Loading

Blynyddoedd cynnar Coleg Drindod y 'coleg cyfeillgar' By Nicky Hammond, Archifydd Casgliadau Arbennig

Dechreuodd Coleg y Drindod ar 24 Awst 1848 yn Goleg Hyfforddi De Cymru a Sir Fynwy, cyn ei ailenwi'n Goleg y Drindod yn 1931.

Un o sefydliadau Eglwys Loegr ydoedd, a’i nod uchelgeisiol oedd gwella’n sylweddol hyfforddiant athrawon ysgolion cynradd yr Eglwys yn ne-orllewin Cymru, ac un o’r prif symbylwyr dros ei sefydlu oedd Esgob Tyddewi, Connop Thirwell, academydd o fri a ddaeth yn gadeirydd cyntaf cyngor y coleg. Roedd cynllun yr adeilad gwreiddiol yn un syml, sef ysgoldy, neuadd fwyta, ystafelloedd domestig a storfeydd, stydi i’r meistr a chapel, ac uwchben y rhain roedd ystafelloedd cysgu’r myfyrwyr ac ysbyty. Cynorthwywyd y Prifathro, William Reed, gan yr Is-Brifathro, William Edmunds (prifathro Ysgol Ramadeg enwog Llanbedr Pont Steffan maes o law), tiwtor, metron, pedair morwyn a gwas.

Golwg o'r awyr ar y coleg c.1958. Erbyn 1961 roedd nifer y staff yn cynnwys wyth ar hugain o diwtoriaid, dau diwtor dros dro, dau Ddirprwy Brifathro a'r Prifathro ei hun.

Efallai oherwydd ei wreiddiau yn ysgolion hen ferched, ystyriai nifer yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg mai galwedigaeth i fenywod oedd y proffesiwn addysgu ym Mhrydain, gyda thâl ac amodau gwaith gwael, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

Grŵp myfyrwyr, 1908-1910. Efallai mai'r monitorau etholedig yw’r ddau sydd yn eu heistedd gyda hetiau a ffyn

O ganlyniad, er bod gan y coleg le i bedwar deg pump o fyfyrwyr, dim ond dau ar hugain a gofrestrodd yn ei flwyddyn gyntaf, a'r rhan fwyaf ohonynt yn dod o gefndiroedd dosbarth gweithiol medrus. Yn ogystal, roedd cost yr hyfforddiant, heb unrhyw obaith o gyflog am ddwy flynedd, yn ei gwneud yn anodd i rai fanteisio ar y cyfle. At hynny, gwaharddwyd denu myfyrwyr o'r boblogaeth anghydffurfiol i raddau helaeth gan y rheol fod rhaid i’r ymgeiswyr fod yn Eglwyswyr. Nodwyd y gofynion angenrheidiol yn yr hysbyseb gyntaf ar gyfer agor y coleg

‘Candidates for admission must be not less than 17 years of age, and will be required to read with intelligence, to write correctly from dictation, to work accurately the first four rules, simple and compound, of arithmetic, to be acquainted with the Church Catechism, and the outline of Scripture, History and Geography.’

Roedd rhaid iddynt ddarparu tystlythyrau ynghylch eu hiechyd a'u cymeriad da ac ar lefel fwy ymarferol, roedd rhaid bod ganddynt y canlynol ar eu cyfer eu hunain:

2 full suits of cloth clothes, 6 day shirts, 2 night shirts, 6 pairs of stockings, 2 stocks of neckcloths, 4 pocket handkerchiefs, 3 pairs of shoes or boots, 1 pair of slippers, 2 hats or caps, 1 hair brush, 1 large and 1 fine comb, 1 toothbrush, 1 clothes brush, 1 coat or cloak, a box of drawing instruments and a book of Common Prayer.

Myfyrwyr yn dadbacio eu heiddo yn neuadd y De c.1900

Dros y degawdau, amrywio a wnaeth nifer y myfyrwyr a gofrestrwyd yn y Drindod. Bu cynnydd sylweddol ynghanol y1960au, ond am yr wyth degawd cyntaf roedd nifer y myfyrwyr yn amrywio o ddau ar hugain i wyth ar hugain. Creodd hyn awyrgylch cartrefol y soniwyd amdano'n rheolaidd yn yr adroddiadau gan Arolygwyr Ei Mawrhydi. Dros amser daeth y Drindod yn adnabyddus fel y 'coleg cyfeillgar', agwedd a hyrwyddwyd yn gryf gan y Prifathro Thomas Halliwell (1940-65) a ysgrifennodd yn 1952

Friendliness and happiness are essentials to true study, and this should be our aim in learning to live together in a residential community.

