Loading

Tafod Tirdeunaw Rhifyn 9 ~ Gorffennaf 2023

Cam Cynnydd 1

Gwaith tynu yn y Derbyn / Subtraction work in Reception
Patrymau pili pala yn y Derbyn / Butterfly patterns in the Reception
Datblygu sgiliau cyd-bwyso ar y beiciau cyd-bwyso / Developing balancing skills on the balance bikes
Mae'r plant wedi bod wrth eu boddau yn plannu hadau ac yn arsylwi ar tyfiant y wahanol blodau yn ystod y tymor / The children have enjoyed planting seeds and observing the growth of different flowers during the term.
Llongyfarchiadau i bob plentyn yn y dosbarth Derbyn am gymryd rhan yn ein Mabolgamapau eleni. / Congratulations to all children for taking part in our sports day this year.

Ymweliad wrth y nyrs / A visit from the nurse

Trychfilod!

Mae plant y Derbyn wedi mwynhau dysgu am drychfilod yn ystod y tymor yma. Rydym wedi bod yn dysgu enwau newydd, am ble maent yn byw a beth maent yn hoffi bwyta. Dyma’r plant yn helfa trychfilod yn yr ardal allanol. Hwyl a sbri wrth wisgo fyny! The Reception children have enjoyed learning about insects during this term. We have been learning new names, about where they live and what they like to eat. Here are the children hunting insects in the outside area. Having fun dressed up!
Ymweliad wrth Adam yn yr ardd yn dysgu am plannu.  A visit from Adam the gardener learning about planting

Ymweliad Gerddi Botaneg

Ymweliad i'r Gerddi Botaneg ar ddechrau'r tymor i sbarduno ein thema / A visit to the Botanical Gardens at the beginning of term to inspire our new theme

Ymweliad I Llys Nini

Cawsom amser ffantastig ar ein hymweliad diweddar i orffen y tymor i safle Llys Nini wrth gael diwrnod llawn hwyl gyda nifer o weithgareddau ysgol goedwig. Yn un sesiwn cafodd y plant cyfle i arbrofi gyda chlai a chreu folcano, cyd-weithio wrth greu llwybrau a dringo ar rwydi, datrys problemau, chwarae rôl yn y gegin fwd a llawer fwy. Yn sesiwn arall cafodd y plant mynd am dro o amgylch y goedwig, dysgu am wahanol anifeiliaid a thrychfilod yn yr ardal, dysgu am y coed, gwrando ar y byd natur, casglu afalau, chwarae cuddio a cheisio dod o hyd i’r ffordd allan trwy’r ddrysfa helyg, am helynt hwyl a sbri! We had a fantastic time on our recent visit to finish the term to the Llys Nini site having a fun filled day with a number of forest school activities. In one session the children had the opportunity to experiment with clay and create a volcano, work together to create paths and climb on nets, solve problems, role play in the mud kitchen and much more. In another session the children went for a walk around the forest, learning about different animals and insects in the area, learning about the trees, listening to the nature sounds, picking apples, playing hide and seek and trying to find the way out through the willow maze, what fun and excitement!

Dysgu am batrymau cymesuredd pan yn dysgu am y pili pala. / Learning about symmetrical patterns when learning about the butterfly.

