Dyddiadau pwysig i gofio / Important dates to remember
27.02.23 - 31.03.22 - HANNER TYMOR / HALF TERM
Dydd Llun 27.02.23 Monday Plant i ddychwelyd i'r ysgol / Pupils return to school.
Clybiau allgyrsiol yn ail-gychwyn 27.02.23 After school clubs restarting.
01.03.23 Dydd Gwyl Dewi / St David's day Bore te a choffi dosbarthiadau Meithrin i fl2 (amserlen i ddilyn). Eisteddfod ddwl i flynyddoedd 3 - 6. Disgyblion i wisgo gwisg Gymreig neu rhywbeth coch. Tea and coffee morning for classes Meithrin to year 2 (Timetable to follow). A fun school Eisteddfod for pupils in years 3 - 6. Children are welcome to wear a traditional Welsh costume or something red.
Dydd Iau 02.03.23 Thursday rhagbrofion Eisteddfod Gylch Llanelli. Mae’r rhagbrofion yn cael eu cynnal o fewn 4 lleoliad gwahanol yn Nhrimsaran sef; Neuadd Ysgol Trimsaran, Canolfan Dechrau’n Deg o fewn Ysgol Trimsaran, Canolfan Hamdden Plas Y Sarn a Chlwb Rygbi Trimsaran.
Dydd Iau 02.03.23 Thursday Urdd prelims for the Llanelli cluster. The prelims will be held on four separate locations in Trimsaran; Trimsaran School hall, Stafell Dechrau’n Deg/Flying Start Centre in Ysgol Trimsaran, Plas Y Sarn Leisure Centre and Trimsaran Rugby Club.
Eleni byddwn yn dathlu Diwrnod y Llyfr ar Ddydd Gwener 3ydd o Fawrth 2023. Mae’r Cyngor Ysgol wedi penderfynu gall disgyblion dewis i wisgo fel ei hoff gymeriadau a dod â’i hoff lyfr i’r ysgol i ddathlu’r diwrnod.
This year we will be celebrating World Book Day on Friday 3rd of March 2023. The School Council have decided that learners can dress as their favourite characters and bring their favourite book to school to celebrate the day.
Dydd Iau / Thursday 09.03.23 Twrnamaint rygbi'r ysgol ar gaeau Crwydriaid Llanelli a chae rygbi Ffwrnes i dîm rygbi'r ysgol blynyddoedd 5 a 6. Ysgol Ffwrnes rugby tournament taking place in Llanelli Wanderers and Furnace RFC for the school rugby side.
Fe fydd yr ysgol yn dathlu Diwrnod Trwyn Coch ar ddydd Gwener Mawrth 17eg 2023. Mae’r Cyngor Ysgol wedi penderfynu gall y disgyblion wisgo dillad diwrnod trwyn coch neu ddillad ei hun ar ddydd Gwener Mawrth 17eg.
The school will be celebrating Red Nose Day on Friday March 17th 2023. The School Council has decided that pupils can wear Red Nose Day clothes or their own clothes on this day.
Chwaraeon / Sports
Mae timau pel droed, pel rhwyd a rygbi'r ysgol wedi bod wrthi yn cystadlu'n frwd yr hanner tymor yma mewn amrywiaeth o gystadleuthau. Bu tim rygbi'r ysgol yn fuddugol yng nghystadleuaeth ysgolion Llanelli felly byddwn yn cynrychioli Llanelli yng nghystadleuaeth 10 bob ochr Cymru yng nghlwb rygbi Dyfnant mis nesaf. Da iawn i chi gyd.
The school's football, netball and rugby teams have been competing superbly this half term in a variety of competitions. The school's rugby team were victorious in the Llanelli schools competition so we will be representing Llanelli in the Welsh 10 a side competition in Dunvant rugby club next month. Well done to you all.
