Loading

Cwricwlwm i Gymru Ysgol Dafydd Llwyd

Croeso i grynodeb Cwricwlwm i Gymru, Ysgol Dafydd Llwyd.

Cwricwlwm creadigol

Cwricwlwm cyfoes

Cwricwlwm cyffrous

Felly, beth yn union ydy'r Cwricwlwm newydd?

Nod canllawiau Cwricwlwm i Gymru yw helpu pob ysgol i ddablygu ei chwricwlwm ei hun, gan alluogi ei dysgwyr i ddatblygu tuag at pedwar diben y cwricwlwm – y man cychwyn a’r dyhead ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru.

Y 4 Diben

Dysgwyr Uchelgeisiol a Galluog

Mae hyn yn meddwl bod ein dysgwyr yn credu ynddyn nhw eu hunain a beth maen nhw'n gallu ei wneud. Maen nhw eisiau dysgu a gwneud yn well. Mae ganddyn nhw'r sgiliau i ddysgu.

Mentrus a Chreadigol

Mae hyn yn meddwl bod ein dysgwyr yn gallu bod yn greadigol a meddwl am syniadau newydd. Maen nhw'n gallu gweithio problemau allan. Maen nhw'n gallu defnyddio hyn yn eu gwaith.

Dinasyddion Egwyddorol a Gwybodus

Mae hyn yn meddwl bod ein dysgwyr yn deall eu hawliau a'u cyfrifoldebau. Maen nhw'n cymryd rhan yn eu cymuned. Maen nhw'n edrych ar ol y byd.

Iach ac Hyderus

Mae hyn yn meddwl bod gan ein dysgwyr feddwl a chorff iach. Maen nhw'n teimlo'n dda amdanyn nhw eu hunain ac am beth maen nhw'n ei gredu.

Y 6 Maes Dysgu a Phrofiad

Yn Ysgol Dafydd Llwyd, mae'r 4 Diben uchod yn rhan anatod o'n gwersi a'n gweithgareddau dyddiol. Mae ein cwricwlwm yn darparu profiadau dysgu di-ri drwy’r 6 Maes Dysgu a Phrofiad, sef:

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Dysgu am ieithoedd

Deall a defnyddio'r Gymraeg, Saesneg ac ieithoedd rhyngwladol eraill

Deall a chreu llenyddiaeth

Mathemateg a Rhifedd

Deall rhifau

Deall rhifau a defnyddio symbolau mewn mathemateg

Archwilio siapiau a mesuriadau

Dysgu am ystadegau a thebygolrwydd

Iechyd a Lles

Dysgu am fwyta'n iach a pherthnasoedd iach.

Dysgu i wneud penderfyniadau da a delio a dylanwdau.

Dysgu sut i ofalu am ein iechyd meddwl a'n lles emosiynol

Y Celfyddydau Mynegiannol

Archwylio'r Celfyddydau fel ein bod ni'n dysgu defnyddio'n gwybodaeth , sgiliau a dychymyg i greu.

Mae'n gyfle i ddysgu gwerthfawrogi'r celfyddydau a myfyrio ar ein gwaith.

Y Dyniaethau

Archwylio hanes, daearyddiaeth, gwleidyddiaeth, crefyddau, busnesau, diwylliannau a chymdeithasau yng Nghymru ac o amgylch y byd.

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Deall pwysigrwydd gwyddoniaeth a thechnoleg

Dysgu am ddylunio a pheirianneg, pethau byw, sylwedd, grymoedd ac egni, a sut mae cyfrifiaduron yn gweithio

Datganiadau o'r hyn sy'n bwysig

Mae 27 datganiad o'r hyn sy'n bwysig, fel y gwelwch o'r ddolen uchod.

Bydd ein cwricwlwm yn darparu cyfleoedd cyfoethog a phrofiadau dysgu dilys i ddatblygu'r cysyniadau, yr wybodaeth a'r sgiliau allweddol fel y'u disgrifir yn y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig ac yn unol â'r Datganiadau o’r Hyn sy'n Bwysig.

Y Cam Cyntaf...

