Delwedd: Josef Herman (1948) Sketch of Ystradgynlais, village and tip. TATE.
Croeso! This is the Welsh version of this project if you want the English project click on this link.
Ar gyfer pwy mae'r prosiect celf hwn?
Cynlluniwyd y prosiect celf hwn ar gyfer cyfranogwyr oed ysgol uwchradd, unrhyw un dros 11 oed. Cwrs cyfranogol hunangyfeiried i fwynhau dysgu am Josef Herman.
Os ydych wedi cyrraedd yma a'ch bod yn iau na 11 oed neu eisiau prosiect haws, cliciwch ar y ddolen hon.
Cofiwch nad oes angen i chi gwblhau'r prosiect hwn mewn un sesiwn.
Josef Herman (1911–2000)
Beth fyddwch chi'n ei wneud?
Yn y prosiect celf hwn byddwch yn archwilio i waith Josef Herman a anwyd yng Ngwlad Pwyl yn 1911, i deulu Iddewig. Bu Herman yn byw yng Nghymru am 11 mlynedd o 1944. Mae'n arlunydd pwysig iawn gyda chysylltiadau cryf â Chymru. Byddwch yn cael rhywfaint o wybodaeth am ei fywyd a'i waith a byddwch yn cael y cyfle i ymateb yn greadigol i'w gelf.
Byddwch yn:
Edrych ar 4 thema
Lle, Cofio, Pobl ac Archif
Ym mhob thema cewch gyfle i:
- Archwilio gwaith Josef Herman
- Braslunio mewn du a gwyn a lliw
- Edrych ar ffilmiau byrion, braslunio a chymryd nodiadau artist fel gwnaeth Herman.
Cewch gyfle i wneud 7 Tasg
Ym mhob tasg byddwch yn:
- Braslunio a datblygu syniadau
- Gwneud eich lluniadau a'ch cyfansoddiadau eich hun
- Cydgasglu gwaith i wneud eich archif difyr eich hun
FFILM: Cyflwyniad i JOSEF HERMAN ac i DASGAU A THEMÂU yn y prosiect celf hwn.
CLICIWCH i chwarae'r ffilm. Mae'r ffilm tua 5 munud o hyd.
THEMA 1: Lle
Cyflwyniad i Josef Herman a'i berthynas ag Ystradgynlais, De Cymru, a geir yn y thema hon. Cewch y cyfle i 'Gerdded yn ôl troed Herman' trwy gyflwyniad o ffotograffau mewn ffilm.
FFILM: 'Cyflwyniad i Josef Herman ag i Ystradgynlais'
CLICIWCH i chwarae'r ffilm. Mae'r ffilm tua 3 munud o hyd.
Delwedd: Herman (c.1958) Seven Separate Sketches. TATE.
Tasg 1
Edrych ar y ffilm a braslunio
Yn y dasg hon byddwch yn edrych ar y ffilm 'Cerdded yn ôl troed Herman', sydd yn dod nesaf. Wrth edrych ar y ffilm gwnewch ychydig o frasluniau cyflym.
Paratowch i wylio'r ffilm trwy gasglu:
- rhywbeth i fraslunio ag ef - mae pensil yn syniad da iawn i ddechrau.
- papur - gallwch ddefnyddio taflen o bapur neu lyfr braslunio.
Llenwch dudalen gyda llawer o frasluniau cyflym iawn
Gwelir esiampl gan Herman 'Seven Separate Sketches'
- Peidiwch â phoeni os na fyddwch yn braslunio popeth wrth wylio'r ffilm.
- Casglwch ychydig o wybodaeth weledol y byddwch yn gallu ei defnyddio yn y dasg nesaf.
- Mwynhewch wylio'r ffilm a meddwl am fywyd Herman yn Ystradgynlais.
Awgrym artist: PEIDIWCH â defnyddio rhwbiwr. Gwelir marciau Herman, a sut y defnyddiodd bensil ac yna arlunio drosodd mewn pen, brwsh ac inc.
FFILM: 'Cerdded yn ôl troed Herman'
Edrychwch ar y ffilm a brasluniwch gan ddefnyddio'r canllawiau a ddarperir uchod. Bydd pob ffotograff ar y sgrin am tua 10 eiliad.
CLICIWCH i chwarae'r ffilm. Gellir rhewi unrhywbryd, mae'r ffilm tua 4 munud o hyd.