Yn rhyfeddol, mae’r naws gyfeillgar, gymunedol hon i’w holrhain drwy gydol archif y coleg o gofnod yng nghylchgrawn myfyrwyr 1899, The Carmarthen

‘…We study together, we sup at the same table, sleep under the same roof, worship together in the same chapel, and enjoy ourselves together in games and sports.’

hyd rifyn 1961, a’r cylchgrawn erbyn hyn wedi cael yr enw Y Derwydd

‘The College is, as you will discover, a very closely knit body. The atmosphere will, at first, seem alien, but be ye not afraid; the senior students you will encounter a week or so after your arrival, are not as fearsome, aloof or insane as you might at first believe.’

Myfyrwyr wedi gwisgo ar gyfer Diwrnod Rag

I lawer o'r darpar athrawon ifanc, roedd bywyd coleg athrawon yn brofiad cyffrous ond arswydus,

‘After months of weary waiting and anticipation the eventful day on which we were really entering Coll. arrived. It was the first time for some of us to leave home, and we came away with rather mixed feelings. Most of us met the ‘saloon’ at some stage of its journey, and in it we saw some of those superior beings, ‘our Seenyors’. We sat as still as mice, probably only knowing one or two of the company at the most. The Seniors tried to put us at our ease as much as possible, but as we were all strangers we felt far from being so. We came into residence with many ambitious aims, but the entrance examination showed us what a lot we had to learn.’

Adleisir yr atgof hwn yn 1905 gan fyfyriwr yn 1935,

On arrival in Carmarthen at 5pm we felt isolated and far from home. No wonder Canon Parry in his welcome speech said “If you feel like crying, do so, it will do you good.”

Myfyrwyr yn mwynhau parti ysmygu lle'r oedd yr adloniant yn cynnwys canu, cerddoriaeth , sgetsys byr ac wrth gwrs ysmygu, 1897-1899

Oherwydd y traddodiadau ysgol fonedd a fabwysiadwyd gan y coleg, cyflwynwyd elfen o ffurfioldeb i fywyd y myfyrwyr, a adlewyrchid gan y cod gwisg, a oedd yn gwneud esgidiau sgleiniog a choler stiff a thei yn ofynnol ym mhob darlith, gyda dillad priodol pan fyddent yn y dref. Roedd y monitorau, a etholwyd gan y myfyrwyr, yn sicrhau y glynid wrth y drefn ddyddiol: roedd ganddynt yr awdurdod i ddirwyo myfyrwyr am gamymddwyn megis bod yn hwyr ar gyfer galwadau cofrestr neu brydau bwyd, siarad ar ôl 'diffodd goleuadau' neu fercheta ('girling' sef cysylltiad anghymeradwy â merched). Roedd hierarchaeth rhwng y myfyrwyr iau a'r rhai hŷn (y flwyddyn gyntaf a'r ail), a oedd i’w weld yn fwyaf amlwg yn y neuadd lle'r oeddent yn bwyta wrth fyrddau ar wahân, gyda myfyriwr iau, neu’r 'dyn gwlyb' (‘wet-man’) fel y’i gelwid, yn gweini’r myfyrwyr hŷn.

Roedd bwyd yn effeithiol iawn wrth ddod â phobl at ei gilydd ac mae llawer o atgofion ar draws y degawdau yn canolbwyntio ar y neuadd fwyta. Mae myfyriwr a astudiai yn y coleg rhwng 1926-27 yn disgrifio ei brydau bwyd gydag afiaith: i frecwast roedd cig moch am yn ail gydag uwd a bara, 'margo' a marmalêd, ac i ginio roedd dau ddogn o lysiau gyda chig (byth unrhyw bysgod na chyw iâr), ac i bwdin pwdin cyrens neu gwstard ac eirin sych, neu o bryd i’w gilydd reis.

