Llun gan Josef Herman (dim dyddiad) ‘Dusk’. Lithograff ar bapur. SCJH
Josef Herman (1911–2000)
Ar gyfer pwy mae'r prosiect celf hwn?
Prosiect o dan arweiniad artistiaid ar gyfer plant ifanc yw hyn. Gall unrhywun wneud y prosiect yma os ydyn nhw am gael ychydig o wybodaeth a prosiectau syml. Os ydych yn hŷn na thua 11 oed neu eisiau fersiwn galetach o'r prosiect hwn yna dilynwch y ddolen yma.
If you are not a Welsh speaker and would like the English version then follow this link. Fersiwn Saesneg yma.
Croeso i'r prosiect.
Yn y prosiect celf hwn byddwch yn archwilio i waith Josef Herman a anwyd yng Ngwlad Pwyl yn 1911, i deulu Iddewig. Bu Herman yn byw yng Nghymru am 11 mlynedd o 1944. Bu'n byw mewn llawer o lefydd eraill ond byddwn yn edrych ar y rhan yma o'i fywyd a'i waith.
Byddwch yn:
- Braslunio
- Arlunio
- Dysgu am yr Artist Josef Herman
- Edrych ar y themâu canlynol
Lle, Glowyr, Archif
Cyflwyniad
Edrychwch ar y ffilm hon i gael gwybod beth fyddwch chi'n ei wneud yn y prosiect. Byddwch hefyd yn dysgu ychydig am yr arlunydd Josef Herman.
Y peth cyntaf y byddwch yn ei wneud yw gwneud marciau.
Gwneud Marciau
Beth allwch chi ei ddefnyddio i wneud marciau yn y prosiect hwn?
- Defnyddiwch wahanol ddeunyddiau arlunio fel pensiliau, pensiliau lliw, ffelt pens, creonau, golosg ..... Beth arall sydd gennych chi?
- Arbrofwch drwy ddefnyddio deunyddiau arlunio mewn gwahanol ffyrdd
Ffilm gwneud marciau. Cliciwch i chwarae.
Pa arwynebau fedrwch eu defnyddio i wneud marciau arnyn nhw yn y prosiect hwn?
- Arbrofwch gyda gwahanol arwynebau
- Gallwch ddefnyddio papur, cardfwrdd, llyfr braslunio, hen gylchgronau neu beth bynnag arall y gallwch chi ddod o hyd iddo.
Os ydych chi'n cael hwyl, llenwch lawer o arwynebau gyda marciau.
Defnyddiodd Herman wahanol farciau yn ei gelf.
Llun gan Josef Herman (tua 1949–50) Sketch of the tip and landscape with trees by road. TATE
Edrych a gwneud marciau
Nawr edrychwch ar waith Herman a chopïwch y marciau yn y llun hwn o Ystradgynlais.
Defnyddiwch
- Unryw arwyneb
- Unrhyw deunyddiau
- Fe allech chi ddefnyddio paent, ffelt pen, te neu goffi wedi'i gymysgu â dŵr.
Gwnewch unrhyw faint o luniau yr hoffech ond o leiaf un o bob un llun isod
Defnyddiodd Herman bensil ac yna pen ac inc a brwsh ar bapur yn y llun hwn.
THEMA: Lle
Herman ac Ystradgynlais
CLICIWCH i chwarae'r ffilm yma.
Yn y ffilm nesaf byddwch yn esgus 'Cerdded yn ôl troed Herman' trwy bentref Ystradgynlais.
Nawr eich tro chi yw gwneud rhywfaint o arlunio.
Llun gan Herman (1955) ‘Landscape with tip’ (Notes from a Welsh Diary). TATE.
Arlunio Lle Herman
Ystradgynlais De Cymru
Bydd angen
- papur a phensil arnoch chi
- edrych ar waith Herman yn y lluniau o Ystradgynlais isod
- cofio gwneud marciau yn gynharach
- braslunio a pheidio ag ofni gwneud camgymeriadau
Arluniwch y ddau lun gymaint o weithiau ag y dymunwch mewn gwahanol feintiau. Chi sydd i benderfynu sut rydych chi'n gwneud hyn. Gallan nhw fod yn fach iawn fel stamp neu'n fawr fel poster.
Gwnaeth Herman lawer o luniau gan ddefnyddio'r un themâu.
Llun gan Josef Herman (1947) ‘View from the Bridge, Ystradgynlais’ (Notes from a Welsh Diary). TATE.
Arlunio EICH LLE
Ewch allan i'ch gardd neu edrychwch trwy'r ffenestr. Edrychwch ar ‘EICH LLE’ ac arluniwch yr hyn a welwch y tu allan.