Casglu syniadau holl rhan-ddeiliaid yr ysgol

I gyd-fynd gyda'r Cwricwlwm i Gymru, penderfynwyd creu logo newydd a oedd yn cyplysu'r hen, gyda'r newydd. Gan mai 'Anelu'n Uchel' yw arwyddair Ysgol Dafydd Llwyd, chwaraewyd ar y syniad ac fe greuwyd barcud newydd sbon yn defnyddio symbolau, lluniau ac ambell i emoji. Ydych chi'n barod...

logo newydd Cwricwlwm i Gymru

Gadewch i ni esbonio ychydig am ein barcud arbennig...

Y 4 Diben yn sylfaen gadarn i addysg ein plant. Y chwech Maes Dysgu a Phrofiad yn dangos ac yn defnyddio medrau trawsgwricwlaidd ein dysgwyr ac yn ennyn annibynniaeth trwy gydol eu llwybr addysgol. Medrau Llythrennedd, Rhifedd a Digidol yn rhan anatod o'n cwricwlwm. Ac yn amlwg, y Gymraeg a Chymreictod yn treuddio yn naturiol i bopeth rydym yn gwneud yma, yn Ysgol Dafydd Llwyd.

Dewch i gwrdd a'r cymeriadau

Cymeriadau'r 6 Maes Dysgu a Phrofiad

Geirfa pwysig i gwricwlwm Ysgol Dafydd Llwyd

Balchder

Angerdd

Ysbrydoli

Tanio

Cyffroi

Dyfalbarhau

Hyderus

Balchder

Creadigol

Etifeddiaeth

Cymreictod

Cwricwlwm Ysgol Dafydd Llwyd

Dyma yw ein cwricwlwm newydd sydd yn mynd i lywio taith ein dysgwyr

Mae Ysgol Dafydd Llwyd yn creu a darparu cwricwlwm creadigol, cyflawn a deinamig sydd yn ysbrydoli, tanio a chyffroi pob dysgwr. Yn ganolog i deulu’r ysgol bydd meithrin hunaniaeth a balchder tuag at ein hiaith a’n hetifeddiaeth a hynny mewn modd angerddol.

Tasgau Cyfoethog

Beth yn union ydy tasg gyfoethog? Wel, mae'n brosiect sydd yn cyplysu pob un o'r meysydd dysgu a phrofiad, y 4 diben a PHOPETH arall! Mae'n defnyddio medrau creadigol pob plentyn ac yn anelu at ddigwyddiad arbennig ar ddiwedd y daith. Rydyn ni wedi bod yn gwneud rhain ers blynyddoedd maith felly nid yw'n beth newydd. Dewch i ni gael edrych ar dasgau cyfoethog y gorffennol...

BWYTY POP-UP

Ymchwilio, cynllunio, paratoi, creu a gweinyddu pryd o fwyd tri cwrs (5 seren!) i rhan-ddeiliaid yr ysgol. Am wledd!

Noson Oscars

Dydy'r carped coch erioed wedi edrych mor dda! Cyfle i ddefnyddio doniau perfformio, cyflwyno a llawer iawn mwy wrth ymdrin a phopeth ynghlwm gyda'r Oscars.

SIOE FFASIWN

Defnyddio arbenigedd plant, staff a rhan-ddeiliaid er mwyn cynllunio a chreu sgert, wasgod neu phwrs ar gyfer eu harddangos yn ein noson lawnsio!

HAPUS A HEINI

Ydych chi wedi clywed am Joe Wicks? Wel dyma'r fersiwn Cymraeg. Ymchwilio, cynllunio a chreu DVD ffitrwydd HOLLOL GYMRAEG a chynnal noson 'Hapus a Heini' i'r gymuned gyfan. Roedd hefyd fflapjacs blasus a smwddis iachus!

NOSON OROESI

Noson llawn hwyl yn defnyddio llu o fedrau creadigol ac anturiaethol. Adeiladu a chreu tân, coginio malws melys a dysgu am gymorth cyntaf. Sgiliau hanfodol ar gyfer bywyd bob dydd.

MENTRUS A MELYS

Mae PAWB yn hoffi siocled, ond ydych chi wedi blasu'r siocled gorau yn y byd? Prosiect gwych yn creu bariau siocled yn defnyddio arbenigedd cwmni lleol 'Coco Pzazz' ac yn eu gwerthu i deuluoedd a'r cyhoedd. Beth sydd ddim i hoffi?

