Cynnwys
Cyflwyniad
Newidiodd pandemig COVID-19 y ffordd mae pobl yn rhyngweithio, gan amlygu rôl technoleg ddigidol, a mwy o alw am wasanaethau cymunedol sy'n gwella llesiant, er enghraifft trwy ddarparu cefnogaeth a galluogi cysylltiad cymdeithasol. Yr hyn a olygwn wrth wasanaethau cymunedol yw’r rhai a ddarperir gan sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector sy’n gweithio gyda chymunedau penodol sy’n seiliedig ar le a/neu gyda grwpiau a allai fod yn fwy gwasgaredig yn ddaearyddol ond sy’n rhannu diddordebau neu brofiadau cyffredin. Tynnodd sylw hefyd at anghydraddoldebau o ran mynediad at gymorth, gan ddangos bod rhai pobl yn dibynnu ar wasanaethau wyneb yn wyneb tra bod eraill ond yn gallu cael mynediad at wasanaethau ar-lein. Roedd darpariaeth gwasanaeth cyfunol – sef integreiddio bwriadol wyneb yn wyneb ac ar-lein – yn cael ei gyflwyno’n gynyddol fel ateb teg, ond ychydig a oedd yn hysbys am yr hyn y gallai darpariaeth gyfunol ei olygu’n ymarferol. Nod y prosiect hwn oedd darganfod mwy gan sefydliadau ac ymarferwyr am hyn, i ddeall beth sy’n gweithio’n dda wrth gyfuno dulliau ar-lein ac all-lein a myfyrio ar sut y gallai’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau a chyllidwyr gefnogi hyn i sicrhau bod darpariaeth y dyfodol mor effeithiol, hygyrch, a cyfartal â phosibl.
Ers mis Mai 2022, mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a Frame CIC wedi bod yn cydweithio i ddylunio a chyflawni ymchwil gyda sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau cymunedol ledled Cymru am eu profiadau o ddarpariaeth gyfunol. Yn ystod gwanwyn a haf 2022, buom yn siarad ag ymarferwyr am eu profiadau a’u mewnwelediadau ac yna creu darlun o beth yw darpariaeth gymysg mewn gwahanol gyd-destunau, pam mae sefydliadau’n cyfuno, beth yw’r heriau a’r manteision, a pha ddulliau sy’n diwallu anghenion cymunedau.
Mae’r adroddiad hwn yn dogfennu’r sgyrsiau hyn a thrafodaethau dilynol gyda rhanddeiliaid mewn digwyddiad bord gron ar-lein ym mis Tachwedd 2022.
Beth wnaethom ni a pham
Roeddem am ddeall sut a pham y mae sefydliadau yn cyfuno darpariaeth gwasanaethau ar-lein ac wyneb yn wyneb a'r hyn y maent yn ei ddysgu. Gan ddefnyddio dull ansoddol, aethom ati i archwilio’r cwestiynau canlynol:
- Sut olwg sydd ar ddulliau cyfunol o ddarparu gwasanaethau cymunedol ledled Cymru?
- Pam mae sefydliadau cymunedol yn cyfuno darpariaeth wyneb yn wyneb ac ar-lein?
- Pa fanteision a heriau y mae darpariaeth gyfunol yn eu creu?
- Pa ddulliau sy'n dangos addewid o ran diwallu anghenion cymunedol?
Cymeradwyodd pwyllgor moeseg Prifysgol Caerdydd y prosiect. Rhoddwyd gwybodaeth am y prosiect i'r holl gyfranogwyr cyn y cyfweliadau a gwnaethant roi eu cydsyniad gwybodus i gymryd rhan. Roedd y cyfraniadau’n ddienw, ac roedd data’n cael ei storio yn unol â rheoliadau GDPR.
