Caerfyrddin, rhwng y naill anheddiad a’r llall. Ceir y cyfeiriad cyntaf ati ar ddechrau teyrnasiad Harri I (1100-1135), pryd, yn yr un modd â’r priordy, fe’i rhoddwyd i Abaty Battle. Adeg ymweliad Gerallt, mae’n debyg ei bod yn fach, yn dywyll, ac yn gartrefol.

Mae’n debyg bod y bont ar draws afon Tywi yn bodoli ers amseroedd cynnar. Fodd bynnag, daw’r cyfeiriad cyntaf ati yn 1220, pan ddigwyddodd sgarmes dreisgar arni rhwng Rhys Gryg a’r Tywysog Llywelyn.

Ymweliad Gerallt â Llambed

Ymddengys i’r fintai ymweld â Llambed ar ddechrau mis Ebrill 1188. Roedd eu harhosiad blaenorol yn Aberteifi, lle pregethodd Baldwin a Gerallt ill dau ar y blaenlaniad dros Afon Teifi. Wedyn dyma nhw’n marchogaeth i Lambed. Ysgrifennodd Gerallt,

‘Yn dilyn pregeth y bore trannoeth ym Mhont Steffan, gan yr Archesgob a’r Archddiacon, a hefyd gan ddau abad o’r Urdd Sistersiaidd, Ioan o Alba-domus, a Sisillus o Ystrad Fflur, a weinodd yn ffyddlon arnom yn y parthau hynny, a chyn belled â Gogledd Cymru; darbwyllwyd llawer i godi’r groes.’

Y noson honno aethant yn eu blaen i Ystrad Fflur, lle arosasant am amser byr. Y diwrnod trannoeth, disgrifiodd Gerallt eu cyfarfod â’i berthynas Cynwrig ap Rhys ap Gruffydd, trydydd mab arglwydd y Deheubarth. Ysgrifennodd Gerallt,

‘Y bore trannoeth, a mynyddoedd uchel Moruge, a elwir yn Elenydd yn Gymraeg, daeth Cynric, mab Rhys, gyda chriw o bobl ifanc ag arfau ysgafn, i gyfarfod â ni. Roedd y dyn ifanc hwn yn deg ei bryd â gwallt cyrliog; yn dal ac yn olygus; wedi’i wisgo, yn ôl arfer y wlad, â chlogyn tenau a dilledyn mewnol: gadawyd ei goesau a’i draed, yn noeth, bid a fo am y draen a’r ysgall, dyn wedi’i addurno, nid gan gelfyddyd, ond â natur; a’i bresenoldeb yn cyfleu urddas moesau gynhenid, naturiol.’

Yn dilyn hyn, teithiodd Gerallt a’i fintai i Lanbadarn Fawr, gan fynd trwy Landdewi Brefi ar y ffordd.

Bwa mynedfa Ystrad Fflur, Wikimedia Commons, https://commons.wikimedia.org/wiki/File:Strata_Florida_entrance_arch_2014-09-09.jpg, August Schwerdfeger, CC BY 4.0 <https://creativecommons.org/licenses/by/4.0>, via Wikimedia Commons

Llambed yn 1188

Ar ddechrau’r 12fed ganrif, roedd y Normaniaid wedi codi castell mwnt a beili yn Llambed, ar safle a fyddai’n cael ei alw maes o law yn Gae’r Castell ac a fyddai yn y pen draw yn rhan o gampws Y Drindod Dewi Sant. Fodd bynnag, erbyn i Gerallt ymweld, roedd y castell eisoes wedi diflannu. Yn ôl Brut y Tywysogion yn 1137, ‘am y trydydd tro, daeth meibion Gruffudd ap Cynan i Geredigion, a llosgi castell Ystrad Meurig a Chastell Steffan [h.y. castell Llambed] a Chastell Hwmffre a Chaerfyrddin.’ Yn History and antiquities of the county of Cardigan, soniodd Samuel Rush Meyrick am ail ‘moated mound’ yn Llambed, yr honnid ei fod i’r gogledd o Eglwys San Pedr. Os oedd hyn yn gywir, mae’n debyg i’r naill gastell olynu’r llall. Fodd bynnag, does dim gwybodaeth bellach am yr ail gastell.

