Nadolig Llawen i chi gyd Merry Christmas to you all.
Dyddiadau pwysig i gofio / Important dates to remember
09.01.23 - 17.02.22 - HANNER TYMOR / HALF TERM
Dydd Llun 09.01.23 Monday Plant i ddychwelyd i'r ysgol / Pupils return to school
Dydd Gwener 13.01.23 Friday - HMS (dim disgyblion) / INSET (no pupils)
Clybiau allgyrsiol yn ail-gychwyn 16.01.23 (Amserlen i ddilyn) After school clubs restarting (Timetable to follow)
Dydd Iau / Thursday 02.02.23 Twrnamaint Pêl droed cymysg yr URDD blynyddoedd 5 a 6 / Years 5 and 6 URDD Mixed football tournament.
Dydd Mercher / Wednesday 08.02.23 - Dydd Gwener / Friday 10.02.23 Cwrs preswyl blwyddyn 5 i Manor adventure. Year 5 Residential visit to manor adventure.
Sioe 9 - 3
Cliciwch ar y ddolen i weld ein perfformiad o'r Sioe 9-3 Click on the below link to view the recording of the 9-3 performance.
Sioe Meithrin a Derbyn
Mwynheuodd y disgyblion paratoi a pherfformio ei gyngerdd Nadolig cyntaf erioed o flaen cynulleidfa byw ac roedd pob un yn ardderchog! Rydym yn falch iawn o bob plentyn em ei ymdrech yn ystod y sioeau. Diolch am eich holl gymorth ar gyfer bob sioe ac am eich sylwadau positif.
The pupils enjoyed preparing and performing their first ever Christmas concert with a live audience this year and they were fantastic. We are very proud of all their efforts. Thank you for the support for all three concerts and positive comments.
Staffio / Staffing
Yn dilyn cyfweliadau ar ddiwedd tymor yr Haf 2022 mae’n bleser gennym rannu gyda chi bod y Corff Llywodraethol wedi penodi athrawes newydd i'r ysgol i ddechrau ym mis Ionawr. Bydd Miss Kate Evans yn cymryd dros gyfrifoldeb dosbarth blwyddyn 5 Ffindir. Mae Mrs Sophie Davies dal mynd i fod yn gweithio yn yr ysgol, hoffwn ddiolch i Mrs Davies am eu holl waith caled o fis Medi hyd at y Nadolig.
Following interviews at the end of the Summer term we are pleased to share with you that the Governing Body has appointed a new teacher to the school to start in January. Miss Kate Evans will take over the responsibility of the year 5 Ffindir class. Mrs Sophie Davies is still going to be working at the school, we would like to thank Mrs Davies for all her hard work from September until Christmas.
Meithrin Cymru ac Iwerddon
Mae wedi bod yn hanner tymor prysur arall ym Meithrin Cymru ac Iwerddon. Mae’r plant wedi mwynhau dathlu nifer o wahanol achlysuron megis Diwrnod Plant Mewn Angen, Wythnos Gwrth Fwloi, Diwrnod y cofio a chawsom hwyl yn gwylio a chefnogi Cymru yng ngwpan y byd. Mae’r plant wedi bod yn brysur yn dysgu stori’r geni ar ffurf Medru dweud, medru gwneud a gwnaethant ymdrech wych yn perfformio’r stori a chanu yn y sioeau Nadolig. Dros yr wythnosau diwethaf rydym wedi bod yn brysur yn gwneud crefft Nadoligaidd a chreu carnifal ein hun yn yr ardal allanol. Rydym hefyd wedi bod yn dysgu geirfa newydd trwy ddefnyddio ein testunau trafod yn ogystal ag ymarfer a datblygu ein sgiliau dal pensil. Edrychwn ymlaen at fwy o gyfleoedd dysgu hwyl yn y flwyddyn newydd.
It’s been another busy half term in Meithrin Cymru and Iwerddon. The children have enjoyed celebrating a number of different occasions, including Children in Need, Anti-bullying week, Remembrance Day and we had lots of fun watching and supporting Wales in the World Cup. The children have been very busy learning the Nativity story and did a fantastic effort performing in the Christmas shows. Over the last few weeks, the children have been busy doing Christmas crafts and creating their own carnival in the outdoor area. We’ve also been busy learning new vocabulary using our discussion topics as well as practising our pencil control skills. We look forward to more fun learning opportunities in the new year.
