Loading

Clecs Ffwrnes Pasg 2023 Cylchlythyr Pasg 2023 / Easter newsletter 2023

Pasg hapus i chi gyd / Happy Easter to you all.

Gwerth y Mis / Value of the Month

Ebrill / April - Dyfalbarhad / Perseverance

Mai / May - Hapusrwydd / Happiness

Hawl y Mis / Right of the Month

Erthygl 24 - Eich hawl i fwyd a dŵr da ac i weld y meddyg os ydych yn sâl / Article 24 - Your right to good food and water and to see the doctor if you're ill.

Erthygl 31 - Eich hawl i ymlacio a chwarae / Article 31 - Your right to relax and play.

Dyddiadau pwysig i gofio / Important dates to remember

17.04.23 - 26.05.23 - HANNER TYMOR / HALF TERM

Dydd Llun 17.04.23 Monday HMS (dim disgyblion) / INSET (no pupils)

Dydd Mawrth 18.04.23 Tuesday Plant i ddychwelyd i'r ysgol / Pupils return to school.

Clybiau allgyrsiol yn ail-gychwyn 24.04.23 After school clubs restarting.

01.05.23 Gŵyl y Banc / Bank Holiday

08.05.23 Gŵyl y Banc / Bank Holiday

Mabolgampau ysgol 17.05.23 School sports day - Cae rygbi Crwydriaid Llanelli / Llanelli Wanderers RFC. (Amseroedd i ddilyn / Times to follow.

Dydd Llun 05.06.23 Monday HMS (dim disgyblion) / INSET (no pupils).

Chwaraeon / Sports

Mae tîm rygbi'r ysgol wedi bod wrthi'n cystadlu'n frwd yr wythnos hon yng nghystadleuaeth 10 bob ochr Cymru yng nghlwb rygbi Llanymddyfri. Dydd Mercher roedd un ar bymtheg o ysgolion o bob rhan o Gymru yn cystadlu yn y gystadleuaeth. Gwnaeth y disgyblion yn wych yn erbyn ysgolion a thimoedd rygbi safonedig dros ben. Enillom un gêm, un gêm gyfartal a cholli dwy gêm. Da iawn i bawb.

The school's rugby team have been competing this week in the Welsh national 10 a side competition in Llandovery RFC. The team were victorious in the Llanelli schools competition before half term and therefore represented the district in the competition this week. Sixteen schools from all over Wales competed in the competition. The pupils did competed superbly well against obviously some high quality opposition. We won one game, drew one game and lost two games. Well done to everyone involved.

Eisteddfod

Da iawn i bob un disgybl roedd wedi cystadlu yn yr amrywiaeth o Eisteddfodau'r hanner tymor yma yn Nhrimsaran, Ysgol Y Strade ac yn yr Eisteddfod ysgol. Mae'r ysgol yn falch iawn o'ch holl ymdrechion. Da iawn chi.

Well done to every single pupil who competed in the variety of Eisteddfods this half term in Trimsaran, at Ysgol Y Strade and in our very own school Eisteddfod. The school is very proud of all your efforts. Well done.

Dydd Gŵyl Dewi

Eisteddfod ysgol Dydd Gŵyl Dewi / St David's day school Eisteddfod

Aelod newydd i'r staff / A new member of staff.

Croeso i Ruby! Cockapoo 4 oed yw Ruby. Yn ddiweddar mae hi wedi dilyn rhaglen hyfforddi ddwys am 16 wythnos gyda Burns By your side. Mae wedi llwyddo yn ei gwobrau efydd ac arian sy'n golygu mai hi fydd ci therapi darllen yr ysgol. Ar ôl y Pasg bydd Ruby yn gallu dod i'r ysgol i wrando ar grwpiau o blant yn darllen iddi. Bydd Ruby yn gallu helpu gyda hunan-barch a lles disgyblion a staff. Edrychwn ymlaen i groesawi Ruby i Ysgol Ffwrnes.

