Loading

Eglwys Gadeiriol Tyddewi Gan Ruth Gooding, Llyfrgellydd Casgliadau Arbennig

Ceir chwedlau niferus am Dewi Sant, ond prin iawn yw’r hyn yr ydym yn gwybod amdano’n bendant. Yn ôl pob sôn, roedd ef yn weithredol yn ystod rhan olaf y 6ed ganrif, a bu farw ef o bosib ar Fawrth 1af 589.

Ym Muchedd Dewi, a ysgrifennwyd gan Rhygyfarch tua 1080, mae tad Dewi, sef Sant, Brenin Ceredigion, yn breuddwydio am enedigaeth Dewi ddeng mlynedd ar hugain cyn i hynny ddigwydd. Dywedwyd bod Sant wedi treisio mam Dewi, sef y lleian Santes Non! Cofnodwyd bod Dewi wedi’i eni yn ystod storm fellt a tharanau ar greigiau yn agos i’r lle y cafodd Dinas Tyddewi, ymhen hir a hwyr, ei sefydlu. Ysgrifennodd Rhygyfarch fod Dewi wedi sefydlu deuddeg mynachlog, gan gynnwys mynachlogydd Ynys Wydrin, Caerfaddon a Crowland. O’r diwedd, dychwelodd ef i Sir Benfro, lle sefydlodd ef ei brif fynachlog yn Vallis Rosina (Glyn Rhosyn - Mynyw). Lleolid y fynachlog hon ar ran o dir mwyaf gorllewinol Cymru lle’r oedd llawer o fôrlwybrau’n cwrdd, gan annog cysylltu ag Iwerddon. Byddai ffurf y fynachlog wedi dilyn yr hen draddodiad Celtaidd o adeiladu bythod cerrig ar ffurf cychod gwenyn, yn hytrach na phensaernïaeth fawreddog y blynyddoedd a ddilynodd. Mae’n debyg roedd gan Dewi drefn lem iawn; yn ôl pob sôn, roedd yn perthyn i gangen o fynachaeth asgetig dros ben. Nid oedd gan y mynachod hyn eu heiddo eu hunain, ac roeddent yn byw ar ddiet o fara a llysiau. Rhoddwyd i Dewi’r llysenw ‘Aquaticus’ neu ‘Dyn dŵr’ oherwydd ei arfer o ymdrochi ei hun mewn dŵr rhewllyd fel modd o gadw rheolaeth dros ei gnawd. Claddwyd ef yn ei fynachlog, a chadwyd ei gorff marw a’i eiddo fel creiriau.

Yr Eglwys Gadeiriol Ganoloesol

Erbyn y 12fed ganrif, roedd Tyddewi wedi datblygu’n gadeirlan i esgobaeth a wnaeth ymestyn dros hanner tirwyneb Cymru. Penodwyd Bernard, yr esgob Normanaidd cyntaf, gan Harri I, Brenin Lloegr, yn 1115. Roedd Bernard yn hyrwyddwr egnïol dros hawliau ei esgobaeth; gwnaeth ei gynllun i droi Tyddewi’n blas archesgob fethu. Er hynny, mae’n debyg gwnaeth ef lwyddo cael Pab Calixtus II i roi i Dyddewi’r fraint bod dwy bererindod i Dyddewi’n gyfwerth ag un i Rufain. Roedd dyfodol yr eglwys fel canolfan bererindod yn ddiogel.

Dechreuwyd yr eglwys bresennol gan yr Esgob Peter de Leia rhwng 1181 a 1220, gan ddefnyddio’r arddull fyrhoedlog Normanaidd. Mae’r cyfuniad o fwâu apig grwn yn arcedau canol yr eglwys, a bwâu pigfain yn arcedau’r trifforiwm, yn dangos bod yr arddulliau adeiladu yn newid o’r Romanésg i’r Gothig. Yna, yn 1220, cwympodd y tŵr; a chafodd y gangell a’r transeptau eu hailadeiladu gan ddefnyddio arddull Gothig cynnar.

