Llun gan Josef Herman (tua 1938) Sketch of ‘Scrubbing the Floor’. [Inc ar bapur]. TATE.
Nodyn i oedolyn/ Athro
Mae'r themâu yn y prosiect hwn yn ymdrin â cholled, marwolaeth a chofio teulu a oedd wedi marw yn y geto yn Warsaw. Cynhyrchodd Herman luniau hyfryd wrth gofio'i deulu coll. Prosiect a arweinir gan artistiaid yw hwn a gynlluniwyd ar gyfer plant ifanc ond bydd angen cymorth arnynt i ymgymryd â rhai o'r themâu.
If you want the English version of this project please click on this link. Y fersiwn Saesneg yma.
Cyflwyniad i'r prosiect
Cofiwch y gellir cwblhau'r prosiect hwn dros nifer o sesiynau. Cymerwch eich amser i ddysgu am yr arlunydd Josef Herman.
Pwy oedd Josef Herman?
Yn y prosiect celf hwn byddwch yn archwilio i gelf yr artist Josef Herman pan fu'n byw yn Glasgow yn yr Alban rhwng 1940 a 1943.
Ganwyd Josef Herman yng Ngwlad Pwyl yn 1911, i deulu Iddewig. Gadawodd Warsaw yng ngwlad Pwyl yn 1939 gan gyrraedd yr Alban yn 1940. Bu Herman yn byw yng Nghymru am 11 mlynedd o 1944.
Beth fyddwch yn ei wneud?
Byddwch yn:
- Gwneud Marciau
- Braslunio
- Edrych ar ffilmiau byrion am Josef Herman
- Edrych ar lluniau Herman am gofio
- Gwneud lluniau o wrthrychau eich hun
Yn y dasg gyntaf, byddwch yn ymarfer gwneud marciau.
Cadwch yr holl luniau tan ddiwedd y prosiect.
Llun y prosiect (2020) Gwneud Marciau - esiampl
Gwneud Marciau
Edrych ar waith Herman a gwenud marciau eich hun.
Bydd angen:
- Pensil
- Papur - gall fod yn A4 neu lawer o wahanol feintiau
- Gwneud llawer o wahanol farciau
- Defnyddio gwahanol fathau o bapur neu arwynebau
- Os ydych chi'n cael hwyl gwnewch lawer o farciau
- PEIDIWCH â defnyddio rhwbiwr, mae'n cymryd amser wrth eich gwaith
Mae'n bwysig i artist arbrofi cyn dechrau gweithio.
Yn y dasg nesaf, byddwch yn copïo ac yn braslunio trwy edrych ar waith Josef Herman
Llun gan Herman (tua 1938) Sketch of ‘Scrubbing the Floor’. [Inc ar bapur]. TATE.
Braslunio
Edrychwch ar y marciau ym mraslun Herman ‘Scrubbing the Floor’.
Edrychwch ar a brasluniwch fanylion y braslun gan Herman.
- Ceisiwch wneud marciau fel Herman
- Gwnewch farciau yn gyflym ac yn araf
- Gwnewch gymaint o frasluniau ag y dymunwch
- Mwynhwech
Defnyddiodd Josef Herman lawer o farciau gwahanol yn ei gwaith.
Thema: Cofio
Byddwn nawr yn edrych ar sut yr arluniodd Josef Herman ei atgofion. Ar ôl iddo adael Gwlad Pwyl, gwnaeth luniau mewn cyfres o'r enw Atgof o'r Atgofion (Memory of Memories (1940-43). Byddwch yn dysgu am y rhain yn y ffilm hon. Mae rhai rhannau o'r ffilm yn adrodd stori drist.
Nawr gadewch i ni wneud rhywfaint o arlunio trwy edrych ar fanylion agos yn lluniau Herman.
Llun gan Herman (1940-43) ‘My grandmother telling a story on a Friday evening’. Glasgow Drawings, Memory of Memories the Eye Centre Glasgow (1985)
Arlunio
Edrych ar wrthrychau Herman
- Edrychwch ar fanylion lluniau Herman
- Edrychwch ar y marciau hyfryd a gwnaeth
- Copïwch y manylion yma
Cofiwch beth ddywedodd Herman am y pethau yn ei luniau cof. "Doeddwn i ddim yn gallu cyffwrdd â nhw ond gallwn eu dilyn gyda llinell."