Nawr eich bod wedi cerdded yn ôl troed Josef Herman gallwch ddefnyddio'ch syniadau a brasluniau i arbrofi gyda gwneud marciau yn Nhasg 2.
Delwedd: Herman (c.1949–50) Sketch of the tip and landscape with trees by road. TATE.
TASG 2
Gwneud Marc
Cyn symud ymlaen i wneud delweddau mae'n bwysig i artist 'gynhesu' felly dyma'ch cyfle i arbrofi gyda gwneud marciau cyn datblygu i wneud lluniadau.
Meddyliwch am dynnu llun fel y crefft gwneud marciau ar ar wyneb. Trwy ymarfer arlunio'n barhaus, gellir cyfuno sgiliau edrych, teimlo, darganfod ac ymateb mewn marciau yn un weithred gydnaws.
Arwyneb
Gallwch ddefnyddio llyfr braslunio, papur, papur newydd, unrhyw gardfwrdd neu hen gylchgronau sydd gennych.
Offer lluniadu
Gallwch ddarlunio gyda phen, pensil, glolosg, sialc, pastel, pren ag inc, fforc, brwsh, cortyn, paent ac ati… beth bynnag sydd ar gael.
Arbrofi gwneud marciau
- Pa agweddau a welwyd yn y ffotograffau, y ffilm a'r delweddau sydd o ddiddordeb i chi?
- Sut maen nhw'n gwneud ichi deimlo? Ceisiwch ymateb i hyn wrth wneud marciau.
- Meddyliwch sut y gall y defnydd o wahanol arwynebau gyflwyno tôn a gwead gwahanol.
- Chwaraewch gyda phwysau a thrwch y llinell e.e.. marc ysgafnach, tywyll, teneuach, trwchus, troellog ac ati mewn ymateb i'r hyn rydych chi'n edrych arno.
Awgrym artist - Arbrofwch gyda chyflymder eich lluniadu i greu marciau gwahanol gan chwarae gyda’r cyfrwng.
Edrychwch ar farciau Herman i'ch ysbrydoli.
Awgrym artist: Meddyliwch am yr arwyneb rydych chi’n gweithio arno - gall cardfwrdd, papur newydd a chylchgronau gynnig lliw. Gallwch ddefnyddio cyfryngau gwahanol fel bagiau te a choffi fel paent drwy eu rhoi mewn dŵr, beiros gwahanol liw ac ati - mae’r rhestr yn ddiddiwedd!
Delwedd: Herman (1955) Landscape with tip (Notes from a Welsh Diary). TATE.
TASG 3
Lle
Cynhyrchu gwaith mewn ymateb i LE - Ystradgynlais a Josef Herman.
Dylech fod wedi arbrofi drwy wneud marciau a gwneud rhywfaint o luniadau o'r ffotograffau yn y ffilm. Os nad ydych wedi gwneud unrhyw luniau o'r ffilm Cerdded yn ôl troed Herman i baratoi ar gyfer y dasg hon, ewch yn ôl i wneud rhai lluniau cyflym nawr.
3A
Lle Herman
Gan ddefnyddio’r technegau rydych chi wedi’u dysgu hyd yn hyn, crëwch eich cyfansoddiad eich hun gan ddefnyddio gwaith Josef Herman o Ystradgynlais i'ch ysbrydoli.
Gweithiwch ar hyn am tua 15 munud neu fwy.
Awgrym artist: Cofiwch fod artistiaid yn gweithio mewn gwahanol ffyrdd, gall hyn fod yn 1 llun neu'n gyfres o luniadau. Peidiwch ag ofni arbrofi, ond yn bwysicach na dim, mwynhewch!
Delwedd: Herman (1947) View from the Bridge, Ystradgynlais (Notes from a Welsh Diary). TATE.
3B
Eich Lle
Ar gyfer y dasg hon meddyliwch am ‘EICH LLE’ ble’r ydych chi’n byw, gan gyfuno popeth rydych chi wedi’i ddysgu hyd yma.
Ymatebwch i’r byd tu allan mewn 10 braslun cyflym neu 1 cyfansoddiad o’r hyn rydych chi’n ei weld o’ch cwmpas. Ewch i’ch gardd neu edrychwch allan drwy ffenest. Cofiwch fod Herman wedi tynnu lluniau o ffenest y dafarn pan oedd yn byw yn Ystradgynlais.