Yn 1275, adeiladwyd creirfa newydd i Dewi Sant ar ochr ogleddol y presbytri. Gallwch weld adfeilion ei gwaelod hyd yn oed heddiw. Mae’n debygol y gwnaeth hyn ddilyn yn sgil ail-ddarganfyddiad tybiedig corff marw Dewi Sant. Dywedwyd bod yr Abad John de Gamages, prior Ewenni, Sir Forgannwg, wedi cael breuddwyd a wnaeth ddangos lleoliad cywir bedd Dewi! Gwnaeth Edward I a’i frenhines, Eleanor o Gastile, weddïo wrth y greirfa hon yn 1284. Roedd hi’n beth doeth i frenin Lloegr a oedd am ddarostwng y Cymry dalu sylw i’w nawddsant.

Yn ystod ail chwarter y 14eg ganrif, ymgymerodd yr Esgob Henry Gower ag ail-fodelu sylweddol, gan ddefnyddio’r arddull Gothig Addurnedig. Gwnaeth ef ychwanegu at uchder yr ystlysau, ychwanegu ffenestri newydd a rhagor ohonynt, ac adeiladu’r hyn a elwir bellach llawr canol y tŵr. Ef hefyd oedd yn gyfrifol am y sgrin neu groglofft addurnedig wedi’i cherfio o garreg sy’n rhannu corff yr eglwys a’r gangell. Mae rhan ddeheuol y sgrin yn cynnwys beddrod Gower ei hun.

Roedd y dirwedd o amgylch Tyddewi’n sanctaidd i’r pererinion, ac roedd nifer o gapeli ategol o gwmpas y dref fechan. Ysgrifennodd Browne Willis yn 1716, ‘there were formerly several chapels about St David’s which all belonged to the mother church and were commodiously seated to draw the devotion of pilgrims.’ Yn benodol, o fewn dwy filltir, ceid capeli i Iestyn Sant, y Santes Non a Sant Padrig. Yn ogystal â chreirfa Dewi, roedd creirfâu yn y gadeirlan i Sant Caradog ac i gyfoeswr i Dewi, sef Iestyn Sant.

Dadfeiliad ac Adferiad

Yn dilyn y Diwygiad, bu Henry Barlow, yr esgob o 1536 tan 1548, yn benderfynol o ddileu unrhyw ‘ofergoel’ a’i dylanwad, gan gynnwys rhoi stop ar bererindodau i greirfa Dewi. Fe aeth ef â’r gemau a oedd yn addurno’r greirfa a chymerodd ymaith greiriau Dewi ac Iestyn.

Heblaw am hyn, mae’n debyg na chafodd llawer o ddifrod ei wneud ar yr adeg honno. Er hynny, cafodd llawer iawn o ddifrod ei wneud yn ystod y Rhyfel Cartref pan geisiodd y milwyr seneddol ddwyn plwm o’r to. Dechreuodd ochr ddwyreiniol y gadeirlan ddadfeilio, ac nid oedd ganddi do am y ddwy ganrif nesaf. Yn ogystal â hyn, pan adeiladwyd hi, ni roddwyd seiliau digon sylweddol i’r eglwys, o ystyried ei bod hi wedi cael ei hadeiladu ar safle ar osgo a dyfrlawn. Erbyn y 18fed ganrif, roedd blaen gorllewinol yr eglwys wedi symud bron medr o’r perpendicwlar. Yna, yn 1862, adroddodd Syr George Gilbert Scott fod crac yn y tŵr a bod perygl y gallai gwympo. Adferodd ef y rhan fwyaf o’r gadeirlan, gan angori’r tŵr gyda rhodiau cyswllt, ac amnewid y blaen gorllewinol a adeiladwyd gan John Nash (yn ystod y 1790au).

View's of all the cathedrall church's of England and Wales &c. neatly engrav'd = Vues de toutes les eglises cathederalles d'Angleterre et de Galle &c. proprement gravée, (ca. 1709). London: Sold by Henry Overton at ye White Horse without Newgate London.