Arbrofwch gyda gwahanol ddefnyddiau ac arwynebau ar gyfer y lluniadu hwn. Gwnewch gymaint ag y dymunwch.
Edrychwch ar sut y lluniadodd Herman gyda phensil yn gyntaf ac yna arlunio dros y pensil mewn pen a golch inc. Sylwch ei fod wedi gadael y marciau pensil heb eu rhwbio nhw allan.
Peidiwch â bod ofn gwneud camgymeriadau arluniwch drostyn nhw. Edrychwch ar farciau Herman.
Edrychodd Josef Herman drwy ffenest y dafarn ac arlunio ei le- Ystradgynlais.
THEMA: Glowyr
Edrychwch ar y ffilm, 'Glowyr Herman'.
Nawr eich tro chi yw hi i arlunio glowyr Herman.
Llun gan Herman (1951) Sketch of miners [Inc ar bapur]. TATE.
Arlunio Glowyr Herman
Arluniodd a pheintiodd Josef Herman lawer o lowyr.
Dyma ychydig o luniau o lowyr i chi eu harlunio.
- Edrychwch ar y marciau
- Edrychwch ar y siapiau
Dewiswch un o'r lluniau hyn i'w arlunio neu efallai yr hoffech chi arlunio pob un ohonyn nhw.
Gallwch chi ychwanegu lliw hefyd.
Pa liwiau sydd gennych chi i'w defnyddio?
Cofiwch mai eich llun chi yw hwn ac nid oes rhaid iddo edrych yn union fel gwaith Herman.
THEMA: Archif
Blodau ac adar Josef Herman
Edrychwch ar y ffilm yma i weld peth o waith Josef Herman yn yr archif yn Ystradgynlais. Byddwch hefyd yn dysgu am ystyr archif.
Trwy edrych ar waith Herman yn yr archif cewch well dealltwriaeth o sut y roedd yn creu celf.
Arlunio blodau ac adar Herman
Dyma rai o flodau ac adar Herman o'r Archif yn Ystradgynlais. Efallai yr hoffech arlunio pob un yn gyflym gyda phensil ac yna dewis un i weithio arno ymhellach gyda lliw.
Defnyddiodd Herman lawer o wahanol ddefnyddiau i wneud ei gelf.
Arddangosfa
Dewch â'ch lluniau a'ch paentiadau at ei gilydd
- Casglwch eich holl luniau o'r prosiect hwn o'ch blaen
- Arbrofwch trwy roi eich lluniau wrth ymyl neu ar ben ei gilydd
- Meddyliwch am sut maen nhw'n edrych
- Mae angen i chi benderfynu beth rydych chi'n ei hoffi orau
Ar ôl cynllunio gallwch greu eich arddangosfa eich hun
Yna gallwch chi dynnu ffotograffau o'ch gwaith a'i rannu gyda ni
Dyma rai enghreifftiau o gyflwyniadau gwaith o brosiect Ysgolion Josef Herman yn 2017 sylwch ar yr holl wahanol fathau o gelf a gynhyrchir.
Cliciwch i chwarae'r ffilm i weld sut y gallech chi ddod â'ch lluniau at ei gilydd.
Roedd gan Herman archif fawr o waith yn ei stiwdio.
Enghraifft o ffyrdd i arddangos ac i dynnu ffotograffau o'ch gwaith.
Sut i rannu'ch gwaith gyda ni?
Mae Ymddiriedolwyr Sefydliad Celf Josef Herman bob amser yn hapus i weld ymatebion i waith Josef Herman.
Rhannwch gyda ni ar Oriel Instagram ar-lein @orieljhcymru #jhsp20 #capsiwlcovidjh20 #josefherman
Am fwy o wybodaeth am Josef Herman. Ewch i wefan Sefydliad Celf Josef Herman ar http://josefhermanfoundation.org/
Neu TATE yn Llundian
Diolch am gymryd rhan yn y prosiect hwn. Gobeithio i chi fwynhau dysgu am Josef Herman a gwneud eich gwaith eich hun. Rydym ni'n edrych ymlaen at weld eich ymatebion ar Instagram.
Artistiaid y prosiect: Gwenllian Beynon Nicola Dowdle Jessica Burtonshaw, Catrin Bradley and Owain Roberts. A diolch arbennig i Steff am brofi'r adnodd hwn i ni.
Cafwyd caniatâd i ddefnydd celf Josef Herman trwy garedigrwydd ©The estate of Josef Herman (nid at ddefnydd masnachol) Pob ffotograff trwy Sefydliad Celf Josef Herman Cymru ©Bernard Mitchell (Herman yn y stiwdio ffilm Archif) ©Llew E. Morgan estate ffotograffau o Josef Herman yn Ystradgynlais. Gwaith ar gael ar https://www.tate.org.uk/