Ruby is a 4-year-old cockapoo. She has recently undertaken a 16-week intense training program with Burns By your side. She has successfully passed her bronze and silver awards meaning she will become the school's reading and therapy dog. After Easter Ruby will be able to come into school to listen to groups of children reading to her. Ruby will be able to help with self-esteem and wellbeing of both pupils and staff. We look forward to welcoming Ruby to be a part of Ysgol Ffwrnes.

Gorymdaith Boned y Pasg / Easter Bonnet Parade

Mae’r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon wedi prynu Wyau Pasg i bob plentyn yn yr ysgol. Diolch am eich rhodd caredig. The Parents and Teachers Association have bought every child in the school an Easter Egg. Thank you for your kind donation. 

Thema tymor yr Haf - Byw a bod yn iach

Ein thema ysgol gyfan ar ôl gwyliau'r Pasg ydy 'Byw a bod yn iach'. Dros y tymor fe fyddwn ni'n dysgu ac yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, cael cyfleoedd a phrofiadau ar sut i fyw bywyd yn iach.

Gyda bob agwedd o fywyd ysgol erbyn hyn rydym yn ffocysu ar y pedwar diben yn y cwricwlwm newydd i Gymru ac wrth wneud thema o'r fath yma yn nhymor yr Haf gyda'r tywydd yn gwella (gobeithio) byddwn yn ceisio yn bennaf i ddatblygu ein hunain fel unigolion iach a hyderus, dinasyddion egwyddorol a gwybodus ac o hyd yn uchelgeisiol ym mhob agwedd o fywyd ysgol.

Y gobaith yn ystod yr hanner tymor olaf byddwn yn cynnal wythnos iechyd a lles. Gwahoddwn amrywiaeth o asiantaethau allanol i gynnal gweithdai, gwersi a sesiynau dros yr wythnos a bob oed ysgol. Os oes gyda chi fel un o'm rhanddeiliaid profiad, cefndir neu sgiliau yn unrhyw faes neu agwedd o; iechyd a lles, chwaraeon, bwyta'n iach / dietegydd, tecstilau, garddio, natur, awyr agored, lles meddygol, meddyliol neu emosiynol plîs gysylltwch ag aelod o staff yn yr ysgol. Gwerthfawrogwn unrhyw gyfrannedd o gymorth neu arbenigedd. Diolch ymlaen llaw.

Summer term whole school theme - To live and be healthy.

Our whole school theme after the Easter holidays is 'To live and be healthy'. Over the term we will be learning about and taking part in a variety of activities, have opportunities and experiences on how to live healthier lives.

With all aspects of school life we now focus on the four purposes of the new curriculum for Wales and when studying a theme with a focus on living healthily this Summer term with the weather improving (hopefully) we will try mainly to develop ourselves as healthy and confident individuals, principled and informed citizens and as always be ambitious in all aspects of school life.

During the last half term we will hold a health and wellbeing week. We will invite a variety of external agencies to hold workshops, lessons and sessions over the week for all school ages. If you as one of our stakeholders have experience, background or skills in any field or aspect of; health and wellbeing, sport, healthy eating / dietician, textiles, gardening, nature, outdoor adventure, medical, mental or emotional wellbeing please contact a member of staff at the school. We appreciate any contribution of help or expertise. Thanks in advance.

Meithrin Cymru ac Iwerddon

Am hanner tymor gwych!! Mae plant y Meithrin wedi bod yn brysur yn darllen y llyfr ‘Llysiau Oliver’ ac wedi mwynhau gwneud llu o weithgareddau yn seiliedig ar y stori. Rydym wedi bod yn golchi, torri a blasu llysiau yn ogystal â chreu siop llysiau o fewn ein dosbarthiadau. Mae’r plant wedi dysgu’r cysyniad o drwm ac ysgafn ac wedi mwynhau cymharu a phwyso’r llysiau o’r stori. Rydym hefyd wedi bod yn defnyddio gwahanol lysiau i wneud patrymau ar bapur ac wedi dilyn cyfarwyddiadau i blannu hadau berwr. Yn ein sesiynau ymarfer corff, rydym wedi bod yn datblygu ein sgiliau taflu a dal ac edrychwn ymlaen at ddechrau paratoi ar gyfer y mabolgampau’r tymor nesaf. Yn ein sesiynau allanol rydym wedi bod yn dysgu ac yn arsylwi ar arwyddion y Gwanwyn, gwelwyd nifer o ddail a blodau yn tyfu ar y coed o amgylch yr ysgol. Cawsom lawer o hwyl yn dathlu Dydd Gwyl Dewi, Diwrnod y llyfr a Diwrnod Trwyn Coch. Fe wnaethom ymdrech gwych wrth berfformio rhigymau i ein rhieni yn ystod fore coffi Dydd Gwyl Dewi.