Gwnaeth y teulu Overton ddominyddu dros argraffu printiau yn Llundain am dros ganrif, rhwng tua 1665 a 1765. Cymerodd Henry Overton (1675/6-1751) drosodd siop ei dad ar safle’r White Horse, yn gwerthu amrywiaeth o brintiau, gan gynnwys mapiau, golygfeydd topograffig a phortreadau.

Yn raddol, ehangodd ef ei amrywiaeth o blatiau, gan ymateb yn gyflym i’r ffasiynau newydd. Er iddo, o bryd i’w gilydd, gyhoeddi gweithiau mawreddog, cafodd llawer o’i ddyluniadau eu llên ladrata oddi wrth eraill, er enghraifft, oddi wrth William Hogarth.

Set o naw ar hugain o olygfeydd miniatur o gadeirlannau yw Views of all the cathedrall church’s of England and Wales. Yr engrafwyr oedd John Harris ac Elisha Kirkall. Roedd Harris (a oedd yn weithredol rhwng 1700-1740), sef engrafwr y llun o Dyddewi, yn arbenigo mewn engrafiadau o destunau topograffig, cartograffeg a phensaernïaeth ar raddfa fawr. Mae’n debyg roedd ef yn syrfëwr, yn ogystal ag engrafwr, a’i fod wedi teithio’n helaeth o gwmpas Cymru a Lloegr. Mae’n fwyaf enwog am ei engrafiadau ffolio o hen Gadeirlan St Paul. Yn hwyr yn ei yrfa, rhoddwyd llawer o waith darlunio iddo ar gyfer hanes hynafiaethol y siroedd.

Willis, B. (1717). A survey of the cathedral church of St David's, and the edifices belonging to it, as they stood in the year 1715. To which is added, some memoirs relating thereto and the country adjacent, from a MS wrote about the latter end of Queen Elizabeth's reign. Together, with an account of the arch-bishops, bishops, precentors, chancellors, treasurers, and arch-deacon of the see of St David's. London: Printed for R. Gosling.

Roedd Browne Willis (1682-1760) yn hynafiaethydd cynhyrchiol ac yn ŵr bonheddig. Roedd ganddo frwdfrydedd penodol dros eglwysi, a byddai’n mynd ar ‘bererindod’ i eglwysi cadeiriol ac abatai Lloegr. Yn anarferol am ei gyfnod, adeiladau canoloesol yn hytrach na’r arddulliau Rhufeinig a Groeg ffasiynol byddai’n ei swyno. Rhwng 1718 a 1730, cyhoeddodd gyfres o hanesion eglwysig. Y cynharaf ohonynt oedd ei arolygon o bedair cadeirlan yng Nghymru, gan ddechrau gyda chadeirlan Tyddewi yn 1716.

Tyddewi oedd y gadeirlan fwyaf anghysbell yn nhalaith Caergaint. Mewn llythyr at ei hesgob, Adam Ottley, ym mis Mehefin 1716, gwnaeth Willis gyfaddef mai’r gadeirlan hon oedd un o’r ychydig nad oedd ef wedi ymweld â hi. Ysgrifennodd, ‘… I was no ways qualifyed for it; it being one of the only cathedrals in England I have not seen; and so consequently my describing it, will look ridiculous in the eyes of my Friends.’ Er hynny, yn rhagair ei lyfr, meddai ef ‘The representation made to me that the Cathedral Church of St David’s was in so ruinous a Condition, that it was in daily Likelihood of falling.’

Bron hanner y testun gorffenedig oedd gwaith cyfaill a chyn-athro Willis, sef William Wotton. (Er mwyn ffoi rhag ei gredydwyr, roedd Wotton yn byw yng Nghaerfyrddin ac yn defnyddio’r ffugenw Dr Edwards). Cyfrannodd Wotton ddau lythyr; roedd y cyntaf ohonynt yn cynnwys disgrifiad o’r gadeirlan a’i henebion, y palas esgob ac amrywiol adeiladau cysylltiedig. Weithiau gwnaeth Willis sôn am gyflwr gwael yr adeiladwaith; yn ysgrifennu, er enghraifft, am ystlys y de, meddai ef ‘The Roof is off, and Windows down; and the Arches between the Choir or Chancel, and that, are wall’d up.’