Derbyn Sbaen a'r Eidal
Rydym wedi mwynhau tymor prysur a llwyddiannus yn y dosbarthiadau Derbyn. Mae sawl un o’n dysgwyr wedi dathlu pen-blwydd yn 5 mlwydd oed yn ddiweddar ac rydym wedi mwynhau dathlu pob pen-blwydd gyda’n gilydd. Rydym wedi bod yn datblygu ein hannibyniaeth yn y dosbarth, a datblygu meddylfryd positif a rhoi cynnig ar dasgau newydd. Mae’r dysgwyr wedi mwynhau paratoi a pherfformio ei gyngerdd Nadolig cyntaf erioed o flaen cynulleidfa byw ac roedd pob un yn ardderchog! Rydym yn falch iawn o bob plentyn em ei ymdrech yn ystod y sioeau. Rydym wedi mwynhau cefnogi Cymru yn ystod Cwpan y Byd. Rydym wedi bod yn dysgu ‘yma o hyd’ ac rydym yn canu gyda balchder. Mae ein dysgwyr hefyd wedi bod wrthi yn datblygu ei sgiliau mynegiannol dros yr wythnosau diwethaf, trwy amrywiaeth o weithgareddau megis dawnsio, canu, arlunio a phaentio. Rydym yn dysgu’r pwysigrwydd o rannu ein syniadau a theimladau a gwerthfawrogi eraill wrth iddyn nhw rannu, sydd yn ein helpu fod yn ddinasyddion ystyriol a meddylgar. Rydym yn edrych ymlaen at groesawi’r dysgwyr nol o’r ysgol ym mis Ionawr I barhau ar ein taith dysgu gyda’n gilydd. Rydym yn frwdfrydig i glywed am ddiddordebau a syniadau newydd y tystwyr er mwyn llywio’r ffordd ar gyfer ein taith. Nadolig Llawen & Blwyddyn Newydd Dda.
We have had a busy and successful Autumn term in the Reception classes. Many of our learners have turned 5 now, and we have enjoyed celebrating each birthday in class together. We have been working on our independency in class and developing a positive mindset to new tasks and being willing to give them a go. The learners have enjoyed preparing and performing their first ever Christmas concert with a live audience this year and they were fantastic! We are very proud of each and every child for their participation and effort during these shows. We have enjoyed learning about the World Cup and supporting Wales. We have also been learning ‘yma o hyd’ and we perform it with such pride. Our learners have been developing their expression skills over the last few weeks through various creative outlets such as dancing, singing, drawing, and painting. We are learning the importance of sharing our thoughts and feelings and appreciating those of others which is helping us to become thoughtful and considerate citizens. We look forward to welcoming the children back to school in January where we will continue our learning journey together. We are excited for the children to share their new interests with us which will pave the way for our learning. Merry Christmas & A Happy New Year from us all.
Blwyddyn 1 Awstria a Ffrainc
Mae wedi bod yn dymor llawn cyffro a phrofiadau newydd i blant blwyddyn 1. Cynigodd y sioe 9-3 yn theatr Ffwrnes y cyfle i’r disgyblion cael profiad o gydweithio gyda phlant o flynyddoedd gwahanol. Gwelwyd cynnydd yn lefelau canolbwyntio a hyder y disgyblion wrth i’r ymarferion mynd yn ei flaen a gorffennwyd gyda’r profiad byth cofiadwy o berfformio ar lwyfan enfawr o dan y goleuadau llachar. Rhaid canmol ymdrech ac ymddygiad y disgyblion yn ystod y sioe ac eto pwysleisio ein balchder dros bob un ohonynt.Yn yr wythnosau oedd yn arwain at y sioe, penderfynwyd y disgyblion creu poster i ddenu pobl i brynu tocynnau. Roedd ansawdd y posteri yn uchel iawn gyda nifer o bosteri gwych. Yn ogystal â hyn, ein prif ffocws oedd ar rif yn ystod ein gwersi mathemateg. Astudiwyd dwbl rhifau hyd at 20 a sut i adnabod odrifau ac eilrifau yn gywir. Mae sgiliau crefft y ddwy Mrs Davies wedi bod yn fuddiol iawn wrth iddynt helpu’r disgyblion creu cardiau Nadolig a chalendrau ar gyfer y flwyddyn newydd. Gobeithio y byddwch yn mwynhau nhw! I orffen felly hoffwn unwaith eto diolch i chi am eich holl gefnogaeth ag ymdrechion dros yr wythnosau diwethaf. Roedd y negeseuon caredig am y sioe a’r lluniau gwych o eitemau ‘th’ o amgylch y tŷ yn hyfryd i weld. Dymunwn Nadolig llawen i bawb a gobeithiwn eich bod yn cael gwyliau hapus a ddiogel. Nadolig llawen!