What a fantastic half term we’ve had. The nursery children have been busy listening to the story ‘Oliver’s vegetables’ and have enjoyed doing a variety of activities based on the book. We have been cleaning, cutting, and tasting the vegetables from the story and created a vegetable shop within our classrooms. The children have learnt the concept of heavy and light and enjoyed comparing and weighing the different vegetables mentioned in the story. We’ve also used vegetables to create patterns on paper and have followed instructions to plant cress seeds. In our PE sessions we’ve been working on our throwing and catching skills and we are very much looking forward to preparing for the Sports Day after the Easter holidays. During our outdoor sessions we’ve been learning about and observing the signs of Spring and have noticed several trees now have leaves and flowers growing on them. We had lots of fun celebrating St Davids Day, World Book Day and Red Nose Day. The children did a fantastic effort performing nursery rhymes in front of their parents during the St David’s Day coffee morning.

Derbyn Sbaen a'r Eidal

Am hanner tymor prysur i’n dysgwyr yn y Derbyn. Mae’r plant wedi mwynhau archwilio’r newidiadau yn y tywydd yn ddiweddar wrth i ni ddechrau croesawi’r Gwanwyn. Er hynny – cafodd y plant sioc fawr i weld buarth llawn eira a rhew un diwrnod! Gan ein bod wedi bod yn trafod y tywydd a newidiadau naturiol, mynegodd y plant diddordeb mewn planhigion a phethau sydd yn tyfu. Er mwyn archwilio’r diddordeb yma, creom grefftau Sul y Mamau wedi ei selio ar flodau a sut i ofalu amdanynt. I ehangu ar hyn, darllenom stori o’r enw ‘Llysiau Oliver’ sy’n adrodd stori am fachgen sydd yn blasu llysiau newydd wrth iddynt dyfu yn ei ardd. Mwynheuon flasu llysiau gwahanol a rhannu ein barn amdanynt. Mae ein sesiynau Tric a Chlic yn datblygu’n dda ac rydym nawr yn ffocysu ar ddarllen geiriau Clic yn annibynnol o’r setiau gwahanol, yn ogystal â chyfansoddi brawddegau Cymraeg ar lafar. Rydym wedi mwynhau dathlu sawl achlysur megis Dydd Gŵyl Dewi, Diwrnod y Llyfr a Diwrnod Trwyn Coch.

It has been a busy half term for our Derbyn learners over the last few weeks. The children have enjoyed exploring the changes in weather we have been having lately as we welcome the long-awaited Spring season. That being said – the children were particularly shocked and excited to be welcomed by snow on the yard one day! As we have been discussing the weather and nature changes, the children expressed an interest in flowers and living things. We explored this interest by creating Mother’s Day crafts based on flowers and how to care for them. To extend on this interest, we enjoyed a book called ‘Oliver’s Vegetables’ which tells the story of a boy trying new vegetables as they grew in the garden. We enjoyed tasting new foods and sharing our opinion on them. Our Tric a Chlic sessions are progressing well in class and we are now focussing on spelling CVC words independently from each colour set, as well as generating our own Welsh sentences orally and realise that the spoken word can be written. We have enjoyed celebrating many events recently such as St David’s Day, World Book Day and Comic Relief.