Thema 9-3 / The 9-3 theme
Fel ysgol i ni'n hynod o falch bod ein gwaith thema 9-3 wedi cael i ddewis fel arfer dda o ddarpariaeth y Cwricwlwm newydd i Gymru. Bwriad y thema oedd dathlu cynefin y disgyblion yng nghwricwlwm yr ysgol. Penderfynom ddathlu'r digwyddiad hanesyddol o fuddugoliaeth Llanelli yn erbyn Seland Newydd trwy thema ysgol gyfan 9-3. Bwriad oedd dathlu hanes lleol yr ysgol a'r dref fel bod y dysgwyr yn datblygu yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus o'u hardal leol. Wrth ystyried gofynion Cwricwlwm i Gymru 2022 yn ei gyfanrwydd, penderfynom blethu gofynion y Meysydd Dysgu a Phrofiad a fframweithiau sgiliau mewn cyd-destun dilys ar gyfer dysgu. Trwy wneud y prosiect gwnaethom sicrhau ein bod yn gweithredu tuag at 4 diben craidd y cwricwlwm newydd i Gymru. Isod atodwn restr chwarae ar gyfer y thema, roedd angen paratoi ar gyfer yr awdurdod lleol fel arfer dda.
As a school we are extremely proud that our theme work 9-3 has been chosen as good practice for the provision of the new Curriculum for Wales. The intention of the theme was to celebrate the pupils' habitat through the school's curriculum. We decided to celebrate the historic event of Llanelli's victory against New Zealand through a whole school theme 9-3. The intention was to celebrate the local history of the school and the town so that the learners developed into informative and knowledgeable citizens of their local area. When considering the requirements of Curriculum for Wales 2022 as a whole, we decided to connect the requirements of the areas of learning and skills frameworks in an authentic context for learning. By doing the project we ensured that we acted towards the 4 core purposes of the new curriculum for Wales. Below we attach a playlist for the theme, it was a positive experience to prepare for the local authority to share as good practice.
Meithrin Cymru ac Iwerddon
Am ddechreuad gwych i’r flwyddyn! Rydym wedi croesawi blant prynhawn newydd i ein dosbarthiadau sydd wedi ymgartrefi’r arbennig o dda. Ar ddechrau’r hanner tymor gwnaethom drafod gwahanol dywydd ac wedi mwynhau mynd allan i arsylwi ar effaith y tywydd rhewllyd ar yr amgylchedd. Darllenom y stori pengwin ar ei wyliau a gwnaethom ddidoli dillad sydd angen i fynd ar wyliau i wledydd poeth ac oer. Yn ogystal, cawsom hwyl yn arbrofi gydag ia a cheisio achub pengwiniaid oedd wedi cael eu rhewi mewn blociau ia. Yn ddiweddar, rydym wedi bod yn dysgu am adar yr ardd. Buom yn brysur yn creu ysbienddrychau a bwytawyr adar allan o ddeunyddiau ail gylchu. Gwelsom lawer o adar o amgylch yr ardal goedwig gan gynnwys aderyn du, aderyn y to a robin goch. Mae ein cyfranwyr mentrus a chreadigol hefyd wedi bod yn brysur yn peintio adar ar gyfer ein harddangosfa ac adeiladu tai iddyn nhw yn yr ardal adeiladu. Dysgom lawer o rigymau newydd yn ystod yr hanner tymor yma gan gynnwys 5 hwyaden a ‘Dyna ti yn eistedd y deryn du’. I ddathlu wythnos iechyd meddwl plant fe wnaethom lawer o weithgareddau hwylus megis, gemau amser cylch, ioga a mynd allan am dro yn y tywydd braf. Cawsom y cyfle i gwrdd â Mr Urdd hefyd, edrychwn ymlaen at ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi ar ôl gwyliau’r hanner tymor.
