Celfyddydau Rhyngwladol Cymru / Cyngor y Celfyddydau Cymru yn cyflwyno...
Wales Arts International / Arts Council of Wales present...
Dyma Gymru yn Nghaeredin 2022
This is Wales in Edinburgh 2022
22-26 Awst / August
Dychwelir Arddangosfa Cymru yn Ŵyl Ymylol Caeredin mis Awst yma, gyda thair sioe ddyrchafol gan garfan o artistiaid aml-ddisgyblaethol eithriadol yn archwilio materion brys a chyfoes trwy ddawns, cerddoriaeth a pherfformiad.
Wales' Edinburgh Festival Fringe Showcase returns this August, with three high quality uplifting shows from a cohort of exceptional multi-disciplinary artists, exploring urgent and topical issues through dance, music and performance.
Payday Party
Common Wealth & Darren Pritchard
23-27 Awst / August | Pleasance - Ace Dome
Mae prisiau bwyd yn uwch, prisiau petrol yn uwch, biliau dŵr yn uwch, ac Yswiriant Gwladol yn uwch. A hithau’n argyfwng costau byw, beth mae’n rhaid i rywun ei wneud i oroesi? Bwyta, cynnau’r gwres, ynteu drefnu parti ar ddiwrnod cyflog? Dyma chwe artist sy’n rhannu’u straeon o’u bywydau go iawn, ynghyd â’u talentau, yn y gobaith o gael eu talu gan y gynulleidfa. Y ‘Payday Party’ yw’r parti gwleidyddol, cyfreithiol mwyaf cyfareddol y dewch chi ar ei draws. Mae caneuon, dawns, rap, perfformio barddoniaeth a cherddoriaeth fyw i gyd yn cael eu cyfuno mewn pair o anobaith i greu cacen ar gyfer goroesi y byddai Marie Antoinette yn falch ohoni.
Food prices are up, petrol prices are up, water bills are up, National Insurance is up. In a cost of living crisis, what do you do to survive? Eat, heat or throw a Payday Party? Six artists share their real-life stories and talents in the hope of getting paid by the audience. Payday Party is the most glamorous legal political party you will go to. Song, dance, rap, spoken word and live music are thrown into the cauldron of despair to cook up a survival cake Marie Antoinette would be proud of.
Double Drop
Dirty Protest Theatre
3-28 Awst / August | Anatomy Lecture Theatre - Summerhall
1995 yw’r flwyddyn, a ninnau yn y gogledd. Mae defodau a seremonïau’r Eisteddfod yn cyd-daro â chymundeb a throsgynoldeb rêf. Dyma ddrama newydd, gyda cherddoriaeth, am ganfod llinyn cyswllt at eich gorffennol a’ch pobl, a hynny drwy greu eich diwylliant eich hun. Mae’n bryd dod o hyd i’ch llwyth chi. Mae Double Drop wedi’i seilio ar brofiadau cael eich magu yn y diwylliant Cymreig traddodiadol. Drama yw hon gan Dirty Protest (Sugar Baby, How To Be Brave), y cwmni ysgrifennu newydd, llwyddiannus, a Lisa Jên Brown (National Theatre Wales, Theatr y Sherman, Theatr Genedlaethol Cymru), yr awdures, y berfformwraig a sylfaenydd a phrif leisydd 9Bach, sydd wedi dod i’r brig yng ngwobrau gwerin BBC Radio 2. Mae’r ddrama wedi’i chynhyrchu gan Dirty Protest Theatre mewn partneriaeth â Pontio Arts.
It’s 1995. North Wales. The rites and ceremonies of the Eisteddfod collide with the communion and transcendence of a rave. A new play with music about connecting to your past and your people by creating your own culture - it's time to find your tribe. Double Drop is inspired by experiences of growing up in traditional Welsh culture. Created by critically acclaimed Welsh new writing company Dirty Protest Theatre (Sugar Baby, How To Be Brave) and writer, performer, and founder and lead vocalist of BBC Radio 2 Folk Award winners 9Bach, Lisa Jên Brown (National Theatre Wales, Sherman Theatre, Theatr Genedlaethol Cymru). Produced by Dirty Protest Theatre in partnership with Pontio Arts.
The Rest of Our Lives
Jo Fong x George Orange
16-28 Awst / August | Old Lab - Summerhall
Cabaret am fywyd ac am ddynesu at farwolaeth yw The Rest of Our Lives, sy’n byrlymu o obaith. Orig lawen, foreol yn llawn dawns, syrcas a gemau. Mae dau fywyd canol oed yn dod ynghyd wrth inni wylio’u dirywiad eclectig, digymell, rhagweladwy a damweiniol. Hen ddawnsiwr yw Jo, a hen glown yw George. Artistiaid rhyngwladol yw’r rhain gyda 100 o flynyddoedd o brofiad bywyd rhyngddyn nhw, ynghyd â thrac sain poblogaidd, llyfryn o docynnau raffl, a mymryn o optimistiaeth ecogyfeillgar. Dyma ddechrau’r diwedd, ond maen nhw yma o hyd.
Hopefully hopeful, The Rest of Our Lives is a cabaret of life and near death. A joyful morning dose of dance, circus and games. Two middle-aged lives come together in an eclectic, spontaneous, predictable and random decline. Jo is an old dancer, George an old clown. They are international artists with 100 years of life experience between them, armed with a soundtrack of floor-fillers, a book of raffle tickets and a sprinkling of eco-friendly optimism. It’s the beginning of the end, but they’re still here.