Blwyddyn 1 Awstria a Ffrainc

Wrth i hanner tymor arall dod i ben mae disgyblion blwyddyn 1 yn gallu fod yn falch iawn gyda’r cynnydd maint wedi gwneud mewn cyfnod byr. Yn ystod gwersi gwyddoniaeth y tymor yma edrychwyd ar gadwyni bwyd a’i bwysigrwydd i gydbwysedd y byd naturiol. Wrth greu tai i fwydod a gerddi i dylwyth teg, mae’r disgyblion wedi gwneud defnydd da o’r ardal allanol a’r cyfleusterau arbennig sydd gennym yn yr ysgol hyd yn oed os oedd angen newid dillad cwpl o weithiau! Erbyn hyn rydych yn ymwybodol o’r cywion sydd wedi bod gyda ni'r tymor yma. Cafodd y disgyblion y cyfle i warchod a gofalu am y cywion, o’r cyfnod roeddynt yn wyau yn y deorydd i adael ni yn wythnos a hanner oed. Ein thema'r tymor yma oedd ‘Hen wlad fy nhadau’ felly penderfynwyd edrych ar chwedlau Cymreig. Dewiswyd ‘Gelert : Y Ci ffyddlon’ ac roedd yn dewis poblogaidd. Ar ôl wythnosau o waith arno, gorffennwyd y tymor gan ysgrifennu disgrifiad o Gelert. Trafodwyd yn bennaf olygfa Gelert ond aeth nifer ymlaen i drafod nodweddion cymeriad Gelert fel dewrder a'i deyrngarwch.

Fe wnaeth y ddau ddosbarth ym mlwyddyn un perfformio'r wych yn ystod fore coffi dydd Gŵyl Dewi'r ysgol. Wrth ddathlu dydd Gŵyl Dewi, diwrnod y llyfr a diwrnod trwyn coch dros yr wythnosau diwethaf rydym wedi gweld ystod eang o wisgoedd gwahanol yn amrywio o hen fenywod Cymreig i Dolly Parton a thywysogesau Disney. Diolch yn fawr i chi gyd am eich cefnogaeth. Yn ogystal ag hyn hoffwn ddiolch i Mrs. Alex Davies ac i Mrs Helen Davies am eu gwaith amhrisiadwy. Mae eu gwaith caled ac amynedd yn rhan allweddol o’r datblygiad a chynnydd rydym yn gweld yn ddisgyblion blwyddyn 1. Gobeithiwn y cewch wyliau Pasg hyfryd ac edrychwn ymlaen at groesawi chi nôl ar ôl y saib. Diolch. 

As another half term comes to an end, year 1 pupils can look back and be very pleased with how they’ve progressed despite the short period. During science lessons, we learned about food chains and their importance to the wider natural world. From creating worm houses to crafting fairy gardens, the children have immersed themselves in the outdoors this term. Even if we did have the odd occasion which required a change of clothes! As you’ll have heard and seen by now, year 1 was very fortunate to raise 9 chicks this term. Beginning as 9 eggs in an incubator, we watched and cared for the chicks during their first week and a half watching them grow and ensuring they had food and a clean cage every day. The theme of ‘Hen wlad fy nhadau’ allowed us to look at the myths and stories of Wales and what better one to look at than ‘Gelert: The faithful dog’. To finish our work on Gelert, the children produced excellent descriptions of Gelert not only focusing on his appearance but the characteristics he demonstrated in the story such as bravery and loyalty.

Both year one classes performed in the St David's Day coffee morning, singing wonderfully to parents and fellow pupils. Celebrating St David's day, world book day, and red nose day over the last five weeks has seen an array of costume changes in class ranging from traditional Welsh ladies to Dolly Parton and Disney princesses. Thank you for your continued support on each occasion. As always, we are very grateful to both Mrs. Alex Davies and Mrs. Helen Davies for their invaluable work. Their patience and hard work are essential to the success and development we are seeing in our students. Have a lovely Easter break and we look forward to seeing you all after the holiday. Diolch.