It’s been a term filled with excitement and new experiences for our children in Year 1. As you can imagine, practicing for our 9-3 show has taken up quite a bit of time however the range of experiences it has offered couldn’t have been replicated in class. The pupils have interacted with pupils from other year groups, working together towards the common goal of putting on the finest show possible. We saw concentration and maturity increase with every passing practice and all this culminated in a spectacular show under the bright lights of the Theatre Ffwrnes. We’d like to take this time again to praise the effort and behaviour of year 1 pupils during the show and express how proud we are of every pupil. In the weeks leading up to the show, the students decided to create posters to advertise the show and sell some extra tickets. During our mathematics lessons we focused mainly on number concepts. We learned how to double numbers up to 20, using different techniques to achieve this while also learning the difference between an odd and even number. We’ve been fortunate to use the craft expertise of Mrs A.Davies and Mrs H.Davies as they assisted the students in creating Christmas cards and preparing their calendars for the New Year. We hope you like them! As a final note we’d like to thank you for your patience and support over the last few weeks. The kind messages after the show and all the pictures of household items with ‘th’ in them were wonderful to see! We wish you a merry Christmas and hope you all have a lovely and safe Christmas.
Merry Christmas!
Blwyddyn 2 Portiwgal a Sweden
Am Hanner Tymor prysur! Mae’r dysgwyr wedi bod yn brysur iawn yn ystod yr Hanner Tymor diwethaf yn parhau gydag ein thema 9-3. Uchafbwynt yr Hanner Tymor oedd cael cyfle bythgofiadwy i berfformio ein sioe 9-3 yn Theatr y Ffwrnes. Gwnaeth y disgyblion datblygu amrywiaeth o sgiliau wrth baratoi ar gyfer y sioe gan fwynhau dysgu’r caneuon, actio a dawnsio’n wych! Gobeithio gwnaethoch chi fwynhau ein perfformiadau. Yn ogystal â’r sioe mae’r disgyblion wedi bod yn brysur yn ysgrifennu dyddiadur am ein taith o amgylch Llanelli. Roedd yn bleser i groesawi Gemma o ‘2BEnterprising’ i gynnal gweithgaredd Dwylo Cyfeillgar gyda’r disgyblion. Yn ogystal â’r thema 9-3 rydyn ni wedi bod yn dysgu am Gwpan y Byd. Mae’r disgyblion wedi mwynhau cylchdroi o amgylch dosbarthiadau’r ysgol yn dysgu am wlad wahanol ym mhob dosbarth. Ym mathemateg mae’r disgyblion wedi bod yn ffocysu ar gyfri fesul 2,5 a 10 a datblygu sgiliau adio a thynnu. Hefyd, mae’r disgyblion wedi bod yn datblygu eu sgiliau creadigol gan greu portreadau o chwaraewyr tîm Llanelli. Dros yr wythnosau diwethaf mae’r disgyblion wedi mwynhau heriau Nadolig. Maent wedi ysgrifennu llythyron at Sion Corn, arbrofi a chreu bechgyn bach toes a defnyddio ansoddeiriau a chymariaethau i ddisgrifio Aled afal a’i ffrindiau. Mwynhewch wyliau’r Nadolig ac rydym yn edrych ymlaen at eich croesawi yn ôl ym Mis Ionawr.