Gwnaeth ail lythyr Wotton gynnwys disgrifiad o’r gadeirlan a’r dref , wedi’i ddewis a’i drawsgrifio o lawysgrif Elisabethaidd. Yna, cyfrannodd Willis ei hun ddisgrifiadau bywgraffyddol o amrywiol swyddogion yr eglwys gadeiriol , yr archesgobion, yr esgobion, y codwyr canu, y cangellorion, y trysoryddion a’r archddiaconiaid. Mae’r gyfrol hefyd yn cynnwys cynllun y gadeirlan a llun o’i golwg o’r ochr ddeheuol. Gwaith Joseph Lord o Gaerfyrddin, a oedd, mae’n debyg, yn syrfëwr proffesiynol, oedd hwn. Yr engrafwr oedd Michael Burghers.

Ysgrifennwyd llyfr Willis ar antur, ac roedd ef yn aml yn esgeulus gyda’i fanylion. Bu rhaid i nifer o glerigwyr o Gymru ei ddarparu â chywiriadau; cyhoeddwyd ar frys dudalen o ‘errata’ ar gyfer y gyfrol, ac fe argraffwyd hon gan ddefnyddio teip clos. Ond, er gwaethaf yr holl ddiffygion, llwyddodd ef ddechrau ar y broses araf o dynnu sylw at gyflwr gwael yr esgobaeth.

Manby, G.W. (1801). The history and antiquities of the parish of Saint David, South-Wales, the most ancient documents collected from the Bodleian Library, to which is annexed, a correct list of the archbishops, bishops, &c. who have filled that see. London: Printed, at the Oriental Press, by Wilson and Co. for Edward Harding.

Mae George William Manby (1765-1854) yn fwyaf enwog fel peiriannydd. Yn benodol, ef gwnaeth ddyfeisio’r Manby Mortar, modd i achub dioddefwyr llongddrylliad. Byddai’r mortar yn saethu rhaff denau o’r lan at rigin y llong, gan eu galluogi i dynnu rhaff gryfach sydd wedi’i chlymu i’r un denau ar i fwrdd y llong.

Ond, cyn hynny, cyhoeddodd Manby nifer o lyfrau ar dopograffeg . Ei hanes Tyddewi oedd y cyntaf ohonynt. Dechreuodd gyda disgrifiad o adeilad y gadeirlan. Yn ystod yr adeg honno, roedd blaen gorllewinol dadleuol yr eglwys gadeiriol gan John Nash yn newydd. Meddai Manby, ‘The west front has been rebuilt; and, by the means adopted to give it strength, exhibits a beautiful specimen of architecture; though the great contrast between the antient and modern stiles offends the eye …’ Soniodd hefyd am gabidyldy dadleuol Nash, ‘Adjoining to this room, to the north, is a smaller one … the whole is built with suitable offices, as kitchens, cellars, &c. in the Gothic style, with a fancied spire. The whole of this edifice is much condemned by visitors, not only from its own appearance, but from its being contrasted by those antient and splendid structures so nearly seated by it.’

Aeth Manby ymlaen i ddisgrifio’r ardal o amgylch y gadeirlan, gan gynnwys Ynys Dewi a Phenmaen Dewi. Ysgrifennodd am y ddinas ei hun gan ddweud bod yr aer yn neilltuol o bur a bod y trigolion yn byw am gyfnod hir. Ar ôl prif ran y llyfr, ychwanegodd atodiad, gan restru’r eglwysi sydd yn yr esgobaeth, ynghyd â manylion eu nawddogaeth. Mae’r gyfrol yn gorffen gyda rhestr bedair ugain mlwydd oed gan Browne Willis o swyddogion yr esgobaeth.