Rhwng mis Mai a mis Awst 2022, gwnaethom gyfweld â 32 o ymarferwyr a oedd yn cynrychioli 27 o wahanol sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau llesiant cymunedol ledled Cymru. Cymerodd y cyfweliadau tua 60 munud ac fe'u cynhaliwyd trwy alwad fideo neu ffôn (yn dibynnu ar ddewis y cyfwelai). Gan ddefnyddio canllaw pwnc lled-strwythuredig, fe wnaethom sicrhau cysondeb ar draws cyfweliadau tra’n caniatáu digon o hyblygrwydd i bobl rannu eu straeon. Buom yn siarad ag ymarferwyr sy’n cynrychioli sefydliadau sy’n gweithredu ar raddfeydd gwahanol iawn ac sy’n gweithio gyda chymunedau amrywiol ag anghenion gwahanol iawn: o’r rhai sy’n darparu rhaglenni cenedlaethol neu ranbarthol i elusennau bach, lleol iawn. Dangosir ardaloedd darparu daearyddol a chategorïau gwasanaeth sefydliadau, yn Ffigurau 1 a 2.
Yr hyn a glywsom
Trosolwg cryno
(Cliciwch ar benawdau'r penodau i ddarllen mwy)
Gorfododd y pandemig sefydliadau i drosglwyddo'n gyflym i gyflenwi ar-lein. Er bod rhai sefydliadau yn gweld hyn yn heriol ac yn cael trafferth cyrraedd eu cymunedau, roedd eraill yn gallu ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd a darganfod ffyrdd mwy effeithlon o weithio. Wrth i gyfyngiadau symud leddfu, dechreuodd llawer o sefydliadau ar daith tuag at ddarpariaeth gyfunol, gan gynnig cymysgedd o ddarpariaeth ar-lein ac all-lein.
Mae darpariaeth gyfunol bellach yn digwydd yn eang ledled Cymru, ar wahanol raddfeydd ac mewn ffyrdd gwahanol. Mae ei gymhwysiad yn amrywio yn dibynnu ar adnoddau a chymunedau sefydliadau, gan gynnwys i ba raddau y mae darpariaeth ar-lein ac all-lein wedi'i hintegreiddio (yn hytrach na chael ei chynllunio a'i darparu ar wahân). Mae darpariaeth gyfunol hefyd yn dangos graddau amrywiol o arloesedd, o waith byrfyfyr ad-hoc i ddiwallu anghenion defnyddwyr, i ddylunio a phrofi dulliau cyfunol yn ofalus.
Yn gyffredinol, mae sefydliadau’n datblygu dulliau cyfunol am un neu fwy o’r rhesymau canlynol (sy’n aml yn gorgyffwrdd):
- i ateb y galw gan eu cymunedau a sicrhau canlyniadau gwell i ddefnyddwyr gwasanaethau (er enghraifft, oherwydd bod darpariaeth ar-lein yn gweithio’n well i rai defnyddwyr gwasanaethau ac mae darpariaeth wyneb yn wyneb yn gweithio’n well i eraill)
- mewn ymateb i gyfyngiadau adnoddau a'r angen i wneud arbedion effeithlonrwydd
- o ganlyniad i ddilyn amcanion cysylltiedig eraill (fel ehangu cyfranogiad digidol).
Mae darparwyr gwasanaeth yn adrodd bod dulliau cyfunol yn cynnig llawer o fanteision posibl i ddefnyddwyr gwasanaethau, gan gynnwys gwell mynediad at wasanaethau, hyblygrwydd, dewis ac ymatebolrwydd. Mae rhai pobl yn ei chael hi’n haws cael mynediad at gymorth a gwasanaethau wyneb yn wyneb o gymharu ag ar-lein, ond i eraill mae’r gwrthwyneb yn wir: mae dulliau cyfunol yn darparu opsiynau i’r ddau grŵp, yn ogystal ag i bobl a allai fod angen un llwybr cyflenwi neu sy’n well ganddynt un llwybr cyflenwi dros y llall ar wahanol amseroedd. Gall dulliau cyfunol hefyd roi’r sgiliau a’r hyder i bobl symud o gysylltiad personol i ymgysylltu ar-lein neu i’r gwrthwyneb, a’u galluogi i brofi manteision y ddau.