What a busy Half Term! The learners have been very busy during the last Half Term continuing with our 9-3 theme. The highlight of the Half Term was having an unforgettable opportunity to perform our 9-3 show at Theatr y Ffwrnes. The pupils developed a variety of skills while preparing for the show and enjoyed learning the songs, acting and dancing brilliantly! We hope you enjoyed our performances. In addition to the show, the pupils have been busy writing a diary about our trip around Llanelli. It was a pleasure to welcome Gemma from '2BEnterprising' to hold a Friendly Hands activity with the pupils. In addition to the 9-3 theme, we have been learning about the World Cup. The pupils have enjoyed rotating around the school's classes learning about a different country in each class. In mathematics the pupils have been focusing on counting by 2,5 and 10 and developing addition and subtraction skills. Also, the pupils have been developing their creative skills creating portraits of the Llanelli team players. Over the past few weeks, the pupils have enjoyed Christmas challenges. They have written letters to Father Christmas, experimented and created Gingerbread biscuits and used adjectives and comparisons to describe Aled Afal and his friends. We hope you have a lovely Christmas and we look forward to welcoming you back in January.
Blwyddyn 3 Yr Alban a Hwngari
Mae blwyddyn 3 wedi bod yn brysur unwaith yn rhagor yr hanner tymor yma! Roedd pob un yn amlwg wedi mwynhau perfformio yn ein sioe arbennig, sef 9-3 ac wrth eu bodd yn dysgu ieithoedd gwahanol yr wythnos diwethaf. Fe wnaethon ni wïnio bathodynnau pabi coch er mwyn cofio am y milwyr a wnaeth aberthu eu bywydau yn ystod rhyfeloedd byd. Roedd hi’n beth braf cael help llaw o ddisgyblion blwyddyn 6 i greu nhw.
Year 3 have been busy once again this half term! Everyone clearly enjoyed performing in our special show, 9-3 and loved learning different languages last week. Year 3 made red poppy badges to remember the soldiers who sacrificed their lives during world wars. It was nice to have a helping hand from year 6 pupils to create them.
Mae’r disgyblion wedi cael y cyfle i ddatrys problem mathemategol y tymor yma. Roedd yn rhaid iddynt ddewis rhwydwaith siâp addas ac yna ei ail-greu trwy ddefnyddio sgiliau mesur. Ar ôl astudio siapau 3D, aeth y disgyblion ati i greu model 3D o gae / stadiwm rygbi trwy ddefnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu. Dyluniodd y disgyblion logo 9-3 i greu torch allweddi fel cofrodd o'r sioe. The pupils have had the opportunity to solve this term's mathematical problem. They had to choose a suitable shape and then recreate it using measuring skills. After studying 3D shapes, the pupils set about creating a 3D model of a rugby field/stadium using recycled materials. The pupils designed a 9-3 logo to create a keyring as a keepsake of the show.
Yn ddiweddar fe wnaeth y disgyblion fwynhau taith gerdded yng nghoedwig yr ysgol yn chwilio am frigau i greu addurn Nadolig. The pupils enjoyed a stroll in the school forest searching for twigs to create a Christmas decoration.
Nid yn unig mae disgyblion blwyddyn 3 wedi cael y profiad o berfformio ar lwyfan Theatr y Ffwrnes ond maent hefyd wedi bod yn brysur yn cyfansoddi cân Nadoligaidd fel dosbarth gyda Mr Jennings. Fe fyddwn yn rhannu hwn gyda chi unwaith mae’n barod ar y Class Dojo. Not only have year 3 pupils had the experience of performing on the stage of Theatr y Ffwrnes but they have also been busy composing a Christmas song as a class with Mr Jen-nings. We will share this with you once it is ready on the Class Dojo.
Rydyn ni fel ysgol wedi bod yn dilyn siwrnai Cymru yng Nghwpan y Byd ac wedi manteisio ar y cyfle i ddysgu iaith newydd a ffeithiau diddorol am wledydd eraill yn y gystadleuaeth. Mae dosbarth yr Alban wedi dysgu peth Sbaeneg a dosbarth Hwngari peth Almaeneg dros yr wythnos diwethaf. Diolch i Señora Horan pennaeth ieithoedd modern Ysgol Gyfun y Strade am wneud sesiwn fyw dros Teams gyda’r disgyblion. Braf hefyd oedd rhoi’r cyfle i’r disgyblion i ymweld â dosbarthiadau eraill i ddysgu am Awstralia, Brasil a Mecsico!