What a great start to the year! We’ve welcomed new afternoon pupils to the nursery who have settled in fantastically. At the beginning of term we learnt about different weathers and have enjoyed going outside to observe the effects of frosty weather on our surroundings. We read the book ‘Penguin on his holiday’ and sorted which clothing we’d need to go on holiday to different climates. We had lots of fun experimenting with ice and had a challenge to free the penguins that were frozen in ice. Recently, we’ve been learning about garden birds. We have been busy creating binoculars and bird feeders out of recycled materials. We saw lots of garden birds out in the forested area such as blackbirds, robins and sparrows. Our creative contributers have also been busy painting birds for our class display and building houses for them in the construction area. To celebrate children’s mental health week, we did lots of fun activities such as circle time games, yoga and walks out in the sunny weather. We also had the opportunity to meet Mr Urdd and are looking forward to the St Davids day celebrations after the half term holidays.
Derbyn Sbaen a'r Eidal
Am hanner tymor prysur yn y dosbarthiadau Derbyn! Rydym wedi bod yn archwilio stori Elen Benfelen a’r Tair Arth drwy ddull Pie Corbett. Rydym wedi mwynhau archwilio ein hamgylchedd dysgu a gwneud cysylltiadau rhwng dysgu blaenorol a chysyniadau newydd. Rydym wedi bod yn dysgu terminoleg newydd megis bach, canolig a mawr. Rydym wedi bod yn dysgu am y cysyniadau yma drwy ddefnyddio stori’r tair arth. Rydym wedi dysgu sut i wneud uwd ac rydym wedi mwynhau blasu’r uwd hefyd! Rydym yn gwneud cynnydd da yn ystod ein sesiynau Tric a Chlic ac yn datblygu hyder wrth adnabod llythrennau a blendio synau. Gobeithion cewch chi hanner tymor hwylus ac edrychwn ymlaen at groesawi’r plant yn ôl i barhau ar ein taith dysgu.
A busy half term in the Derbyn classes! We have been exploring Goldilocks and the Three Bears through the Pie Corbett method. We have enjoyed exploring our learning areas and making connections between our prior learning and new concepts. We have enjoyed learning new Welsh terminology such as small, medium and large. We have enjoyed doing so through a variety of activities relating to the three bears. We have been learning how to make porridge and have enjoyed tasting it too! We are making good progress with our Tric a Chlic sessions and are becoming confident learners with our letter recognition and letter blending. We hope you have a fun half term and look forward to welcoming the children back ready to continue our learning journey.
Blwyddyn 1 Awstria a Ffrainc
Mae wedi bod yn dymor prysur i blant blwyddyn 1 wrth i ni ddychwelyd yn dilyn Nadolig. Yn ystod yr wythnosau diwethaf rydym wedi creu cuddfan, bwydo’r bywyd natur o amgylch yr ysgol a hyd yn oed creu caffi ein hun. Yn ystod ein gwersi mathemateg rydym wedi ffocysu ar arian a sut i ddefnyddio gwahanol gyfuniadau i dalu am eitemau. Er mwyn cael profiad o wneud hyn, penderfynwyd creu caffi lle'r oedd angen i’r disgyblion paratoi, bwyta a thalu am eitemau gwahanol. Fe wnaethom hyd yn oed gwneud elw! Un o hoff brofiadau nifer o’r disgyblion oedd ein sesiynau ‘Mawrth Mentro mas’ dros yr wythnosau diwethaf. Ar ôl clywed stori am brofiadau a’r heriau mae’r robin goch yn wynebu, penderfynwyd y disgyblion gwella’r system eco o amgylch yr ysgol er mwyn gwella ansawdd bywyd yr adar lleol. Gwnaethom greu bwyd a gosod allan iddynt fwyta yn y gobaith byddai mwy o adar yn dod i’r ysgol. Yr her nesaf oedd creu cuddfan i’r disgyblion cuddio er mwyn gwylio’r adar oedd yn dod i’r ysgol. Rhoddodd y tasgau yma nifer o gyfleoedd i’r disgyblion ymarfer llond llaw o sgiliau o ddilyn cyfarwyddiadau i ddatrys problemau mewn tîm. Rydym yn falch i ddweud bod yna cynnydd yn nifer yr adar o amgylch yr ysgol ers ein hymdrechion. Roedd yn wythnos iechyd meddwl i blant pythefnos yn ôl felly aeth y disgyblion allan i gerdded er mwyn cael awyr iach a chlirio’r pen. Ar ôl cerdded i’r traeth, chwaraewyd y disgyblion yn yr haul gan ymlacio a mwynhau gyda ffrindiau. Gobeithio byddwch chi’n aros yn ddiogel a mwynhau eich hanner tymor. Joiwch!