Llun gan Herman (1940-43) ‘I Dream About My Sister'. Glasgow Drawings, Memory of Memories the Eye Centre Glasgow (1985)
Arlunio eich gwrthrychau
Dewch o hyd i 3 gwrthrych i'w arlunio. Dyma rai enghreifftiau i chi.
- Brwsh gwallt
- Golau
- Cadair
- Bwrdd/bord
- Cwpan
- Brwsh llawr
- Cloc
Edrychwch ar ac arluniwch y 3 pheth yma. Llenwch eich papur yn glyflym wrth wneud lluniau a marciau o'ch gwrthrychau.
I helpu i wneud y lluniau hyn cofiwch am yr hyn rydych wedi dysgu hyd yma yn y prosiect hwn.
Dyma esiampl i chi.
Mae edrych a gwneud lluniau yn un rhan o waith artist. Rhan arall yw defnyddio dychymyg.
Llun y prosiect (2020) Cyfansoddiad - esiampl
Arlunio o'ch cof gyda'ch llygaid ar gau.
Sut i wneud hyn.
O'r 3 gwrthrych dewiswch eich hoff un.
- Gosodwch eich gwrthrych o'ch blaen
- Gwnewch yn siŵr bod gennych rywbeth i arlunio arno - papur a phensil
- Caewch eich llygaid a thynnwch lun o'r gwrthrych
- Agorwch eich llygaid i weld sut olwg sydd arno
Mae'n hwyl tynnu lluniau gyda'ch llygaid ar gau llawer o weithiau ar wahanol feintiau o bapur
Mae'n iawn:
- os yw'n sgriblad
- os nad yw'n edrych fel y gwrthrych
- os byddwch yn gwneud camgymeriad
Peidiwch â phoeni os nad ydych chi'n deall, y peth pwysig yw tynnu lluniau wrth gofio. Mae hyn yn ffordd gyflym a hwyliog i arlunio.
Llun y prosiect (2020) Cyfansoddiad - esiampl
Gwnewch lun gyda'ch lluniau (Creu cyfansoddiad).
Gosod lluniau gydai gilydd. Mwynhwech arbrofi.
Sut i wneud hyn.
- Gosodwch yr holl luniau o'r prosiect hwn o'ch blaen
- Arbrofwch gyda rhoi eich darluniau un ar ben y llall
- Meddyliwch sut maen nhw'n edrych
- Efallai y byddwch yn dewis defnyddio 2 lun yn unig neu bob un
Cofiwch nad oes ffordd gywir nac anghywir i wneud hyn. Mae yn ymwneud â'r hyn rydych yn ei hoffi.
Mae Ymddiriedolwyr Sefydliad Celf Josef Herman bob amser yn hapus i weld ymatebion i waith Josef Herman.
Felly rhannwch y lluniau rydych wedi'u gwneud gyda ni - fe fyddem ni wrth ein bodd yn eu gweld.
Gallwch bostio eich lluniau ar ein 'Oriel Instagram' @orieljhcymru #jhsp20 #capsiwlcovidjh20 #josefherman
Gobeithio eich bod wedi mwynhau dysgu am yr artist Josef Herman a gwneud eich gwaith eich hun.
Am fwy o wybodaeth gallwch ymweld â Gwefan Sefydliad Celf Josef Herman. http://josefhermanfoundation.org/
Artistiaid y prosiect: Gwenllian Beynon, Nicola Dowdle, Jessica Burtonshaw, Catrin Bradley, Owain Roberts. A diolch arbennig i Steff am brofi'r adnodd hwn i ni.
Cafwyd caniatâd i ddefnyddio celf Josef Herman trwy garedigrwydd ©The estate of Josef Herman (nid at ddefnydd masnachol) Ffotograffau ©SCJHCymru ©Bernard Mitchell Herman stiwdio ©Llew E. Morgan estate Herman Ystradgynlais. Gwaith ar gael ar https://www.tate.org.uk/