Gallwch ddefnyddio llyfr brasluniau ar gyfer hyn neu unrhyw arwyneb rydych chi’n ei ddewis.
Gweithiwch ar hyn am tua 15 munud neu fwy os ydych yn cael hwyl.
Awgrym artist: Peidiwch â bod ofn gwneud camgymeriadau gwnewch mwy o farciau drostyn nhw. Cymerwch ysbrydoliaeth wrth Herman a'i le. Beth fuodd e'n ei arlunio?
THEMA 2: Cofio
Dysgu am fywyd a chelf gynnar Josef Herman. Gadael Gwlad Pwyl a chofio Gwlad Pwyl - Atgof o’r Atgofion (1940-43). Mae hon yn rhan drist iawn o stori Josef Herman ond mae hefyd yn brydferth.
Awgrym artist: Lluniadu’n gyflym a gwnued nodiadau wrth wylio'r ffilm.
FFILM: Atgof o’r Atgofion
CLICIWCH i chwarae'r ffilm. Mae'r ffilm tua 5 munud o hyd.
Rydych wedi dysgu ychydig am fywyd cynnar Herman a'r lluniadau hyfryd a wnaeth am atgofion a'r straeon yn ymwneud â nhw. Yn y dasg nesaf eich tro chi yw hi i feddwl am adrodd straeon trwy arlunio.
Delwedd: Herman (1940-43) 'I dream about my sister'. Glasgow Drawings, Memory of Memories the Eye Centre Glasgow (1985).
TASG 4
Cofio ac adrodd straeon
Sut oedd Herman yn cofio ei deulu a'i ffrindiau trwy arlunio? Pa straeon oedd e'n eu dweud?
4A
Braslunio cofio
- Astudiwch y 2 lun a wnaeth Herman o'r cof.
- Edrychwch ar y marchiau
- Edrychwch ar y bobl
Gwnewch rai brasluniau cyflym.
Delwedd: Herman (1940-43) I dream about my sister. Glasgow Drawings, Memory of Memories the Eye Centre Glasgow (1985).
Delwedd: Herman (1940-43) 'My grandmother telling a story on a Friday evening'. Glasgow Drawings, Memory of Memories the Eye Centre Glasgow (1985).
"...allwn i ddim eu cyffwrdd ond fe allwn eu dilyn gyda llinell; gallwn luniadu manylyn nodweddiadol o’u dillad, mynegiant, ystum eu dwylo … dilynais freuddwyd, … roedd fy atgof o’r bobl hyn yn brydferth; …” Herman (1985)
Delwedd: Herman (1940-43) My grandmother telling a story on a Friday evening. Glasgow Drawings, Memory of Memories the Eye Centre Glasgow (1985).
4B
Adrodd Stori Weledol
Meddyliwch am a chynlluniwch stori yr hoffech ei hadrodd trwy lun, fel y gwnaeth Josef Herman yn y lluniadau hyn.
Am beth mae eich stori?
- Breuddwyd?
- Atgof?
- O'ch dychymyg?
- Stori ddigri?
Arlunio eich stori
Gan ddefnyddio llinell a thôn, treuliwch tua 30 munud yn datblygu'ch stori. Efallai yr hoffech gynnwys chi eich hun yn y stori fel y gwnaeth Herman.
Awgrym artist: Caewch eich llygaid a lluniadu gan gofio amlinell y person, tirlun, adeilad neu’r testun.
THEMA 3: Pobl
Mae Josef Herman yn adnabyddus am ei luniau, paentiadau a phrintiau o bobl, yn enwedig y Glowyr a phobl Ystradgynlais yng Nghymoedd De Cymru.
Roedd Josef Herman yn ysgrifennu, cadw llyfrau nodiadau ac yn braslunio' n gynhyrchiol. Gall dehongli ei nodiadau fod yn anodd iawn, fel y gwelir yn y braslun ‘Study for South Wales (Notes from a Welsh Diary).
Awgrym artist: Mae artistiaid yn casglu brasluniau a nodiadau ar gyfer eu proses greadigol eu hun.
FFILM: Pobl
Gwyliwch y cyflwyniad a brasluniwch wrth wylio.
CLICIWCH i chwarae'r ffilm. Gellir rhewi neu ddirwyn-yn-ôl pryd bynnag y dymunwch. Mae'r ffilm tua 3 munud o hyd.