It’s been a busy few weeks for the children in year 1 as we’ve dived straight back into it following the Christmas break. We’ve built dens, fed local wildlife, launched a pop-up café and even been to the beach during the last 6 weeks. During our mathematics lessons, our focus has been on money. We began with identifying each coin and then looked at using different combinations to pay for items. To get real-life experience of this we created a café where the students ordered, prepared, ate, and paid for their goods. We even managed to turn a profit! A highlight for many of the children has been our ‘Mawrth Mentro mas’ sessions over the last few weeks. Having heard a story about the difficulties birds can have, the children decided to help create a healthier ecosystem around the school to allow birds to thrive. We created and set food out for them, used watercolors to draw and paint the local wildlife, and even built bird-watching dens. The children gained valuable skills while completing all these tasks from following instructions to problem-solving within a team. We’ve seen an upturn in birds on the school grounds since which has pleased many of the pupils. As we celebrated Children’s mental health week, we decided to go for a walk and show the children the power of fresh air. Having walked to the beach it was only right that we should have a play and enjoy ourselves As you can see by the pictures, everyone managed to relax and enjoy their morning. We hope you have a safe and enjoyable half-term break. Joiwch!
Blwyddyn 2 Portiwgal a Sweden
Am Hanner Tymor prysur! Mae’r dysgwyr wedi bod yn brysur iawn yn ystod yr Hanner Mae wedi bod yn dymor prysur ym mlwyddyn 2. Roedd cyffro mawr am ein thema newydd ‘Hen Wlad Fy Nhadau’. Rydym wedi bod yn dysgu stori Santes Dwynwen ac wedi mwynhau dysgu symudiadau i ail ddweud y stori ar ffurf Pie Corbet. Cawsom hwyl yn dilyn cyfarwyddiadau a choginio bisgedi Dwynwen. Yna buom yn brysur yn ail ysgrifennu’r cyfarwyddiadau allan i ffrind i ddarllen. Rydym wedi bod yn brysur iawn yn darlunio ac yn creu llwy garu allan o does ac yn fuan byddwn yn mynd i greu un go iawn ar argraffwr 3d. Cawsom wythnos iechyd a lles hyfryd, yn gwneud Yoga, mynd am dro a chwarae ym mharc Howard. Rydym wedi bod yn edrych ar gestyll o gwmpas Cymru ac yn lleoli ar fap o Gymru. Yn Fathemateg rydym wedi bod mesur cynhwysedd i greu diod hud i Dwynwen a phwyso llysiau ar gyfer Cawl Cymreig. Buom yn ffodus iawn i gwrdd â Mr Urdd yn ysgol. Roedd e’n brofiad cyffroes iawn ac rydym yn dymuno pob lwc i’r plant sydd yn cystadlu yn yr eisteddfod y flwyddyn yma!
It has been a busy term for year 2. There was great excitement about our new theme 'Hen Wlad fy nhadau'. We have been learning the story of Saint Dwynwen and have enjoyed learning moves to retell the story in the style of Pie Corbet . We had fun following instructions and cooking Dwynwen biscuits. We have been busy rewriting the instructions for a friend to read. We have been very busy drawing and creating a love spoon out of dough and soon we are going to create a real one on a 3d printer. We had a wonderful health and wellness week, doing Yoga, going for walks and playing in park Howard. We have been looking at castles around Wales and locating them on a map of Wales. In Maths we have been measuring capacity to create a magic potion for Dwynwen and weighing vegetables for Cawl. We were lucky enough to have Mr Urdd visit the school which was very exciting and we wish good luck to the children competing in the eisteddfod!