Asesu a Chynnydd

Mae dilyniant ac asesu effeithiol yn hanfodol i sicrhau ein bod yn cyflawni gweledigaeth ein hysgol. Mae asesu a chynnydd yn rhan o bob profiad dysgu ac addysgu yn Ysgol Dafydd Llwyd ac yn cynnwys hunan asesu, asesu cyfoedion, adborth athrawon ac asesiadau unigol y dysgwyr. Rydym yn defnyddio amrywiaeth o strategaethau asesu yn seiliedig ar dystiolaeth i alluogi pob dysgwr unigol i wneud cynnydd ar gyflymder priodol. Mae hyn yn caniatau i ni lunio darlun holistaidd o gynnydd pob plentyn. Mae'r disgyblion yn cydweithio gyda'u hathrawon i ddeall eu cynnydd ac i adnabod y cam nesaf yn eu taith ddysgu. Rydym yn herio'r disgyblion, yn eu cefnogi ac yn myfyrio ar gynnydd dros amser.

Egwyddorion Cynnydd

Mae ein cwricwlwm ysgol wedi’i ategu gan yr egwyddorion cynnydd sy’n disgrifio’r hyn y mae’n ei olygu i ddysgwyr wneud cynnydd o fewn y 6 maes dysgu a phrofiad ac rydym yn ystyried cynnydd yn y 6 maes dysgu yn erbyn datganiadau o'r hyn sy'n bwysig. Mae ein trefniadau asesu yn sicrhau ymgysylltiad gweithredol rhwng dysgwyr ac athrawon ac mae’n seiliedig ar fyfyrio parhaus, beth yw'r cam nesaf a beth sydd angen gwneud er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn cyflawni ei llawn potensial. Credwn gallwn wireddu hyn wrth 'anelu'n uchel' a gwneud hynny 'law yn llaw' gyda holl rhan-ddeiliaid yr ysgol.

Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg

Mae Canllawiau ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn un o ofynion mandadol Cwricwlwm i Gymru ac mae'n orfodol i bob dysgwr o 3 i 16 oed. Nid oes hawl gan rieni i ofyn i blentyn gael ei dynnu'n ôl o Canllawiau ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg yng Nghwricwlwm Cymru. Gan Canllawiau ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn bwnc a bennir yn lleol, mae'r maes llafur cytûn yn nodi'r hyn y dylid ei addysgu mewn Canllawiau ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg o fewn yr awdurdod lleol a bydd ein cwricwlwm yn adlewyrchu'r canllawiau hyn.

Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ACRh

Mae ein cwricwlwm ysgol yn cwmpasu'r canllawiau ACRh a'r Cod ACRh gorfodol. Bydd gan ein darpariaeth ACRh rôl gadarnhaol a grymusol yn addysg ein dysgwyr a bydd yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o'u cefnogi i wireddu'r pedwar diben fel rhan o ddull ysgol gyfan. Helpu dysgwyr i ffurfio a chynnal ystod o gydberthnasau, i gyd yn seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch at ei gilydd, yw sylfaen ACRh. Mae'r cydberthnasau hyn yn hanfodol i ddatblygiad lles emosiynol, gwydnwch ac empathi.

Gwerthuso ein cwricwlwm

Bydd ein cwricwlwm ysgol yn cael ei adolygu’n barhaus er mwyn sicrhau ei fod yn diwallu anghenion ein dysgwyr ac yn gwireddu gweledigaeth ein hysgol. Drwy gydol y flwyddyn bydd amrywiaeth o weithgareddau hunanarfarnu yn cael eu trefnu er mwyn gwerthuso ein dealltwriaeth o effeithiolrwydd ein cwricwlwm a’r anghenion gofynnol. Byddwn yn gweithio o fewn ein hysgol, ar draws y clwstwr ac mewn partneriaeth â llywodraethwyr, y consortia rhanbarthol a'r awdurdod lleol, er mwyn sicrhau continwwm dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym ni a'r clwstwr gynllun pontio sy'n hyrwyddo parhad dysgu a chynnydd priodol.

Gwerthoedd Ysgol Dafydd Llwyd

Parch

Tegwch

Cyfeillgarwch

Ymdrech

Gyda Chymreictod yn ganolog iddynt oll