Mae mynwent San Pedr yn grwn, gan awgrymu o bosibl defnydd crefyddol o’r safle cyn y goncwest Normanaidd. Wedyn, rywbryd rhwng 1100 a 1135, rhoddodd Cadell, ŵyr Rhys ap Tewdwr, eglwys Llambed i Briordy Totnes. Fodd bynnag, ni soniodd Gerallt am eglwys yn Llambed. Ryw ganrif wedyn, yn 1291, aseswyd San Pedr yn £5. Yn 1808, dywedodd Meyrick fod gan yr eglwys ganoloesol ‘a nave, south aisle, and chancel, the two former of which are divided from each other by a number of pointed arches …. ; and the latter is separated from them by an ornamented screen.’

Mae’n debyg, hefyd, i Lambed yn yr Oesoedd Canol fod yn gartref i briordy, y credir iddo fod ar safle presennol Capel Shiloh a Temple Terrace. Mae bron yn sicr iddo gael ei gysegru i Sant Thomas Becket, a oedd wedi’i lofruddio yn 1170 ac a ganoneiddiwyd dair blynedd wedyn. Awgryma hanesydd lleol Llambed, W. J. Lewis, ei bod yn bosibl i Gerallt a’i fintai aros yn y priordy.

Yn 1285, rhoddodd Edward I i Lambed yr hawl i gynnal marchnad wythnosol a ffair flynyddol ar gyfer gŵyl Sant Dionysius, (8 i 10 Hydref); mae’n debygol mai dim ond cadarnhad o arfer presennol oedd hwn.

Mae cyfeiriad Gerallt at Lambed yn Bont Steffan yn dangos bod pont eisoes wedi ei hadeiladu. Er nad yw’r lleoliad yn hysbys, y gred yw iddi groesi Afon Teifi i’r de o’r dref.

Afancod

Ymddengys fod gan Gerallt ddiddordeb mawr mewn afancod. Cynhwysodd wybodaeth am lwyth o afancod ar afon Teifi, sef yr afon sy’n llifo trwy Lambed, mewn tri gwaith ar wahân, (Topographia Hibernica, Itinerarium Kambriae a Descriptio Kambriae). Mae ei ddisgrifiad o afancod yn Itinerarium Kambriae yn hir a manwl. Dechreuodd drwy esbonio,

‘Mae gan afon Teifi hynodrwydd arbennig arall, gan mai hi yw’r unig afon yng Nghymru, neu hyd yn oed yn Lloegr sydd ag afancod; yn yr Alban dywedir eu bod mewn un afon, ond yn brin iawn ... Er mwyn codi eu cestyll yng nghanol afonydd, mae’r afancod yn gwneud defnydd o anifeiliaid o’u rhywogaeth eu hunain yn hytrach na cherti, sydd, trwy ddull cludo rhyfeddol, yn symud pren o’r coedwigoedd i’r afonydd. Mae rhai ohonynt, yn ufuddhau i reddfau natur, yn derbyn ar eu bola'r boncyffion coed a dorrir gan eu cymdeithion, gan eu dal yn dynn â’u traed, ac felly â darnau ardraws wedi eu gosod yn eu safnau, fe’u tynnir ymlaen wysg eu cefnau, gyda’u llwyth, gan afancod eraill, sy’n glynu â’u dannedd wrth y rafft.’

Ef, felly, oedd y person cyntaf yn y cofnod hanesyddol i nodi bod afancod yn adeiladu trigfeydd o foncyffion a oedd wedi cwympo. Ef hefyd oedd yr awdur cyntaf i sylwi bod yr anifeiliaid yn defnyddio’i gilydd yn rhyw fath o gerbyd ar gyfer symud eu deunyddiau adeiladu.

Afanc o Historia animalium / Conrad Gessner, (1551)

Mae rhai o’r sylwadau eraill yn llai cywir. Er enghraifft, meddyliai ‘Gallai’r anifail hwn barhau yn y dŵr neu o dan y dŵr, fel broga neu forlo ... Does dim gwahaniaeth, felly, gan y tri anifail hwn fyw dan y dŵr, neu yn yr aer.’ Mewn gwirionedd, gall afancod barhau dan y dŵr am hyd at bymtheng munud; ymddangosai’n rhesymol i Gerallt y gallent anadlu yno.