Blwyddyn 3 Alban a Hwngari
Ein thema'r tymor yma yw ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ felly fe wnaethom ni blwyddyn 3 ddysgu’r chwedl Gymreig ‘Blodeuwedd’. Fe wnaethom ni symudiadau i adrodd y chwedl yma ar lafar. Diolch i chi a oedd yn gallu dod i wasanaeth Yr Alban a Hwngari. Cafodd y disgyblion y cyfle i gynllunio a chreu ffrog allan o flodau ar gyfer y cymeriad ‘Blodeuwedd’. Daeth Katie, darlithwraig tecstilau, draw o Goleg Sir Gâr i ddysgu’r plant sut i winïo. Mae’r disgyblion wedi dysgu tipyn y tymor yma am flodau ac am goed. Diwedd mis Ionawr, daeth Sara o’r Gerddi Fotaneg i’r ysgol i gynnal gweithdy am goed. Dysgodd y disgyblion am y wahanol gen sydd ar goed yr ysgol a sut i weithio allan oedran coeden. Yn ystod yr wythnos ‘Iechyd Meddwl Plant’ fe wnaeth y disgyblion cael sesiwn ioga, creu poster sut i gadw’n ddiogel ar-lein, mynd am dro yn yr awyr agored yn ogystal â chael sesiwn i liwio darlun (‘mindfulness colouring’).
Our theme this term is 'Hen Wlad My Fathers' therefore we year 3 decided to learn the Welsh legend 'Blodeuwedd'. We made movements to tell this tale verbally. Thank you to those who were able to come to Yr Alban and Hungary’s class assembly. The pupils had the opportunity to plan and create a dress for the character 'Blodeuwedd'. Katie, a textiles lecturer, from the Graig College came over to teach the children how to sew flowers. The pupils have learned a lot this term about flowers and trees. At the end of January, Sara from the Botanical Gardens came to the school to hold a workshop about trees. The pupils learned about the different lichens on the school's trees and how to work out the age of a tree. During 'Children's Mental Health' week the pupils had a yoga session, created a poster on how to stay safe online, went for a walk outdoors and also had a mindfulness colouring session.
Blwyddyn 4 Almaen a Swistir
Dechreuom y flwyddyn newydd yn dysgu am addunedau Blwyddyn Newydd a meddwl am fyrdd gallwn ni gadw atynt! Rydym wedi bod yn dysgu chwedl Merch Llyn y Fan Fach ar lafar ar ffurf ‘Pie Corbett’ yn ystod yr hanner tymor, a’n creu mapiau stori a symudiadau i gofio’n stori. Fel rhan o’n gwaith iaith a mathemateg, dysgom ni sut i ddarllen a chreu rysáit a mesur a phwyso cynhwysion er mwyn pobi bara – roedd hwn yn weithgaredd llawn hwyl, ac fe lwyddon ni gyd i greu bara blasus iawn! Fe wnaeth y ddau ddosbarth baratoi gwybodaeth i’w gyflwyno fel Gwasanaeth Dosbarth i’w teuluoedd – thema Dosbarth Swistir oedd traddodiadau blwyddyn newydd ar draws y byd a’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd, tra dysgodd Dosbarth Almaen i ni am Santes Dwynwen. Daeth yr arlunydd Natalie Chapman atom i wneud gweithdy argraffu gyda ni, oedd yn ddifyr iawn! Aethom am dro yn ystod wythnos Iechyd Meddwl Planti Barc Howard i fraslunio rhai o’r coed sydd yno, ac roedd yn llesol iawn i ni. Rydym ni hefyd wedi bod yn gwneud sesiynau yoga i ymestyn y corff a’r ymennydd yn ystod ein gweithgareddau meddwlgarwch! Rydym hefyd wedi bod yn dysgu sut i ddarllen cwmpawd a deall sut mae cyfeirnodau grid a chyfesurynnau yn gweithio ar fapiau.