Cam Cynnydd 2

Cafodd blwyddyn 1 y cyfle i sgwrsio gyda'r heddlu ynglyn a materion sbwriel yn ein areal lleol. Cafon Hefyd y cyfle i wisgo'r gwsig yr heddlu. Year 1 had the opportunity to speak to the Police about the problem o rubbish in our local areas. They also had the opportunity to try Police uniform.
Cawsom gyfle i arbrofi gyda lliwiau amrywiol wrth efelychu gwaith Claude Monet. Artistiaid galluog!/We had the opportunity to emulate Claude Monet's work. Impressive artists!
Plant Blwyddyn 1 yn paratoi ar gyfer Diwrnod y Mabolgampau. Year 1 preparing for the Sports Day.
Bu blwyddyn 1 yn mwynhau ei gwersi Ymarfer corff ar y Cae y tumor yma. Year 1 enojoyed having their PE lessons on the field this term.
Cafodd Blwyddyn 1 amser hwylus yn amcangyfrif ac yn mesur taith y pengwin o amgylch y dosbarth. Year 1 enjoyed estimating and measuring the journey of the penguin around the classroom.
Edrychwyd yn fanylach ar fywyd y broga. Darllenon ni stori 'Bili Broga a'r Peli Bach Duon' Aethpwyd ati i gyfri faint o greaduriaid eraill oedd yn byw yn y llyn. We studied the lifecycle of a frog. We read the book 'Bili Broga. We also counted how many varieties of creatures lived in the lake.
Yn ein gwersi Jigsaw rydyn ni wedi cael y cyfle i ddysgu am y penderfyniadau sydd angen i ni wneud ar gyfer byw bywyd iach. In our Jigsaw lessons we have learnt about the decisions we have to make in order to stay healthy.
Dechreuon ni ein thema tymor yr Haf 'O dan y môr a'i donnau' gydag ymweliad i'r llyfrgell i ddarganfod mwy o ffeithiau amdano'r môr a'i greaduriaid. / We started our Summer term theme 'Under the sea and its waves' with a visit to the library to find out more facts about the sea and its creatures.

Dysgon ni sut i ddarllen amser y tymor yma, ar glociau analog a digidol. Dyma rai o'r gemau chwaraeon ni i ddysgu mewn ffordd hwylus. / We learned how to read the time of this term, on analogue and digital clocks. Here are some of the games we played to learn in an enjoyable way.

Mae Blwyddyn 2 wedi gweithio ar eu sgiliau cymhwysedd digidol wrth ddefnyddio ap jit ar Hwb i ddidoli creaduriaid y môr trwy ofyn cwestiynau addas i greu canghennau eu hun i gofnodi data. / Year 2 have worked on their digital competence skills by using the jit app on Hwb to sort sea creatures by asking suitable questions and creating branches of their own to record data.

Rydym ni ym mlwyddyn 2 wedi gweithio'n galed yn ein sesiynau Jigsaw tymor yma, mae'r ddau fodiwl - 'Breuddwydion a Dyheadau' a 'Byw'n Iach' wedi dysgu ni llawer ar sut i ymdopi a bywyd tu fewn a thu allan i'r ysgol. / In year 2 we have worked hard in our Jigsaw sessions this term, the two modules - 'Dreams and Aspirations' and 'Healthy Living' has taught us a lot about how to cope with life inside and out to the school.
Mae Blwyddyn 2 i gyd wedi gweithio'n galed yn ein hymarferion mabolgampau ac yn barod i berfformio i rieni ar ddiwedd y flwyddyn. / Year 2 have all worked hard in our sports practices and are ready to perform for parents at the end of the year.
Blwyddyn 2 yn mwynhau yn Jambori Haf 'Do Re Mi!' Cafodd y disgyblion cyfle i ganu, dawnsio a mwynhau gyda ffrindiau!
Cafodd Flwyddyn 1 a 2 bore llwyddiannus yn perfformio yn ein Mabolgampau ysgol. Da iawn i bawb am gymryd rhan ac i lys Arfryn am ennill! Year 1 and 2 had a successful morning performing in our school Sports. Well done to everyone for taking part and to team Arfryn for winning!
Gemau Buarth / Outdoor Games

Fe wnaeth blwyddyn 3 cael y cyfle i gydweithio gyda Menter Abertawe i ddysgu/ymarfer gemau buarth trwy gyfrwng y Cymraeg. / Year 3 were fortunate to work with ‘Menter Abertawe’. They had the opportunity to learn and practice with outdoor games through the medium of Welsh.