Blwyddyn 2 Portiwgal a Sweden

Hanner tymor llawn cyffro! Yn ystod y 5 wythnos diwethaf rydym wedi parhau gydag ein thema ysgol gyfan ‘Hen wlad fy nhadau.’ Dechreuodd yr Hanner Tymor gydag wythnos gyffrous iawn, yn dathlu dydd Gŵyl Dewi. Fe wnaethom fwynhau blasu pic e ar y maen a chyflawni gweithgareddau hwylus. Rydym wedi bod yn datblygu ein sgiliau mesur wrth i ni fesur hyd lysiau mewn centimetrau. Fe wnaethom ddefnyddio olwyn mesur i fesur pellter o amgylch tir yr ysgol mewn metrau. Rydyn ni hefyd wedi bod yn dysgu ein tablau 2, 5 a 10 gan gwblhau symiau lluosi a rhannu. Un o brif uchafbwyntiau’r Hanner Tymor oedd ein hymweliad i Lyfrgell y dref. Cawsom gyfleoedd i ymchwilio llyfrau ffeithiol am Gymru, gwrando ar stori a chreu symudiadau i gyd fynd gyda’r stori a dylunio llwy garu gan ddefnyddio argraffwr 3D! Rydym yn gobeithio gwnaethoch chi fwynhau ein gwasanaeth dosbarth? Gwnaeth pob disgybl ymdrech arbennig i ddysgu’r geiriau ac y i berfformio o flaen yr ysgol. Mwynhewch wyliau’r Pasg ac edrychwn ymlaen at groesawch chi yn ôl i ddechrau Tymor yr Haf.

A Half term full of excitement! During the last 5 weeks we have continued with our whole school theme ‘Hen Wlad Fy Nhadau.' Our Half Term started with a very exciting week, celebrating St David's day. We enjoyed tasting Welsh Cakes and completing some fun activities. We have been developing our measuring skills as we measure the length of vegetables in centimetres. We used a measuring wheel to measure the distance around the school grounds in meters. We have also been learning our 2, 5 and 10 times tables, completing multiplication and division. One of the main highlights of Half Term was our visit to the town Library. We had opportunities to research books about Wales, listen to a story and create movements to go with the story and design a love spoon using a 3D printer! We hope you enjoyed our classroom assembly? Every pupil made a special effort to learn the words and to perform in front of the school. Enjoy your Easter holidays and we look forward to welcoming you back for the start of the Summer Term.

Blwyddyn 3 Alban a Hwngari

Rydym ni Blwyddyn 3 wedi mwynhau dysgu am Gymru. Cawsom dipyn o hwyl yn arlunio, garddio, coginio a chanu yn ystod yr hanner tymor yma! Dysgom ni am hanes ein nawddsant Dewi Sant a gwisgom ni gwisg Gymreig fel rhan o’n dathliadau dydd Gŵyl Dewi. Fe wnaethom ni gymryd rhan yn Eisteddfod yr ysgol gan ail berfformio ‘Gee Ceffyl Bach’ i ddawns yr ‘Haka!’ Buom ni yn ffodus iawn i gael gweithdy sgetsho gyda’r arlunydd Huw Aron. Yn ystod y gweithdy yma fe wnaeth pawb dysgu sut i arlunio’r cymeriadau ‘Seren a Sbarc.’ Daeth Adam yn yr Ardd i ddysgu ni am y broses peillio. Mae blodau, ffrwythau a coed yn hanfodol i’r broses peillio felly fe osododd Adam cysdtadleuaeth i ni sef i gynllunio balconi newydd fel rhan o’n gwaith cartref. Mi fydd Adam yn dewis y cynllun orau ac ym mis Mehefin mi fyddwn ni yn mynd ati i blannu gydag ef. Fel rhan o’r thema ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ penderfynwyd dysgu am fwydydd o Gymru. O ganlyniad, dewison ni ddilyn rysáit i greu Pice ar y Maen. Diolch i chi rhieni am eu coginio adref ac am rannu eich lluniau gyda ni! Un trip fe wnaeth blwyddyn 3 fwynhau'r tymor yma oedd sioe pypedau Martyn Geraint. Cawsom ni hwyl a sbri yn canu caneuon traddodiadol Cymreig!