I de cafwyd bara a 'margo', gyda jam ar ddydd Sul, ac i swper bara a 'margo' unwaith, gyda chaws bob hyn a hyn. Fodd bynnag, saig amheuthun yr wythnos oedd selsig i frecwast ar y Sul. Cofiai myfyriwr arall, wrth ysgrifennu yn 1935, sut y cafodd y pryder o gyrraedd y coleg ei leddfu gan ‘the best supper we’d had – a thick slice of boiled ham with beetroot and margarine!’ Cynyddodd yr her o fwydo dynion ifanc, iach adeg dogni yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a olygai mai dogn wythnos fyddai 2 owns o fenyn a lard, 4 o fargarin, 8 o siwgr, 2 o de, 4 o gig moch ac 1 wy, a byddai bara a melysion hefyd wedi'u dogni. Ar adeg wahanol iawn, uchafbwynt diwrnod chwaraeon blynyddol 1899 oedd y gystadleuaeth tynnu rhaff, a’r wobr i'r tîm buddugol oedd coes o ham.

Y neuadd arholi

Ehangodd y coleg dros y blynyddoedd, ond yr oedd cyfnodau o gyfyngiadau ariannol pan oedd yn amhosibl gwneud atgyweiriadau hanfodol nac adeiladu'r estyniadau angenrheidiol. Yn ystod blynyddoedd cynnar y coleg cysgai’r myfyrwyr gyda’i gilydd mewn ystafelloedd cysgu, ond yn 1925 adeiladwyd adain lety newydd gan ganiatáu i'r myfyrwyr hŷn gael eu hystafelloedd gwely eu hunain.

Myfyrwyr a staff y tu allan i Adeilad Dewi, 1927

Er hynny, roedd y cyfleusterau'n brin, ac er bod gwres wedi'i osod, anaml y byddai’n cyrraedd yr ail lawr, ac er mwyn golchi dibynnai'r myfyrwyr ar ddŵr glaw a gasglwyd ar do'r adeilad. Fodd bynnag, cofiai un myfyriwr o 1943 gyda phleser am ei ystafell, a oedd yn cynnwys basn ymolchi, rheiddiadur, wardrob, bwrdd a lamp darllen addasadwy yn hongian uwch ei ben, un gwely o reiliau haearn sengl, mat a llenni atal golau. Yn ystod cyfnod pan nad oedd dŵr a rheiddiaduron poeth ac oer yn gyffredin ym mhob cartref, dyna foethusrwydd yn wir. Fodd bynnag, gwnaeth myfyrwyr eraill y gorau o'r cyfleusterau a rannwyd fel y gwelir yn y disgrifiad hwn o fywyd mewn ystafell gysgu yn 1961,

‘It is divided into twelve sleeping cubicles, one cleaning compound and one combined washing room/cafeteria. It is in the latter place that few WASH and fewer shave in the morning, and where, in the evening, ALL gather to discuss Education, Psychology and Arithmetic Method, together with subjects not so enlightening but of more interest. These discussions occur regularly every night over illicit tea and toast. In this place we live and enjoy ourselves, occasionally playing rugby with a polythene beaker (one evening stopped by a sleep seeking member of the staff), or chasing stray bats.’

Honnwyd bod ysbryd yn trigo yn yr ystafell gysgu a oedd yn ateb i enw'r 'Phantom Nun'.

Llyfrgell y myfyriwr

Fodd bynnag, er y gallai'r ystafelloedd gwely fod wedi bod yn lled elfennol, darparwyd ystafell ddarllen a lolfa gyfforddus i’r myfyrwyr yn 1929 gyda thri deg chwech o gadeiriau breichiau wedi'u clustogi, byrddau darllen a desgiau ynghyd â 'theclyn gwresogi'. A thrawsnewidiwyd ystafell arall yn ‘the long-desired “Common Room”’ with books to read, draughts and chess to play, and easy chairs to sleep in.’ Gwnaed gwelliannau hefyd yn y neuadd fwyta, oherwydd ar ddiwedd y 1940au roedd rhaid i’r myfyrwyr gario eu cwpan, eu cyllell, eu fforc a'u llwy eu hunain i bob pryd bwyd, ond yn 1958, efallai o ganlyniad i streiciau myfyrwyr dros y trefniadau domestig a bwyd, darparwyd nid yn unig gwpanau a soseri, ond hefyd llieiniau bwrdd.