Rhithwir / Virtual Reality

Mae blwyddyn 3 wedi cael amser gwych yn arbrofi gyda chlustffon rhith-realti’r cefnfor. Fe wnaethon nhw archwilio harddwch y môr a dysgu am ei drigolion ysblennydd a darganfod sut mae’r cefnfor yn newid yn ddramatig. / Year 3 have had a wonderful time experimenting with the ocean virtual reality headset. They explored the beauty of the sea and learnt about its spectacular inhabitants and discovered how the ocean is dramatically changing.

Celf â sialc / Art with chalk

Mwynhaodd blwyddyn 3 fod allan yn defnyddio sialc i greu eu hoff greadur y môr. / Year 3 thoroughly enjoyed being outside using chalk to create their favourite sea creature.

Helen Elliott

Gan mai 'O dan y môr a'i donnau' yw ein thema ni, roedd hi ond yn addas gwerthfawrogi a gwerthuso celf Helen Elliott ar arfordiroedd Cymru. Dyma flwyddyn 3 yn copïo eu hoff ddarnau. / As our theme has been 'Blue Abyss', it was only fitting to appreciate and evaluate Helen Elliott's art on Welsh coastlines. Here are year 3 copying their favourite pieces.

Athletau / Athletics

Da iawn i’n disgyblion blwyddyn 3 am gystadlu ar ran yr ysgol mewn athletau ac am ennill y darian ym Mhencampwriaethau Athletau Ardal Gorllewin Morgannwg. / Well done to our year 3 pupils for competing on behalf of the school in athletics and for winning the shield at West Glamorgan Area Athletics Championships.

Llygredd yn y môr / Sea Pollution

Fel rhan o’n gwers athroniaeth i blant, mae blwyddyn 3 wedi bod yn edrych ar luniau o lygredd y môr ac yn trafod pwysigrwydd peidio â thaflu sbwriel i’r môr. Buont yn edrych ar gwestiynau athronyddol ac yn trafod yr hyn a deimlent am y lluniau a thrafod amrywiol ansoddeiriau i ddisgrifio’r lluniau. Penderfynodd pawb pa mor bwysig oedd gofalu am y byd ac maent wedi penderfynu ysgrifennu stori i ddisgyblion iau ar bwysigrwydd peidio â thaflu sbwriel yn y môr. / As part of our p4c lesson, year 3 have been looking at pictures of sea pollution and discussing the importance of not throwing rubbish into the sea. They looked at philosophical questions and discussed what they felt about the pictures and discussed various adjectives to describe the pictures. All decided how important it was to look after the world and have decided to write a story for younger pupils on the importance of not throwing rubbish in the sea.

Gwers Entrepreneuriaeth / Entrepreneurship Lesson

Fel rhan o wythnos bwyta'n iach a'n gwers entrepreneuriaeth, gwnaeth blynyddoedd 3 creu bwydydd blasus, iachus i'w gilydd am 50c yr un. Bydd yr elw yn mynd i elusen sy'n helpu anifeiliaid sydd wedi'u heffeithio gan lygredd y môr / As part of healthy eating week and our entrepreneurship lesson, years 3 created tasty, healthy treats for each other for 50p each. The profit will be going to a charity that helps animals affected by sea pollution.

Diolch i ddisgyblion blwyddyn 7 Bryn Tawe am ddod i rannu eu chwedlau Cymreig gyda dosbarthiadau blwyddyn 3. / Thank you to the year 7 pupils from Bryn Tawe for sharing their Welsh traditional tales with the year 3 classes.
Disgyblion blwyddyn 2 yn mwynhau eu hymarferion ar gyfer y mabolgampau yn ystod ein gwersi addysg gorfforol!

Disgyblion o flwyddyn 2 yn addurno eu hardal chwarae rôl gyda lluniau thema!

Creu cychod! Blwyddyn 2 yn mwynhau creu cychod ffoil! Yr amcan oedd gweld pa gwch fyddai'n arnofio!

Gwersi Jigsaw Blwyddyn 2!

Blwyddyn 2 yn defnyddio cyfarwyddiadau yn ystod eu sesiynau 'Beebot' ar fap anturus o'r môr.