Bydd y brasluniau rydych chi wedi'u gwneud yn ystod y ffilm hon yn eich helpu yn y dasg nesaf.
Delwedd: Herman (1953) Three Miners [Paent olew ar fwrdd]. TATE.
TASG 5
Edrych ac ymateb i'r themâu Pobl
O’r cyflwyniad a’r enghreifftiau o waith Herman isod meddyliwch am gyflwyno lliw i’ch lluniadu. Astudiwch y delweddau ac edrychwch sut mae Herman yn defnyddio lliw cynnil yn fedrus yn ei waith.
5A
Pobl Herman
Treuliwch tua 10 munud yn braslunio syniadau ac archwilio thema Pobl mewn ymateb i’r 2 ddarn gan Herman.
- Sut mae Herman wedi defnyddio lliw?
- Beth mae lliw yn awgrymu ac yn ei gynrychioli yng ngwaith Herman?
- Sut mae Herman yn defnyddio haenau?
- Edrychwch ar yr aroleuadau.
"Roedd arddull artistig Herman yn hyderus a nodedig a chafodd lawer o ysbrydoliaeth o’r gymuned lofaol Gymreig a’i gweithwyr - yn fwyaf nodedig y glowyr – delweddau y mae’n dal i gael ei gofio’n annwyl amdanynt." (JHAF 2020)
Delwedd: Herman (1946) Pregnant Woman with Friend. [Pastel, graffit a dyfrlliw ar bapur]. TATE.
5B
Hunanbortread
Tynnwch lun o'ch hun. Fe allech edrych mewn drych neu hyd yn oed gau eich llygaid a theimlo'ch wyneb wrth i chi dynnu llun. Cofiwch sut y tynnodd Herman ei themâu a'u cynnwys yn ei gelfyddyd, gallech hefyd gynnwys yr hyn rydych wedi'i ddysgu hyd yn hyn yn eich hunan bortread.
- Lliwiau
- Haenau
- Aroleuadau
- Tonau tywyll a golau
- Gwenud marciau
- Tirlun
- Cofiwch edrychwch allan o'r ffenest at eich lle chi
Treuliwch o leiaf 30 munud ar hyn.
Awgrym artist: Gallwch gynnwys yr holl bethau rydych wedi'u dysgu yn y prosiect hwn ar gyfer y cyfansoddiad hwn. Byddwch yn ddetholus!
THEMA 4: Archif
Yn yr adran hon fe'ch cyflwynir i Archif o waith Josef Herman yn Neuadd Les y Glowyr yn Ystradgynlais. Fe'ch gwahoddir i edrych ar rywfaint o'r gwaith a gynhyrchwyd gan Josef Herman ac gwneud eich ymatebion eich hun.
Yn olaf, cewch gyfle i greu eich archif eich hun trwy gydgasglu'r holl waith rydych wedi'i gynhyrchu yn y prosiect hwn. Os dymunwch, byddwch hefyd yn cael y cyfle i rannu'ch gwaith yn ein horiel Instagram.
FFILM: Archwilio Archif
Edrychwch ar y ffilm a brasluniwch
CLICIWCH i chwarae'r ffilm. Cofiwch fraslunio a chymryd nodiadau os dymunwch. Mae'r ffilm tua 4 munud o hyd.
Wrth edrych ar waith Herman gallwn weld yr hyn a wnaeth ei brofi i greu gwaith celf, sy’n rhoi gwell dealltwriaeth i ni o’r ffordd roedd yn gweithio ac yn datblygu ei ymarfer dros amser.
Awgrym Artist: Mae artistiaid yn astudio gwaith artistiaid eraill i ddysgu am eu hymarfer.
Gall Archif:
- storio gwaith
- gwarchod gwaith
- cyflwyno gwaith
- dehongli gwaith
- bod yn arddangosfa
- bod yn oriel
- bod yn lyfr braslunio
Awgrym artist: Wrth edrych ar waith arlunydd mewn casgliad, arddangosfa neu archif mae'n bwysig braslunio a gwneud nodiadau i gofio'r hyn a wnaeth ein cyffroi neu ein diddori.
Delwedd: Archif Herman ac ymatebion gweledol (SCJH 2017)
TASG 6
Archif
6A
Arlunio mewn ymateb i waith Herman o'r Archif.