We started the new year learning about New Years Resolutions and thinking of ways we can stick with them! We have been learning the legend ‘Merch Llyn y Fan Fach’ using the ‘Pie Corbett’ technique during this half term, and have created story maps and movements to help us to remember the story. As part of our language and maths work, we have learnt how to read and write a recipe to measure and weigh ingredients to bake bread – this was an activity full of fun, and we successfully made some very tasty bread! Both classes prepared information to present to their families during Class Assembly – the Swistir Class talked about new year’s traditions around the world and Chinese New Year, whilst dosbarth Almaen presented about Santes Dwynwen. The artist Natalie Chapman came to do a printing workshop with us, which was very interesting! We went for a walk to Park Howard during Children’s Mental Health Week to sketch some of the trees there, it was very beneficial for our wellbeing. We have been doing yoga sessions to stretch our bodies and minds! We have also been learning about how to read a compass and understand how maps work using co-ordinates.
Blwyddyn 5 Belg a'r Ffindir
Mae Blwyddyn Pump wedi bod yn brysur iawn y tymor yma! Mae’r dosbarthiadau wedi bod yn astudio'r chwedl Branwen. Maent wedi creu map stori o’r chwedl cyn mynd ati i geisio dysgu’r stori. Cafwyd llawer o hwyl yn perfformio darnau o’r stori a’u recordio. Yr ydym wedi bod yn astudio atalnodi yn agos iawn gyda’r disgyblion yn newid sgwrs testun rhwng Branwen a Bendigeidfran i sgript! Yn amlwg y digwyddiad mwyaf pwysig y tymor yma oedd ein hymweliad i Abernant, gyda’r disgyblion yn aros am ddwy noson ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored a oedd yn eu herio’n gorfforol ac yn feddyliol. Cafwyd amser arbennig, a braf oedd clywed rhai o’r disgyblion am geisio rhai o’r gweithgareddau eto ar ôl dod nôl. Gwych! Cafwyd cyfle i weld beth oedd swydd heddlu gyda chwmni Zakon Training. Fe wnaeth y disgyblion gael y profiad o gymryd olion bysedd, dysgu beth oedd DNA a datrys llofruddiaeth!
Year Five have a had a very busy half term! The classes have been studying the legend of Branwen. They have created a story map before going on to try and learn the legend. They had a lot of fun trying to act out certain parts of the story and recording themselves using the Seesaw app. We have been studying punctuation closely and we even turned a text message conversation between Branwen and Bendigeidfran into a script! Obviously, the big event of the term was our visit to Abernant Outdoor Education Centre. The pupils stayed there for two nights and tried different activities that tested them physically and mentally. It was great to hear some of the pupils have tried some of the activities after arriving home which shows how these type of trips can inspire the pupils. Great stuff! The pupils had a police workshop with Zakon Training. They learnt how to take fingerprints, what DNA is and the even solved a murder! A great experience for all.
Blwyddyn 6 Pwyl a Groeg
Chwe wythnos yn llawn bwrlwm a dyddiau prysur! Yn ystod yr hanner tymor yma, rydym fel blwyddyn 6 wedi bod yn cystadlu, cynnal a pherfformio mewn gweithgareddau di-ri yn ogystal â dysgu am ein thema newydd sef ‘Hen Wlad Fy Nhadau’. Ar ddechrau’r tymor gwnaeth tîm o ddisgyblion gynrychioli’r ysgol yn llwyddiannus yng nghystadleuaeth ‘Cwis Dim Clem’, gan gipio’r ail safle yn erbyn ysgolion clwstwr Llanelli. Rydym hefyd wedi cynrychioli’r ysgol yng nghystadlaethau pêl-droed, rygbi a phêl-rwyd, a phob lwc i’r tîm rygbi yn y gystadleuaeth Genedlaethol 10 bob ochr Cymru sy’n cael ei gynnal mis nesaf. Yn ystod yr hanner tymor, gwnaethom gymryd rhan mewn sesiynau diogelwch ar y we gyda CYCA. Yn dilyn y sesiynau yma, gwnaeth griw ohonym gynnal sesiwn gyda rhieni a’r cyhoedd am ddiogelwch y we yng Nghanolfan CYCA yn y dre. Yn fwy diweddar, rydym wedi bod yn dysgu diogelwch y ffordd ar ein beiciau ac wedi cyflawni hyfforddiant hyfedredd beicio. Profiad buddiol a gwerthfawr iawn! I ddathlu’r Eisteddfod 2023 yn dod i Lanymddyfri, rydym wedi bod yn codi arian trwy wisgo dillad coch, gwyn a gwyrdd, trwy brynu nwyddau a’r peth mwyaf cyffrous oedd Mr Urdd yn ymweld â ni yn yr ysgol.