Ystafell gyffredin y myfyriwr

Roedd diwrnod gwaith y darpar athrawon yn un hir a chaled a hynny o fwriadol, gan fod colegau hyfforddi o’r farn mai eu rôl nhw oedd trwytho eu myfyrwyr mewn gwerthoedd gwaith caled, hunanddibyniaeth a hunanddisgyblaeth. Dylai’r myfyrwyr ganolbwyntio ar eu gwaith yn unig a lluniwyd patrwm lle na fyddai llawer o amser i bethau eraill fynd â’u sylw. Roedd hefyd yn eu paratoi ar gyfer pob agwedd ar fywyd athro, yn enwedig un mewn ysgol wledig. O ganlyniad, yn nyddiau cynnar y coleg, yn ogystal ag astudio, byddai’r myfyrwyr hefyd yn gwneud tasgau megis garddio, torri coed neu lanhau'r twlc moch. Mae’n drawiadol mai ychydig o wahaniaethau a welir wrth gymharu amserlen 1856 ag un 1926, er bod myfyriwr yn 1856 yn codi am 5.30a.m. yn hytrach na'r 7.30a.m. hamddenol yn achos myfyriwr yn y cyfnod diweddarach.

Y drefn ddyddiol yn 1926

Canai’r gloch gyntaf am 7.15a.m ac wedyn yr ail am 7.30a.m., gwnaed y gofrestr am 7.55a.m. gyda brecwast rhwng 8 ac 8.30a.m., ac wedyn y capel. Darlithoedd rhwng 9a.m. a 1.00pm heb egwyl a 30 munud ar gyfer swper. Y gofrestr am yr eildro am 1.40p.m. ac ar ôl hynny byddai arddangosiadau addysgu ac addysg gorfforol, ac eithrio ar ddydd Mawrth a dydd Iau. Te am 4.30p.m., astudiaethau preifat 5.30-7.45p.m., ac wedyn swper tan 8.15p.m., ac ar ôl hynny astudiaethau preifat bellach tan 9.40p.m. Capel am 9.40-9.55p.m., gwely 10pm a diffodd goleuadau am 10.15p.m.

Myfyrwyr yn gwneud gwaith dwylo, a gyfrifid yn elfen bwysig o'u trefn ddyddiol, c.1900

Elfen hanfodol a brawychus braidd o addysg darpar athrawon oedd yr amser a dreulid yn y Model ac ysgolion ymarfer. Arddangosai ysgolion Model, megis yr un yng Nghaerfyrddin, arferion addysgu diweddaraf eu dydd. Cymerodd myfyrwyr ran reolaidd yn y 'gwersi beirniadaeth' arswydus, pan fyddent yn cyflwyno gwers o flaen eu cyfoedion ac aelodau’r staff, ac eto heriau cymharol hawdd oedd y rhain o’u cymharu ag addysgu 'go iawn' mewn ysgol. Cyfeiriodd un myfyriwr, wrth hel atgofion am ei gyfnod yn y coleg yn 1906, at 'fedydd tân y pythefnos cychwynnol yn Ysgol Model'. Mae’r cofnod hwn o The Carmarthen yn 1899, yn cyfleu pryder y darpar athro gyda hiwmor,

‘The Juniors have at last commenced their term of ‘hard labour’ at the Practising Schools. They were evidently impressed by the bloodcurdling tales of the Seniors’ experiences at the historical place, and amid sympathetic shouts of ‘Hard lines! Model’, the first batch went forth to their fate…However, their description of the school fairly capped that of the Seniors’; indeed, so much so, that several quaking Juniors hinted at exaggeration…’

Tîm rygbi'r Drindod 1932-33

Er gwaethaf holl alwadau trwm y drefn ddyddiol, cafodd myfyrwyr amser i ymlacio a chymryd rhan yn nifer cynyddol clybiau a chymdeithasau’r coleg. Erbyn 1909 cynhaliwyd dadleuon bob pythefnos yn yr ystafell gyffredin newydd a chaniatawyd crynhoad cymdeithasol bob nos Sadwrn. Gallai'r mwyaf egnïol gystadlu mewn ras traws gwlad, neu ymuno â'r timau tenis, criced, pêl-droed neu rygbi, ond nid oedd pawb yn cymryd gweithgareddau chwaraeon o'r fath o ddifrif, fel y gwelir yn y cyngor canlynol i'r rhai oedd yn dymuno rhagori yng ngêm Pumoedd,

Never condescend to enter the courts without smoking a pipe or cigarette. You can then display to admiring on-lookers your skill in doing two things at a time, i.e. smoking and playing the game.