Clywsom hefyd am fanteision darpariaeth gyfunol ar gyfer darparwyr gwasanaethau eu hunain. Roedd y rhain yn cynnwys y gallu i gyrraedd mwy o bobl a bod yn fwy effeithlon o ran amser, yn enwedig drwy leihau teithio, yn ogystal â chefnogi cydweithio â sefydliadau eraill.
Roedd cyfuno darpariaeth wyneb yn wyneb ac ar-lein yn creu heriau lluosog i sefydliadau gan gynnwys:
- mwy o lwythi achosion a straen i weithwyr,
- diffyg adnoddau, gan gynnwys data ac offer, i gyflawni darpariaeth gyfunol yn effeithiol,
- angen sicrhau bod staff yn meddu ar y sgiliau a’r hyder i weithio mewn ffordd gyfunol,
- heriau o ran sicrhau gwasanaethau cyson, cydgysylltiedig ar draws sawl sianel,
- diffyg dealltwriaeth arweinwyr o realiti cyflwyno dulliau cyfunol,
- diffyg lle i fyfyrio ar ddulliau cyfunol a'u gwerthuso.
Sgroliwch i lawr am ganfyddiadau manwl. Neu:
Y daith i gyflenwi cyfunol: effaith y pandemig
Cyn y pandemig, roedd sefydliadau ar drywydd cyflawni a oedd, yn eu barn nhw, yn diwallu anghenion eu cymunedau ac yn cyd-fynd â chapasiti cyflawni eu sefydliadau. Roedd rhai sefydliadau’n cyflawni wyneb yn wyneb yn gyfan gwbl, roedd eraill yn symud yn araf tuag at ddull cyfunol, tra bod eraill ar daith i gyflenwi digidol yn bennaf. Roedd cyfyngiadau symud COVID-19 yn golygu bod angen symud yn gyflym i gyflenwi ar-lein, a llwyddodd sefydliadau i wneud hynny i lefelau amrywiol. Darganfu sefydliadau lawer iawn amdanynt eu hunain a'u cymunedau yn ystod y cyfnod hwn. Roedd yn gyfnod o ddysgu dwfn ac, mewn llawer o achosion, yn gatalydd ar gyfer trawsnewid.
I’r rhai sydd eisoes yn darparu rhai agweddau ar eu gwasanaethau’n ddigidol, cyflymodd y pandemig y cyfnod pontio; roedd yn heriol ond yn hylaw. Roedd y cyfyngiadau symud a’r symudiad cyfan gwbl i ymgysylltu digidol yn haws i’w lywio i’r defnyddwyr gwasanaeth hynny oedd eisoes yn barod ac yn hyderus i ymgysylltu ar-lein, ond hefyd wedi nodi grwpiau newydd sy’n cael trafferth ymgysylltu wyneb yn wyneb ac y mae agoriad cyflym mynediad ar-lein yn cynnig opsiwn mwy cynhwysol a hygyrch iddynt ar gyfer cyfranogiad. Creodd newidiadau demograffig ar draws grwpiau defnyddwyr gwasanaeth, gyda grwpiau nad oeddent yn arfer cael eu clywed yn aml yn ceisio cymorth trwy lwybrau gwasanaeth newydd.