Blwyddyn 4 Yr Almaen a Swistir
Wel, am hanner tymor! Buom ni’n gweithio’n galed iawn yn paratoi ac ymarfer ar gyfer ein sioe ‘9-3’. Dysgom ni i i ganu ‘Bois y Sosban’ gyda symudiadau, ‘I Bob Un Sy’n Ffyddlon’, ‘Sosban Fach’ a’n ffefryn, ‘Yma O Hyd’ i ganu ar y llwyfan yn Theatr y Ffwrnes. Yn y dosbarth dechreuom ddysgu am arian ac amser yn ein gwersi mathemateg a rhifedd. Am ein gwaith iaith a llythrennedd, buom yn ysgrifennu portread am aelod o’r teulu, a dwyn i gof yn disgrifio ein profiadau anhygoel ar ddiwrnod y sioe fawr! Rydym hefyd wedi dysgu am Ddydd y Cofio, dysgu sut i ‘Ymestyn Allan’ yn ystod Wythnos Gwrth-fwlio, codi arian a dysgu am Blant Mewn Angen, yn ogystal â chael hwyl yn creu crefftau ar gyfer y Nadolig. Fel rhan o’r dathliadau ar gyfer Cymru’n cystadlu yng Nghwpan y Byd Pêl-droed, buom yn canu gyda Dafydd Iwan ar y sgrîn fel rhan o Jamborî yr Urdd, yn gwisgo coch a gwylio Cymru’n chwarae gêm, a’n dysgu am a chyflwyno gwybodaeth am wledydd fu’n cystadlu yn Nghwpan y Byd. Nadolig Llawen i bawb ac edrychwn ymlaen at y Flwyddyn Newydd Dda yn barod i ymdrechu a gweithio’n galed!
Well, what a half term! We worked hard preparing and practising for our shoe ‘9-3’. We learnt to sing the song ‘Bois y Sosban’ with moves included, ‘I Bob Un Sy’n Ffyddlon’, ‘Sosban Fach’ and our favourite, ‘Yma O Hyd’ in order to sing on the stage at Theart y Ffwrnes. Within the classroom, we learnt about money and time in our mathematical and numeracy lessons. For our language and literacy, we wrote a biography on a family member, and a recount describing our amazing performance of our shoe! We have also learnt about Remembrance Sunday, learnt how to ‘Reach Out’ during our Anti-Bullying week, raised money and learnt about Children in Need along with having fun creating Christmas crafts. As a part of the celebrations with regards to Wales competing in the Football World Cup, we sang with Dafydd Iwan on the screen as part of the Urdd’s Jambori, wore red and watched Wales play a football game, and we learnt how to present information about countries competing in the World Cup. Merry Christmas to you all and we look forward to being ready to work hard in the New Year!
Blwyddyn 5 Belg a'r Ffindir
Mae’r Hanner tymor diwethaf wedi bod yn brysur iawn i flwyddyn 5 Ffindir a Belg, dechreuon ni’r tymor gyda’n gwersi nofio, fe wnaeth pob plentyn mwynhau a gwneud cynnydd gwych yn ystod y gwersi. Braf oedd gweld cymaint yn datblygu a dangos eu doniau yn y pwll. Roedd y staff addysgu nofio yn hynod o hapus gyda'r cynnydd. Mae llawer o ymwelwyr wedi dod i’m weld ni; Delme Thomas, Gareth Jenkins a Roy Bergiers. Fe wnaeth y plant mwynhau gofyn cwestiynau a gwrando ar ymatebion y cyn chwaraewyr yn seiliedig ar y gêm fawr 9-3. Hefyd daeth y frigâd dan allan i siarad â’r plant am ddiogelwch tân yn y cartref, neges bwysig iawn i rannu. Wrth gwrs buom yn ymarfer a pherfformio ein sioe 9-3, Blwyddyn 5 Ffindir oedd tîm y Crysau Duon a Blwyddyn 5 Belg oedd cefnogwyr y Scarlets, profiad bythgofiadwy i’r plant. Fe ddysgodd y dosbarthiadau can newydd sbon i’r dôn 'Hymns ac Arias' yn ogystal â dysgu symudiadau i ddawnsio. Roedd hwn yn un o uchafbwyntiau'r sioe. Ers y sioe rydym wedi dysgu sut i ysgrifennu cyfarwyddiadau clir a syml wrth ganolbwyntio ar ferfau gorchmynnol ac adferfau priodol. Yn ystod yr wythnos diwethaf rydym wedi dysgu am y gwahanol wledydd a wnaeth cyrraedd pencampwriaeth cwpan y byd.