Cymerodd ddeunydd arall o fwystorïau cyfoes, llyfrau a ddisgrifiai greaduriaid go iawn a chwedlonol a’u harwyddocâd alegorïaidd Cristnogol. Roedd awdurdodau clasurol, gan gynnwys Cicero a Pliny wedi credu y byddai afancod gwrywaidd yn eu disbaddu eu hunain, pan fyddai heliwr yn eu herlid. Credid bod nifer o ddefnyddiau meddygol i geilliau’r anifail. O wybod hyn, byddai’r anifail yn cnoi ymaith ei gonadau ei hun ac yn eu taflu yn llwybr yr heliwr. Llwyddodd y stori i gael lle yn y bwystorïau, lle cafodd ei hegluro’n fyw iawn gyda moesoli priodol.

Gwâl afanc, Biberbau am Zuflusskanal Seehamer See. Wikimedia Commons, https://commons.wikimedia.org/wiki/File:Biberbau_am_Zuflusskanal_Seehamer_See-1.jpg, Rufus46, CC BY-SA 3.0 <https://creativecommons.org/licenses/by-sa/3.0>, via Wikimedia Commons

Roedd Gerallt yn gyfarwydd â’r awduron clasurol yn ogystal ag â’r bwystorïau. Dyma sut y disgrifiodd ymddygiad anifail a oedd yn cael ei hela.

‘Pan wêl afanc na all ei achub ei hun rhag y cŵn sy’n ei erlid, er mwyn talu pridwerth am ei gorff ag aberth o ran, mae’n taflu ymaith y rhan honno y mae, trwy reddf naturiol yn gwybod ei bod yn wrthrych i’w geisio, ac yng ngolwg yr heliwr mae’n ei ddisbaddu ei hun, ac oherwydd yr amgylchiad hwn mae wedi ennill yr enw Castor; a phe bai’r cŵn yn erlid anifail a oedd wedi’i ddisbaddu’n flaenorol, mae ganddo’r ddoethineb i redeg i fan uchel, ac yno gan godi’i goes, mae’n dangos i’r heliwr bod amcan ei helfa wedi mynd.’

Mewn gwirionedd, heliwyd afancod am gastorewm, sef y sylwedd y maent yn eu secretu i nodi eu tiriogaeth. Defnyddir hwn i drin amrywiaeth o gyflyrau dynol, gan gynnwys clefydau croen, clwyf y marchogion, a brathiadau anifeiliaid.

Argraffiadau print o Itinerarium Cambriae

Yn 1585, cynhwysodd David Powel Itinerarium Cambriae gyfrol gynhwysfawr, a oedd hefyd yn cynnig Historia Britannica Ponticus Virinnius, Descriptio Cambriae Gerallt a’r llythyr De Britannica historia recte intelligenda. Mae rhai hepgoriadau mympwyol, er enghraifft clod Gerallt i Thomas Becket yn Llyfr 2, pennod 14. Daw copi’r Drindod Dewi Sant o lyfrgell yr Esgob Bishop Thomas Burgess. Fe’i llofnodwyd gan Robert Burton, awdur The anatomy of melancholy. Ailagraffwyd testun Powel gan William Camden yn 1602; (bid yw’r argraffiad hwn gennym). Yn ei dro, ailargraffwyd fersiwn Camden gan Henry Wharton yn 1691 a Syr Richard Colt Hoare yn 1804, (y naill a'r llall yn stoc Y Drindod Dewi Sant). Cyfreithiodd Syr Richard Colt Hoare Itinerarium Cambriae i’r Saesneg yn 1806, dan y teitl The itinerary of Archbishop Baldwin through Wales, A.D. MCLXXXVIII. Mae copïau o hwn yn ein Casgliadau Arbennig wedi ei roi yn rhan o’r casgliadau sefydlu a hefyd o lyfrgell yr Esgob Burgess.

Tudalen deitl o Itinerarium Cambriæ/ Giraldus Cambrensis