Dysgwyr creadigol, egwyddorol a gwybodus yma ym mlwyddyn 2 wrth iddynt fynd ati i gydweithio a chreu posteri 'Heddwch ac Ewyllys Da.'
Blwyddyn 2 yn mwynhau a gweithio'n galed wrth greu addurniadau ar gyfer dathliad Coroni Brenin Charles.

Cam Cynnydd 3

Awr Anturus

Dechreuodd Tymor yr haf gyda plant Cam Cynnydd 3 yn dangos i weddill yr ysgol a rhieni beth oedd eu prosiectau Awr Anturus. Ar ôl treilio wythnosau yn paratoi a gweithio'n galed roedd y diwrnodau yn llwyddiant mawr gyda'r plant yn dangos eu doniau mewn nifer o feysydd gwahanol.

Ymweliad Plantasia

Mwynheodd Plant Cam Cynydd 3 y cyfle i ymweld a Plantasia yn Abertawe, ddysgon ni am yr amrywiaeth eang o blanhigion ac anfieiliaid sydd wedi leoli yn yr adeilad. Cawsom ni cyfleoedd i weld anifeiliaid megis, neidrod, crocodeil a physgod gwahanol.

Cystadleuthau Rygbi ac Athletau

Cafodd plant Cam Cynnydd 3 cyfleoedd i gystadlu dros yr ysgol yng nghystadleuthau rugbi ac athletau. Dros y misoedd diwethaf mae timoedd chwaraeon yr ysgol wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth ennill y tarian yn nhwrnament rygbi yn Llanelli ac ennill y tarian yng ngystadleuaeth athletau y sir.

Cystadleuaeth 'Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig'

Llongyfarchiadau i ddisgyblion cam cynnydd 3 am eu holl waith ynghlwm â phrosiect 'Treftadaeth Tirdeunaw'. Gwnaethom ennill y brif wobr yng nghystadleuaeth 'Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig' - gan dderbyn y darian ac £800.

Adam yr Ardd

Yn ffodus iawn daeth Adam yr Ardd mewn i weld ni yma yn Nhirdeunaw a chafodd y plant cyfleoedd wych i deimlo wahanol deunyddiau sy;n cael ei ddefnyddio yn yr ardd a chreu bomiau blodau gwyllt a thaflu ar y gwair.

Ffair Iaith Miliwn o siaradwyr Cymraeg

Roedd Cam Cynydd 3 wedi mwynhau cymryd rhan yn ffair iaith eleni wrth ddeall nod y llywodraeth wrth anelu am miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y blwyddyn 2050.

Sesiwn blas Martial Arts

Hyfryd i weld cyn-ddisgyblion ysgol Tirdeunaw yn rhannu eu arbenigedd yn y maes Jiu Jitsu gyda plant Cam Cynydd 3 ac annog i ddefnyddio ei feddwl a nid yn corfforol wrth ddelio gyda gwahanol problemau.

Gweithdy coginio gyda’r gogyddes Lisa Fearn.

Disgyblion blwyddyn 4 a 5 yn mwynhau gweithdy coginio gyda’r gogyddes Lisa Fearn. Gwnaeth y plant ddysgu am y gwahanol mathau o fwydydd a pharatoi pryd danteithiol.

Call of the Wild

Eleni aeth Blwyddyn 4 a 5 allan ar ddiwrnodau gwahanol i Call of the Wild i gymryd rhan mewn gweithgareddau fel Gorge walking ac ogofa. Cawson nhw gyfleoedd i ddatrys problemau a chydweithio. Wrth wneud gweithgareddau fel hyn mae'r plant wedi datblygu y sgil o ddygnwch meddyliol.

Abertawe a'r môr

Eleni mae Cam Cynydd 3 wedi derbyn gwersi offerynnol gyda'r sir a chafodd Blwyddyn 4 y fraint o fynychu perfformiad gan yr athrawon cerdd o Abertawe a'r môr. Thema'r perfformiad oedd mor ladron a roedd angen i'r plant cyd chwarae gyda'r cerddorfa.