We in Year 3 have enjoyed learning about Wales. We have had a lot of fun sketching, gardening, cooking and singing during this half term! We learned about the history of our patron saint St David and we wore a Welsh costume as part of our St David's Day celebrations. We took part in the school Eisteddfod and had the opportunity to perform 'Gee Ceffyl Bach' to the 'Haka’ dance again. We were very lucky to have a sketching workshop with the artist Huw Aron. During this workshop everyone learned how to draw the characters 'Seren a Sbarc'. Adam came to teach us about the pollination process. Flowers, fruit and trees are essential to the pollination process, so Adam set us a competition to design a new balcony as part of our homework. Adam will choose the best plan and in June we will start planting with him. As part of the theme ‘Hen Wlad Fy Nhadau,’ we decided to learn about foods from Wales. As a result, we chose to follow a recipe to make Welsh cakes. Thanks to you parents for cooking them at home and for sharing your photos with us. One trip year 3 enjoyed this term was Martyn Geraint's puppet show. We had fun singing traditional Welsh songs.

Blwyddyn 4 Almaen a Swistir

Rydyn ni wedi bod yn brysur yn dysgu am a dathlu’n cenedligrwydd hanner tymor hyn yn ein thema ‘Mae Hen Wlad Fy Nhadau’. Dechreuom trwy gystadlu yn Eisteddfod Dwl yr ysgol ar Ddydd Gŵyl Dewi Sant, ac ambell un yn cystadlu yn Eisteddfod Gylch yn Urdd yn llefaru a chanu – da iawn i bawb am eu hymdrechion ardderchog! Ein ffocws iaith a llythrennedd oedd i ddysgu ein chwedl ‘Merch Llyn y Fan Fach’ er mwyn defnyddio’n dychymyg i’w ail-ysgrifennu gan newid rhai o nodweddion y chwedl – rydym wedi bod yn greadigol iawn gyda’r gwaith hyn ac mae wedi bod yn hwyl i drafod y chwedl gyda’n gilydd. Yn mathemateg, rydym ni wedi bod yn atgyfnerthu’n sgiliau pwyso a mesur i greu bisgedi’n annibynnol, ac wedi bod yn ‘siopa’ i ddysgu sut i dalu a chyfri newid yn gywir. Rydym ni hefyd wedi cyflwyno data ar gestyll Cymru mewn graff bar ac ateb cwestiynau i ddadansoddi’r data. Rydym wedi dysgu am y gylchred ddŵr ar ffurf cân a dawns! Aethom i Eglwys y Plwyf Llanelli ar Daith Trwy’r Pasg, ble buom yn dysgu stori’r Pasg mewn ffordd ddifyr iawn. Rydym wedi bod yn unigolion iach ac hyderus yn gwneud sesiynau cylchred yn ein gwersi ymarfer corff, a chwblhau millitr y dydd i godi ymwybyddiaeth am Awtistiaeth. Rydym hefyd wedi bod yn gofalu am ein penbyliaid, a cawsom ni gyfle i gwrdd â chywion blwyddyn 1 hefyd! Pasg Hapus i chi gyd.

We’ve been busy learning about and celebrating our nationality this half term in our theme ‘Mae Hen Wlad Fy Nhadau’ (The Land of My Fathers). We started by competing in the school’s Eisteddfod Dwl on Saint David’s Day, and some competed in the Urdd Local Eisteddfod in the recital and singing competitions – well done to everyone for their excellent efforts! Our language and literacy focus has been to learn our legend, ‘Merch Llyn y Fan Fach’ (‘The Girl from Llyn y Fan Fach) in order to use our imagination to re-write the legend by changing some of its features – we’ve been very creative with this work, and it has been fun to discuss the legend together. We learnt about the water cycle through the form of a song and a dance! In maths, we have been reinforcing our measuring and weighing skills to create biscuits independently, and we have been ‘shopping’ to learn how to pay and to count change correctly. We have also presented data on Welsh castles in a bar graph and answered questions to interpret the data. We went for a Walk Through Easter at Llanelli’s Parish Church, where we learnt about the Easter story in an interesting way. We have been healthy, confident individuals by doing circuit sessions in P.E., and have completed the ‘mile a day’ to raise awareness for Autism. We have also been looking after our tadpoles, and had an opportunity to meet year 1’s chicks! Happy Easter to you all.