This half term has been a busy one for Blwydyn 5 Ffindir and Belg, we started the half term with our swimming lessons where all the children made great progress and enjoyed the fun of going to the pool every day. We‘ve had a lot of visitors during this half term including Delme Thomas, Gareth Jenkins and Roy Bergiers who the children enjoyed interviewing and asking questions on the famous 9-3 victory. The Fire brigade came to speak to the children about fire safety at home. Of course we rehearsed and performed our 9-3 show which was the culmination of our theme work this term, the class played the parts of the All Blacks rugby team coming to challenge Llanelli. It was an experience that we’ll never forget. Since then we’ve learned to write instructions, we made and tried smoothie recipes and then wrote the instructions for the recipe. In a maths we’ve further developed our understanding of addition, subtraction multiplication, and division. This past week we’ve spent time learning about the different countries who have made it into the world cup. It has been quite a half term! It started with the pupils having swimming lessons in the leisure centre. It was a joy to see so many developing their skills and showing off what they had learnt. The swimming pool staff were very complimentary of the group. The classes have been rehearsing for our show '9-3' as well and performed amazingly well in every show. They learnt a new song to the tune of 'Hymns and Arias' and even showed off some dancing to the song. The song was one of the show's many highlights. As part of our preparations we had a visit from Llanelli rugby royalty - Gareth Jenkins. The pupils have been preparing oral presentations on World Cup countries and have enjoyed learning about different world cup countries from different teachers! Fantastic effort by all!
Blwyddyn 6 Pwyl a Groeg
Wrth i ni agosáu at gyfnod y Nadolig, mae’n anodd credu ein bod wedi cyrraedd diwedd y tymor. Mae’r hanner tymor diwethaf wedi bod yn brysur iawn i ni a’n camp fwyaf oedd ein cynhyrchiad cyffrous a llwyddiannus (ein sioe ‘9-3’) yn Theatr y Ffwrnes. Perfformiodd y disgyblion mor dda, a dangosodd pob un ohonynt eu doniau cynhenid a'u deheurwydd. Rydym yn hollol browd ohonyn nhw i gyd!
Yn yr wythnosau cyn y sioe, cafodd y disgyblion gyfleoedd i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau a chawsant lawer o brofiadau gwerthfawr. Trefnwyd bod seiri coed yn gweithio gyda’r disgyblion i greu ‘ystafell newid rygbi’ ar gyfer ein sioe ac unwaith y cafodd hwn ei adeiladu a’i orffen, cafodd ei beintio a’i orchuddio mewn papur wal. Bu rhai o’n disgyblion hefyd yn brysur yn dylunio a chreu rhaglen y sioe gan ddefnyddio eu sgiliau digidol yn effeithiol. Yn dilyn perfformiadau’r sioe, buom yn cydweithio i ysgrifennu llythyron o ddiolch at Delme Thomas, Roy Bergiers, Derek Quinnell a Gareth Jenkins am fod yn rhan o’n sioe, a hefyd am ymweld â’n hysgol a rhannu hanesion y diwrnod bythgofiadwy hwnnw ym Mharc y Strade nôl yn 1972. Diddorol iawn oedd clywed yr holl storΪau.