Fodd bynnag, roedd llawer o sefydliadau yr oedd eu gwasanaeth yn dibynnu’n llwyr ar gymorth wyneb yn wyneb yn methu â chyrraedd eu cymunedau ar-lein. Dywedodd darparwyr nad oedd gan rai defnyddwyr gwasanaeth, a oedd fel arfer yn defnyddio gwasanaethau wyneb yn wyneb, fynediad at ddyfeisiau priodol neu ddata digonol i fynd ar-lein, neu nad oedd ganddynt y sgiliau a'r hyder i ymgysylltu'n ddigidol. Yn syml, nid oedd rhai eisiau mynd ar-lein. I’r sefydliadau hynny yr oedd eu gwasanaethau wedi bod yn rai wyneb yn wyneb yn unig, roedd y pandemig yn golygu bod pobl nad oeddent yn gallu ymgysylltu ar-lein, neu’n anfodlon gwneud, yn aml yn profi unigrwydd yn ogystal â llai o gymorth. Wrth i ddarpariaeth wyneb yn wyneb ddychwelyd, roedd darparwyr yn ymwybodol o'r angen i liniaru risgiau ynysu cymdeithasol yn y dyfodol ond nid oeddent yn siŵr beth y gallent ei wneud.
Mewn cyferbyniad, gyda mewnwelediadau a llwyddiannau newydd a gafwyd trwy gyflawni digidol, ac a oedd yn aml wedi cynyddu eu cyrhaeddiad yn sylweddol, teimlai llawer o sefydliadau eraill na allent byth ddychwelyd i’w ffyrdd blaenorol o weithio. Roedd y pandemig wedi amlygu anghenion o fewn eu cymunedau nad oeddent yn gallu ymateb iddynt o’r blaen (neu nad oeddent yn ymwybodol ohonynt) ac wedi datgelu ffyrdd mwy effeithlon o weithio (er, fel y nodir isod, gyda goblygiadau niweidiol weithiau i lesiant staff). Wrth i gyfyngiadau symud leddfu, dechreuodd llawer o sefydliadau ar eu taith i ddarpariaeth gyfunol, gan gynnig cymysgedd o wasanaethau ar-lein ac wyneb yn wyneb. Symudodd rhai sefydliadau o gyflenwi wyneb yn wyneb yn unig neu’n bennaf, cyn y pandemig, i ddarpariaeth integredig ar-lein ac wyneb yn wyneb, gan ddysgu wrth fynd yn eu blaenau. Gwelodd sefydliadau eraill ag amcanion hirsefydlog i gynyddu darpariaeth ddigidol eu modelau darparu gwasanaeth yn troi ar eu pennau bron dros nos.
Sut olwg sydd ar gyflweni cymysg ledled Cymru
Dywedodd un sefydliad cymunedol bach y siaradwyd â hwy wrthym fod darpariaeth gymysg yn anghydnaws â’r hyn a gynigir ganddynt, a oedd yn dibynnu ar ddarpariaeth wyneb yn wyneb o gymorth ymarferol a ddarperir mewn lleoliad canolfan gymunedol. Fodd bynnag, roeddent yn defnyddio dull cyfunol yn llwyddiannus i gyflwyno un o’u prosiectau allgymorth addysg a chymorth cymheiriaid, ar ôl darganfod bod integreiddio sesiynau ar-lein ac wyneb yn wyneb yn sicrhau’r buddion mwyaf posibl ac yn lleihau rhwystrau i’r gymuned honno o ddysgwyr. Dywedodd sefydliadau eraill wrthym fod cyfuno darpariaeth ar draws yr holl wasanaethau yn bosibl ac yn fuddiol ac, mewn rhai achosion, roedd darpariaeth gymysg yn ymestyn i weithio hybrid (o bell ac yn y swyddfa) i staff.