Blwyddyn 5 Belg a'r Ffindir

Mae Blwyddyn 5 wedi cael hanner tymor llawn cyffro! Fel rhan o'r thema 'Mae Hen Wlad Fy'n Nhadau' fe aethom ar daith i ymweld a Chastell Penfro. Cafodd y dosbarthiadau y cyfle i ddysgu am sut oedd y perchnogion yn amddiffyn y castell. Fe wnaeth y wybodaeth yma helpu'r disgyblion ysgrifennu esboniad Saesneg 'How to Defend a Castle'. Mae ein sesiynau addysg gorfforol yn parhau gyda myfyrwyr Coleg Sir Gar gyda'r disgyblion yn ymarfer sgiliau pêl-droed a rygbi. Fe wnaeth y disgyblion fwynhau dathliadau Gwyl Ddewi gan greu dawns 'Tik Tok' i gân Mr Urdd. Mae'r disgyblion wedi bod yn astudio gwaith celf Ruth Jên gan geisio efelychu ei harddull unigrwy. Cafwyd llawer o hwyl yn gweithio gyda cwmni adeiladwedd Bouygues wrth ddysgu am adeiladu siâpiau drwy cydweithio. Fe dreiliodd y disgyblion fore hyfryd yn Eglwys y Plwyf yn dysgu am stori'r Pasg.

Year 5 have had a very exciting half term. As part of our theme 'My Hen Wlad fy Nhadau' we went on a trip to visit Pembroke Castle. The classes had the opportunity to learn about how the owners protected the castle. This information helped the pupils write an English explanation 'How to Defend a Castle'. Our physical education sessions continue with Coleg Sir Gar students with the pupils practicing football and rugby skills. The pupils enjoyed the St David's Day celebrations by creating a 'Tik Tok' dance to Mr Urdd's song. The pupils have been studying Ruth Jên's artwork trying to imitate her unique style. It was a lot of fun working with the construction company Bouygues while learning about building shapes through collaboration. The pupils spent a lovely morning in the Parish Church learning about the Easter story.

Blwyddyn 6 Pwyl a Groeg

Mae wedi bod yn bum wythnos gweithgar a phrysur i ni ym mlwyddyn 6! Yn ystod yr hanner tymor yma, rydym wedi parhau i ddysgu am ein thema ‘Hen Wlad Fy Nhadau’. Yn benodol, rydym wedi bod yn dysgu am y cysylltiad rhwng Patagonia a Chymru sy’n dyddio’n ôl i’r flwyddyn 1865, pan ymfudodd criw o Gymru i Batagonia er mwyn dechrau bywyd newydd a gwell. Sefydlwyd y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia ac mae'n dal i fodoli'n gryf hyd heddiw. Yn ein gwaith mathemateg a rhifedd rydym wedi bod yn datblygu ac yn atgyfnerthu ein dealltwriaeth o drin data. Roedd hyn yn cynnwys darllen, dehongli a dadansoddi tablau, siartiau a graffiau. Yn dilyn ymlaen o hyn, rydym wedi bod yn datblygu ein gallu i lunio siartiau bar, graffiau llinell a siartiau cylch gan adnabod pa raffiau sy'n briodol ar gyfer gwahanol setiau data a sut i benderfynu ar raddfeydd priodol. Rydym wedi edrych yn fanwl ar ddata sy’n seiliedig ar hinsawdd Cymru, atyniadau poblogaidd yng Nghymru, hyd afonydd Cymru ac uchder rhai o fynyddoedd Cymru. Fe wnaethom greu graffiau amrywiol i arddangos y data yma. Rydym hefyd wedi astudio gwaith artist o Gymru (Jenny Lambert), a mae ei gwaith celf yn seiliedig ar dirnodau enwog yng Nghymru.