Ras yr iaith

Cerddodd Blwyddyn 4 ar hyd y promenad o Blackpill i St Helens ym mis Mehefin er mwyn ddathlu'r iaith Cymraeg gyda ysgolion Cymraeg Abertawe.

Plannu planhigion, llysiau a ffrwythau

Fel rhan o'n thema ni y tymor yma sef Gwreiddiau Gwyrosydd rydym ni yng Ngham Cynydd 3 wedi plannu planhigion, llysiau a ffrwythau yn yr ysgol ac yn cymryd mewn tro i gadarnhau fod digon o ddwr gyda'r planhigion i dyfu dros y misoedd nesaf.

Llangrannog 2023

Ar ddiwedd y flwyddyn academaidd mae blwyddyn 6 wedi teithio lawr i Langrannog er mwyn pontio gyda Fryn tawe. Cyfle gwych i drial gweithgareddau newydd, ond hefyd i wneud ffrindiau newydd gyda plant ysgolion y clwstwr.

CYNGOR ENFYS

Mae'r Cyngor Enfys wedi cyfarfod i drafod eu gweledigaethau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf ynglyn â hawliau ac heddwch. Dyma eu syniadau: / The Rainbow Council have met to discuss their visions for the next academic year regarding Children's Rights and Peace Schools. Here are their ideas:

  1. Creu arddangosfa yn cynnwys gwaith Hawliau ac Heddwch. / Create a display of our Children's Rights and Peace Schools work.
  2. Creu ardal meddwlgarwch tu allan gan gynnwys meinciau siarad. / Create a mindfulness area outside including benches for chatting.
  3. Gosod 10 Hawl yr ysgol ar y grisiau. / Place our 10 Rights on the stairs.
  4. Creu arddangosfa sy'n dangos aelodau'r cynghorau. / Create a display showing the members of the councils.
  5. Defnyddio drôn i greu pabi heddwch ysgol gyfan. / Use a drone to create a whole school peace poppy.

CYNGOR YSGOL

Dyma ein Cyngor Ysgol yn trafod ac yn cynllunio syniadau ar gyfer murlun posib ar gyfer yr ysgol. Roedd rhaid iddynt feddwl am syniadau creadigol i gyd-fynd gyda'u hardal leol a Chymru.

Mae'r Cyngor Ysgol wedi bod yn brysur wrth fod yn gyfrifol, cyfri pwyntiau ar ein Siartiau Cymru Cŵl a dosbarthu tocynnau aur i'r dosbarthiadau gyda mwyaf o bwyntiau!

Cyngor eco

Ym mis Ebrill, cafodd y Cyngor Eco gyfarfod swyddogol a phwysig gyda Matthew Bunt o Gadwch Gymru’n Daclus i geisio adnewyddu statws Platinwm YGG Tirdeunaw. Atebodd y plant nifer o gwestiynau am brosiectau’r Cyngor Eco eleni ac am eu syniadau newydd hefyd. Ar ddiwedd y cyfarfod arbennig, dywedodd Matthew Bunt wrth y plant eu bod wedi bod yn llwyddiannus ac wedi cadw statws yr ysgol fel un o’r Eco-Sgolion Platinwm yng Nghymru. Mae cyrraedd statws Eco-Sgolion Platinwm yn gamp fawr. Dyma’r chweched tro i’r ysgol adnewyddu ei statws Platinwm! Mae hyn yn dipyn o gamp hefyd! Dylai’r ysgol deimlo’n falch iawn o’u gwaith caled a’u hymroddiad.

In April, the Eco Council had an official and important meeting with Matthew Bunt from Keep Wales Tidy in order to renew the Platinum status of YGG Tirdeunaw. The pupils answered many questions about the projects undertaken by the eco council this year and about their new ideas too. At the end of the meeting, Matthew Bunt told the pupils that they had been successful and had kept the status of the school as one of the Platinum Eco-Schools in Wales. Reaching the status of a Platinum Eco-School is a huge achievement. This is the sixth time that the Platinum status has been renewed! This is an amazing achievement too! The school should feel very proud of their hard work and dedication.