Darluniodd Manby ei lyfr gydag engrafiadau wedi’u seilio ar ei luniau ef ei hun. Hanner can mlynedd yn ddiweddarach, byddai Basil Jones ac Edward Augustus Freeman yn feirniadol o waith Manby, gan ddweud ei fod yn dangos ‘what absurdities may be written upon any subject by an author who is profoundly ignorant of it.’

Norris, C. (1810). The architectural antiquities of Wales. Vol. 1, Pembrokeshire. No. 1 St David's. London: Published by John Booth

Roedd Charles Norris (1779-1858) yn arlunydd bonheddig. Er fe anwyd ef, yn ôl pob tebyg, yn Llundain, treuliodd y rhan fwyaf o’i fywyd yng Nghymru. Yn 1800, prynodd ef a’i wraig Sarah iot, The Nautilus, a gwnaethant symud i Aberdaugleddau, Sir Benfro. Eu hadleoliad olaf, yn 1810, oedd i Ddinbych-y-pysgod.

Hefyd, yn 1810, dechreuodd Norris gyhoeddi ei waith uchelgeisiol, The architectural antiquities of Wales. Ei fwriad oedd y byddai pob rhifyn yn cynnwys chwe phlât ffolio hirgul o’i luniadau ef ei hun. Byddai’r rhifynnau, a oedd yn ddigon cyflawn i sefyll ar eu pennau eu hunain, yn dangos sir, ardal, dref neu, os oedd e’n ddigon pwysig, adeilad unigol. Darparwyd y llythrenwasg hefyd gan Norris. Dangosodd y tri rhifyn cyntaf, a gyhoeddwyd rhwng 1810 a 1811, Dyddewi. Gwnaeth y rhan gyntaf gynnwys golygfeydd Norris o’r gadeirlan, a’r ail ran, palas yr esgob a’r capeli o amgylch. Bryd hynny, roedd y gadeirlan yn dal i fod mewn cyflwr gwael. Mae testun cysylltiol Norris yn dweud nad oedd toi ar ystlysau canghellau’r gogledd a’r de. Mae un o’i luniadau yn dangos adfeilion Capel y Forwyn, sy’n cael ei alw ganddo yn gapel yr Esgob Vaughan.

Roedd yr hyn a gynhyrchwyd gan Norris o ansawdd uchel. Cyflogodd ef amrywiaeth o engrafwyr, gan gynnwys John George Landseer, tad Edwin. Argraffwyd y rhifynnau gorffenedig ar bapur o waith llaw. Hefyd, cyflwynwyd y gwaith i’r Rhaglyw Dywysog, a fyddai yn y dyfodol yn cael ei orseddu’n Frenin Siôr IV. Ond bu’r cyfan yn fethiant drud; dim ond y tri rhifyn cyntaf cafodd eu cyhoeddi. Ar ôl penderfynu bod y crefftwyr proffesiynol yn rhy ddrud, treuliodd Norris flwyddyn gyfan yn addysgu ei hun sut i engrafu.

Storer, J. (1817). History and antiquities of the cathedral churches of Great Britain. Vol. III. London: Published by Rivingtons; Murray; Clarke; Taylor; and Sherwood, Neely, and Jones

Drafftsmon ac engrafwr oedd James Sargant Storer (1771-1853), yn enwog am ei waith topograffig a phensaernïol. Roedd y platiau y gwnaeth ef ei hunan eu lluniadu a’u hengrafu, yn enwog am fod yn fanwl gywir ac am geinder eu gorffeniad.

Mae ei weithiau yn cynnwys arolwg, mewn pedair cyfrol, o eglwysi cadeiriol Lloegr a Chymru, a gyhoeddwyd rhwng 1814 a 1819. Dywedwyd bod Pugin wedi disgrifio’r darluniau fel ‘by far the best views of our cathedrals for accuracy of drawing and detail.’ Erbyn hyn, roedd Storer yn gweithio ochr yn ochr â’i fab hynaf, Henry Sargant Storer.