Drwy gydol yr hanner tymor yma rydym wedi mwynhau gweithdai a gweithgareddau amrywiol gan gynnwys ein sesiynau ‘Bible Explorer’ wythnosol gyda Janet Hawking. Yn y sesiynau hyn rydym wedi bod yn dysgu storïau o’r Testament Newydd mewn ffordd hwyliog ac ymarferol. Gyda chyfnod y Pasg yn agosau, buom yn ffodus i ymweld ag Eglwys y Plwyf yn Llanelli lle dysgom am ystyr y Pasg trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau cyffrous. Ond y rhan orau oedd derbyn wy Pasg ar y diwedd! Roeddem yn ddiolchgar iawn.

Rydym hefyd wedi cymryd rhan mewn gweithdy prosiect STEM lle dysgon am ddatblygiad ‘Pentre Awel’ ar hyd arfordir Llanelli. Mae hwn yn brosiect gwerth miliynau o bunnoedd gyda’r nod o gefnogi ac annog pobl i fyw bywydau egnïol ac iach. Dyma'r datblygiad cyntaf o'r maint yma yng Nghymru. Yn ystod y gweithdy buom yn gweithio ar y cyd mewn grwpiau bach i adeiladu strwythurau tetrahedron. Ein her nesaf oedd gweithio ar y cyd fel dosbarth i adeiladu un strwythur tetrahedron mawr. Hefyd, yn ystod yr hanner tymor rydym wedi cymryd rhan mewn sesiwn hwyliog gyda ‘Boom Cymru’ a oedd yn glyweliad ar gyfer sioe plant newydd (sef Stwnsh Sadwrn). Cynhaliwyd y sesiwn yn yr ysgol lle gwnaethom ddangos ein sgiliau pêl-droed a gwynebu heriau gwahanol. Rydym yn aros i glywed os oes unrhyw un ohonom wedi bod yn llwyddiannus. Rydyn yn croesi ein bysedd! Wrth i ni agosáu at wyliau’r Pasg, dymunwn Pasg hapus i chi gyd ac edrychwn ymlaen at dymor yr haf pan fyddwn yn cychwyn ar ein thema newydd sef ‘Byw a bod yn iach’.

It’s been another busy five weeks for us in year 6! During this half term, we have continued to learn about our theme 'Hen Wlad Fy Nhadau’. In particular, we have been learning about the connection between Patagonia and Wales which dates back to the year 1865, when a group of Welsh people migrated to Patagonia in order to start a new and better life. The Welsh colony was established and still strongly exists to this day. In our mathematics and numeracy work we have been developing and reinforcing our understanding of handling data. This included reading, interpreting and analyzing tables, charts and graphs. Following on from this, we have been developing our ability to construct bar charts, line graphs and pie charts recognizing which graphs are appropriate for different data sets and how to decide on appropriate scales. We have looked closely at data based on the climate of Wales, popular tourist attractions in Wales, the length of rivers in Wales and the height of some Welsh mountains. We created various graphs to display the data. We have also studied the work of a Welsh artist (Jenny Lambert), whose art is based on spectacular landmarks in Wales.

Throughout this half term we have enjoyed various workshops and activities including our weekly ‘Bible Explorer’ sessions with Janet Hawking. In these sessions we have been learning stories from the New Testament in a fun and practical way. With the Easter period approaching, we were fortunate to visit the Parish Church in Llanelli, where we learnt about the meaning of Easter through participating in various exciting activities. But the best part was receiving an Easter egg at the end! We were very grateful. We have also participated in a STEM project workshop where we learnt about the ‘Pentre Awel’ development along the Llanelli coastline. This is a multi-million pound project with the aim of supporting and encouraging people to lead active and healthy lives. It is the first development of its scope and size in Wales. During the workshop we worked collaboratively in small groups to build tetrahedron structures. Our next challenge was to work collaboratively as a class to build one large tetrahedron structure. During this half term we have also participated in a fun session with ‘Boom Cymru’ which was an audition for a new upcoming children’s show (Stwnsh Sadwrn). The session was held in school where we auditioned by showing our football skills and facing different challenges. We are waiting to hear if any of us have been successful. We are all crossing our fingers! As we near the Easter holidays, we wish you all a happy Easter and we look forward to the summer term when we begin our new theme which is ‘Living and being healthy’.

Created By
Ysgol Gymraeg Ffwrnes
Appreciate