Remember that the first essential is to hit the ball, and not your opponent.

Gallai'r llai egnïol ymuno â'r clwb chwist a gwyddbwyll a oedd yn fwy hamddenol ond yr un mor gystadleuol, ac i’r rhai mwy allblyg roedd y gymdeithas ddrama.

Fodd bynnag, o ddyddiau cynharaf y coleg, yr 'Ystafell ysmygu' neu'r 'Smoke-hole' oedd hafan y myfyrwyr. Gan mai hwn oedd yr unig fan lle’r oedd hawl ysmygu, roedd ei boblogrwydd wedi ei sicrhau ac roedd canu, dawnsio swnllyd yn aml yn cyd-fynd â’r ysmygu, ynghyd, yn sgil ymddangosiad gramoffôn yn 1931, â cherddoriaeth.

Roedd Diwrnodau Rag yn achos digrifwch mawr arall ac yn adeg pan ildiai awyrgylch ysgolheigaidd y coleg i ‘one of eager anticipation…and students shook off for a time, the shackles of routine’. Gorchwyl y boreau oedd creu gwisgoedd ffansi dychmygus, i’w trawsnewid eu hunain yn gangsters, carcharion, gwrachod a phob math o guddwisg wyllt. Yn dilyn swper hwyliog, gorymdeithiai’r myfyriwr yn swnllyd i dref Caerfyrddin gan gasglu arian ar hyd y ffordd.

Yn 1937 codwyd llwyfan yn Sgwâr y Guildhall a dyma’r myfyrwyr yn diddanu’r gwylwyr â brwydr tarw, gêm baffio, gornest reslo, gorymdaith harddwch a dril tân, gan godi £37 a 15d at yr ysbyty sirol. Roedd yr wythnos yn llawn dawnsiau, dawnsfeydd, cyngherddau a heriau ac yn 1961, cynhaliodd rag y coleg 'The Test of Time', sef cystadleuaeth lle ceisiodd myfyrwyr deithio cyn belled ag y bo modd o'r coleg mewn 48 awr. Cyrhaeddodd dau o fyfyrwyr mentrus y coleg Perth ac aeth y lleiaf anturus mor bell â Glangwili.

Gorymdeithiau Diwrnod Rag Coleg y Drindod yn nhref Caerfyrddin yn y 1950au

Gallai gadael y coleg 'cyfeillgar' yn athro newydd gymhwyso fod mor frawychus â chyrraedd am y tro cyntaf,

We have been very happy in Coll...Friendships have been formed, and how closely these cords have been drawn around our hearts we shall not know until the time for parting comes…Such are the mingled emotions which stir us, as we regard the horizon of the future, alternatively bright with pleasurable possibilities, and clouded by thoughts of how much we lose and how truly happy have been our lives in College…and so we make way for fresh generations of students, each of whom will I hope spend as happy a time in Carmarthen Training College as has the writer.

O The Carmarthen, Cyf X Canol Haf, 1906, Rhif 3,

Erbyn 1909, roedd 104 o hyfforddeion y coleg yn gweithio mewn ysgolion cynradd yn Llundain, 28 yn Abertawe, 19 yng Nghaerdydd ac 16 ym Mryste. Roedd deuddeg yn addysgu mewn ysgolion uwchradd ac roedd 14 yn gweithio mewn mannau mor bell i ffwrdd â De America, India a De Affrica. Roedd Coleg Hyfforddi De Cymru a Sir Fynwy, a oedd wedi agor gyda dim ond dau ar hugain o fyfyrwyr, wedi gwireddu uchelgeisiau ei sylfaenwyr a rhagori arnynt.

Tudalen o ddyddlyfr