Rydym wedi cyflawni amrywiaeth o weithgareddau tu fewn a thu allan i’r dosbarth. I gyd-fynd gyda’n thema, rydym wedi bod yn dysgu chwedl ‘Cantre’r Gwaelod’ trwy ddefnyddio dull Pie Corbett. Yn ogystal, dysgom am hanes Tryweryn a boddi Capel Celyn a’r effaith cafodd hyn ar y pentrefwyr. Yn ein gwaith mathemateg a rhifedd rydym wedi bod yn datblygu ac atgyfnerthu ein dealltwriaeth o onglau trwy archwilio a mesur gwahanol fathau o onglau yn ein hamgylchedd naturiol. Hefyd, gwnaethom ddefnyddio ein gwybodaeth o onglau i ddarganfod yr ongl rhwng dau leoliad ar fap o Gymru. Rydym wedi cynnal sawl arbrawf gwyddonol gan gynnwys arbrawf i ddarganfod sut mae golau yn teithio, ac arbrawf i ddarganfod sut mae cysgodion yn ffurfio a’r hyn sy’n effeithio ar faint cysgod. Yn dilyn yr arbrofion yma, bu’n rhaid cyflwyno’r canlyniadau mewn graffiau bar a graffiau llinell. Yn yr wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn ymlacio a gwella lles meddyliol trwy wneud ioga, gweithgareddau meddylgarwch a mynd am dro yn yr awyr iach i fyny i Barc Howard. Edrychwn ymlaen at yr hanner tymor nesaf gyda mwy o weithgareddau a phrofiadau cyffrous.
Six weeks full of energetic and busy days! During this half term, we as year 6 have been competing, hosting and performing in countless activities as well as learning about our new theme which is 'Hen Wlad Fy Nhadau’. At the beginning of the term, a team of pupils successfully represented the school in the 'Cwis Dim Clem' competition, securing second place against Llanelli cluster schools. We have also represented the school in football, rugby and netball competitions, and good luck to the rugby team in the Wales National 10 a side competition which is being held next month. During the half term, we took part in internet safety sessions with CYCA. Following these sessions, a group of us held a session with parents and the public about internet safety at the CYCA Center in town. More recently, we have been learning about road safety on our bikes and have participated in cycling proficiency training. This was a very beneficial and valuable experience! To celebrate the 2023 Eisteddfod coming to Llandovery, we have been raising money by wearing red, white and green clothes, by buying goods and the most exciting event was Mr Urdd visiting us at the school.
We have carried out a variety of activities inside and outside the classroom. To coincide with our theme, we have been learning about the legend of 'Cantre'r Gwaelod' using the Pie Corbett method. In addition, we studied the history of Tryweryn and the drowning of Capel Celyn and the effect this had on the villagers. In our mathematics and numeracy work we have been developing and reinforcing our understanding of angles by examining and measuring different types of angles in our natural environment. We also used our knowledge of angles to find the angle between two locations on a map of Wales. We have carried out several scientific experiments including an experiment to find out how light travels, and an experiment to discover how shadows form and what affects the size of a shadow. Following these experiments, the results had to be presented in bar graphs and line graphs. In the last weeks of term, we have been learning to relax and improve our mental wellbeing by taking part in yoga sessions, mindfulness activities and going for a stroll in the fresh air to Park Howard. We look forward to the next half term with more exciting activities and experiences.