Mae’r cofnod sy’n cyfeirio at Dyddewi yn rhan o’r drydedd gyfrol. Caiff adroddiad Storer ar hanes y gadeirlan, gan ddechrau gyda’r sant ei hun, ei ddilyn gan wyth blât. Mae ei destun yn cynnwys sylwadau ar yr esgob ar y pryd, sef Thomas Burgess, a oedd bryd hynny’n gweithio ar sefydlu Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan.

‘… But the work which will transmit his lordship’s name, with greater glory to posterity, is the share which he has had in founding a provincial college within the diocese, for the education of ministers of the Welch church, who have not the means of an university education. The important consequences of such an institution to the remote see of St David’s are evident, and will place the name of Burgess upon a level with the highest on the list of her truly great “bishops and benefactors.”

Jones, W.B. & Freeman, E.A. (1856). The history and antiquities of Saint David's. London: J.H. & J. Parker, J. Russell Smith, and J. Petheram

Nes ymlaen, chwaraeodd William Basil Jones (1822-1897), awdur arweiniol y gwaith safonol hwn ar Dyddewi, ran yn adfer y gadeirlan.

Er y ganwyd Jones yn Cheltenham, magwyd ef yn Llangynfelyn, rhyw ddeng milltir i gyfeiriad y gogledd gogledd-ddwyrain o Aberystwyth. Yn 1840, aeth fel myfyriwr i Rydychen, lle, ymhen hir a hwyr, daeth yn ddarlithydd hanes modern a’r clasuron. Hyd yn oed fel myfyriwr, roedd gan Jones ddiddordeb yng nghadeirlan ddadfeiliedig ac anghysbell Tyddewi. Gwnaeth annog ei gyd-fyfyrwyr i dreulio mwy o amser yno yn mynychu partïon darllen dros adeg yr haf. Yn ôl yn Rhydychen, trefnodd ef gronfa er mwyn codi arian i adfer sgrîn yr Esgob Gower, a oedd yn dyddio o’r 14eg ganrif. Gyda’i gyfaill, Edward Augustus Freeman, cyhoeddodd ei hanes manwl ar yr eglwys gadeiriol. Cyhoeddwyd y gwaith hwn mewn pedwar rhifyn, gan ddechrau yn 1852; cyhoeddwyd y gyfrol orffenedig yn 1856. Cyflwynwyd hon i Connop Thirlwall, a oedd bryd hynny’n esgob Tyddewi.

Ordeiniwyd Jones yn ddiacon yn 1848, ac yn offeiriad yn 1853. Ochr yn ochr â hyn, cyhoeddodd restr hir o lyfrau a oedd yn aml o ddiddordeb Cymreig. Bu’n aelod o Gymdeithas Hynafiaethau Cymru, bron ers iddi gael ei sefydlu.

Yn raddol, dringodd ef risiau gyrfa’r eglwys, gan ddychwelyd i Orllewin Cymru fel esgob Tyddewi yn 1874. Yn ystod yr adeg honno, roedd Syr George Gilbert Scott wrthi’n adfer y gadeirlan. Ail-agorwyd yr adeilad hwnnw’n swyddogol yn 1877, ei thŵr erbyn hyn yn ddiogel, a’i seiliau wedi’u draenio. Roedd ei phresbytri wedi’i hadfer a’i hystlysau wedi’u hail-doi a’u hail-wydro. Dywedwyd bod yr adferiad cyfan wedi costio £30 000. Ond nid oedd popeth eto wedi’i orffen; oherwydd daeth i ran Jones, o’r diwedd, y swydd o amnewid y blaen gorllewinol, sef gwaith John Nash.

Bu farw Jones yn 1897; ac yn briodol, cafodd Capel y Forwyn ei ail-doi er cof amdano, a hefyd er cof am ddau ddeon, sef James Allen ac Owen Phillips.