Yn ystod yr hanner tymor yma, mae llawer o weithgareddau a digwyddiadau pwysig wedi bod yng nghalendr yr ysgol, gan gynnwys Dydd y Cofio. Dysgodd y disgyblion sut i greu bathodynnau pabi coch ar gyfer Dydd y Cofio gan ddefnyddio eu sgiliau gwnïo a chreadigedd. Unwaith iddynt feistroli hyn, roedd rhai o’r disgyblion yn hyderus i weithio gyda phlant blwyddyn 3 er mwyn eu helpu i greu bathodynnau pabi coch eu hun. Fe wnaethant hefyd ddatblygu a gwella eu sgiliau digidol trwy greu ‘i-movie’ yn seiliedig ar Ddydd y Cofio. Defnyddiwyd y gwaith a gynhyrchwyd fel rhan o wasanaeth blwyddyn 6 Pwyl ar Dachwedd 11eg, lle cafodd rhieni gyfle i fynychu. Testun pwysig arall rydyn wedi rhoi sylw iddo yn ystod yr hanner tymor yma yw twrnamaint Cwpan y Byd, a oedd yn boblogaidd iawn gyda’r disgyblion!
Fel ysgol, cafodd y disgyblion gyfle i wylio Cymru yn chwarae Iran yn y neuadd, ond roedd llawer o wynebau anhapus pan chwythodd y chwiban olaf! Yn ogystal â hyn, maent hefyd wedi bod yn dysgu am rai o’r gwledydd sy’n cymryd rhan yng Nghwpan y Byd ac roedd gweithgareddau’n amrywio o dasgau creadigol i ddysgu ieithoedd newydd. Daeth y tymor i ben gyda’r disgyblion yn cyflwyno eu cyflwyniadau llafar yn seiliedig ar un o’r gwledydd sy’n cymryd rhan yn nhwrnamaint Cwpan y Byd. Roedd yn galonogol gweld disgyblion yn cyflwyno gwybodaeth ddiddorol ac i weld eu hyder yn cynyddu o ganlyniad i’r profiad hwn. Edrychwn ymlaen at gychwyn ar daith ddysgu newydd y tymor nesaf wrth i ni ddechrau astudio thema newydd a chyffrous. Dymunwn Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi!
As we near the Christmas period, it’s hard to believe that we have reached the end of the term. The last half term has been very busy for us and our biggest achievement was our exciting and successful production (our ‘9-3’ show) in Furnace Theatre. The pupils performed so well, and they all showed their innate talents and dexterity. We are extremely proud of them all! In the weeks leading up to the show, the pupils were given opportunities to develop a variety of skills and they gained many valuable experiences. We arranged for carpenters to work with the pupils to create a ‘rugby changing room’ for our show and once this was built and finished, it was painted and they even learnt how to hang wallpaper! Some of our pupils were also involved in designing and creating the show programme using their digital skills which was done effectively. Following the show performances, we worked collaboratively to write ‘thank you’ letters to Delme Thomas, Roy Bergiers, Derek Quinnell and Gareth Jenkins for being part of our show, and also for visiting our school and sharing stories of that unforgettable day at Parc y Strade back in 1972. It was very interesting to hear.
This half term, there has also been a lot of activities and important events in the school calendar, including Remembrance Day. The pupils learnt how to create red poppy badges for Remembrance Day using their sewing skills and creativity. Once they had mastered this, some of the pupils were confident to work with year 3 children in order to help them create their own red poppy badges. They also developed and enhanced their digital skills by creating an i-movie based on Remembrance Day. The work that was produced was used as part of year 6 Pwyl’s assembly on November 11th, where parents were able to attend.
Another important topic that we have covered during this half term is the FIFA World Cup tournament, which was very popular with the pupils! As a school, pupils were given the opportunity to watch Wales play Iran in the hall, but there were many unhappy faces when the final whistle blew! In addition to this, they have also been learning about some of the countries taking part in the World Cup and activities ranged from creative tasks to learning new languages.
We concluded the term with the pupils presenting their oral presentations based on one of the countries taking part in the World Cup tournament. It was encouraging to see pupils presenting interesting information and to see their confidence building as a result of this experience. We look forward to embarking on a new learning journey next term as we begin to study a new and exciting theme. We wish you a Merry Christmas and a prosperous New Year!