- Cymharwch y ddwy ddelwedd ganlynol a chrëwch eich fersiynau eich hun. Meddyliwch am sut mae'r gwaith wedi datblygu trwy ychwanegu lliw.
- Gwnewch ychydig o luniau archwiliol am tua 10 munud gan ddatblygu eich syniadau a defnyddio unrhyw gyfrwng o'ch dewis.
Awgrym artist: Cymharwch bob delwedd a meddyliwch sut mae wedi datblygu gan ymgorffori hyn yn eich gwaith. Ymarferwch ail-greu’r ffurfiau syml gan ddefnyddio’r prosesau rydych chi wedi’u dysgu
Edrychwch ar y ffeithiau diddorol am y delweddau hyn:
- Fe'u cynhyrchwyd 5 mlynedd ar wahân
- Print lithograffeg yw'r cyntaf
- Gouache a phensil ar bapur yw'r ail
- Mae'r ail yn astudiaeth ar gyfer paentiad arall
- Pam ydych chi'n meddwl y gwnaeth Herman hyn?
Delwedd: Archif Herman ac ymatebion gweledol (SCJH 2017)
6B
Gwaith hunangyfeiriedig
Creu darn o waith hunangyfeiriedig o'ch dewis eich hun yn seiliedig ar yr hyn rydych chi wedi'i ddysgu yn y prosiect hwn. Dewiswch o un o'r themâu canlynol:
- Lle
- Cof
- Pobl
Gweithiwch am o ddeutu 30 munud yn archwilio a datblygu'r cyfansoddiad hwn.
Awgrym artist: Yn eich gwaith, datblygwch rai o'r themâu, technegau a phrosesau rydych chi wedi'u dysgu.
Delwedd: Archif Herman ac ymatebion gweledol (SCJH 2017)
TASG 7
Eich Archif
Casglwch y gwaith a gynhyrchwyd yn y prosiect hwn i ffurfio'ch archif eich hun.
Crëwch archif i chi eich hun yn y dyfodol. Cynhwyswch eich holl syniadau a gynhyrchwyd ar y cwrs hwn – gwaith braslunio, lluniadau, peintiadau, nodiadau ar y lluniadau, syniadau ac ati. Meddyliwch am eich casgliad a sut mae’n ffurfio darlun ohonoch chi fel artist.
Dyma rai syniadau i'w hystyried:
- Arddangoswch eich gwaith ar fwrdd, ar wal neu ar y llawr
- Tu mewn neu'r tu allan
- Tynnwch ffotograffau o'r gwaith hwn
- Dyma'ch arddangosfa
- Rhannwch y gwaith hwn trwy @orieljhcymru ar Instagram
Awgrym artist: Mae arddangos gwaith a rhannu syniadau yn rhan hanfodol o arfer artist. Meddyliwch am eich archif. Beth ydyw? Beth all fod? Sut y gellir ei arddangos?
Delwedd: Archif Herman ac ymatebion gweledol (SCJH 2014)
Byddwn yn wirioneddol yn hoffi gweld yr hyn rydych wedi'i greu yn y prosiect hwn.
Mae Ymddiriedolwyr Sefydliad Josef Herman bob amser yn hapus i weld ymatebion i waith Josef Herman.
Rhannwch gyda ni ar ein horiel ar-lein Instagram:
@orieljhcymru #jhsp20 #capsiwlcovidjh20 #josefherman
Diolch am gymryd rhan yn y prosiect hwn. Gobeithio ichi fwynhau dysgu am Josef Herman a chynhyrchu eich gwaith eich hun. Rydym yn edrych ymlaen at weld eich ymatebion ar Instagram.
Dolenni at wybodaeth bellach am Josef Herman:
Artistiaid y prosiect : Gwenllian Beynon, Nicola Dowdle, Jessica Burtonshaw, Catrin Bradley, Owain Roberts.
Cafwyd caniatâd i ddefnyddio celf Josef Herman trwy garedigrwydd ©The estate of Josef Herman (nid at ddefnydd masnachol) Pob ffotograff trwy Sefydliad Celf Josef Herman Cymru ©Bernard Mitchell (Herman yn y stiwdio ffilm Archif film) ©Llew E. Morgan estate ffotograffau o Josef Herman yn Ystradgynlais. Gwaith ar gael ar TATE.