Yn ymarferol, mae darpariaeth gyfunol yn edrych yn wahanol o sefydliad i sefydliad, yn dibynnu ar y gwasanaeth a gynigir ganddo, y gymuned, adnoddau a staff neu wirfoddolwyr. Yn ogystal â defnyddio galwadau fideo, tynnodd ymarferwyr sylw at bwysigrwydd ffôn, negeseuon testun ac apiau negeseuon cymdeithasol, fel WhatsApp a Facebook Messenger, wrth ddarparu gwasanaeth cyfunol. Mae’r graddau y mae sefydliadau’n integreiddio darpariaeth ar-lein ac wyneb yn wyneb hefyd yn amrywio, o ddarpariaeth aml-sianel gydag ychydig neu ddim integreiddio (e.e., anfon nodiadau llais dros WhatsApp yn lle anfon llythyrau at bobl â chyflyrau fel dyslecsia, neu ddefnyddio rhyngweithio wyneb yn wyneb neu dros y ffôn i ddatblygu a chefnogi gallu a hyder i ymgysylltu ar-lein) i wasanaethau cwbl integredig sy’n cynnig profiad cyfartal i ddefnyddwyr gwasanaeth ar draws sawl sianel sy’n gorgyffwrdd (e.e., dilyn rhyngweithio wyneb yn wyneb â chynigion ar-lein neu dros y ffôn i ymestyn cymorth). Yn aml, mae'r gallu i gyfuno neu integreiddio yn dibynnu ar seilwaith ac adnoddau.
Clywsom fod cyfuno darpariaeth yn golygu gwahanol raddau o arloesi. Roedd cyfuno yn dechrau o reidrwydd yn aml ac yn ysgogi atebion syml i ddiwallu anghenion defnyddwyr a ddatblygodd yn ailadroddol gyda gwybodaeth a phrofiad ychwanegol am yr hyn sy'n gweithio i bwy. Er enghraifft, disgrifiodd un ymarferydd eu bod wedi ymuno â gweminar ar gyfer defnyddiwr gwasanaeth a oedd ond yn gallu cael mynediad at y ffôn a dal y ffôn i fyny at y cyfrifiadur i'w galluogi i gymryd rhan.
Mewn achosion eraill, roedd dulliau cyfunol wedi'u dylunio a'u cynllunio'n ofalus i greu profiad symlach i'r rhai sy'n ymgysylltu ar-lein ac wyneb yn wyneb. Er enghraifft, ffrydio sgyrsiau a chyrsiau ar-lein i leoliadau cymunedol fel y gallai pobl deimlo'n rhan lawn o'r digwyddiad a'r gymuned boed hynny drwy fynychu wyneb yn wyneb neu ar-lein.
Lle nad oedd gorgyffwrdd rhwng y rheini a oedd yn ymgysylltu ar-lein ac all-lein, roedd sefydliadau’n aml yn dod o hyd i ffyrdd creadigol o gydgysylltu sgyrsiau a sicrhau cydraddoldeb o ran profiad, cynrychiolaeth a dylanwad o ran mynediad a dylunio gwasanaethau trwy drafodaethau â thema a chynrychiolaeth ar draws grwpiau.
Pam mae sefydliadau yn cyfuno darpariaeth?
Mae’r amcanion ar gyfer cyfuno darpariaeth yn rhannu’n dri chategori bras (sy’n aml yn gorgyffwrdd):
- wedi’u hysgogi gan ddefnyddwyr/canlyniadau;
- wedi’u hysgogi gan wasanaeth/adnoddau;
- newydd, adweithiol ac ailadroddus.
Tynnodd cyfyngiadau symud y pandemig sylw at anghydraddoldebau newydd yn y gwasanaethau a ddarperir, ac roedd yr argyfwng costau byw yn cynyddu rhwystrau i fynediad personol ac ar-lein i wahanol grwpiau. Er enghraifft, nododd sefydliadau nad oedd pobl â chyfrifoldebau gofalu, nad oeddent yn gallu gadael eu cartrefi am unrhyw gyfnod o amser, yn aml wedi gallu ymgysylltu â gwasanaethau wyneb yn wyneb cyn y pandemig. Pan symudodd y byd ar-lein yn ystod y cyfyngiadau symud, agorodd eu byd. Ond roedd pobl nad oeddent yn gallu mynd ar-lein wedi cael eu gadael allan yn yr oerfel. Ar ôl y cyfyngiadau symud, cydnabu sefydliadau angen brys i gynnig gwasanaethau cyfunol i ddiwallu gwahanol anghenion a dewisiadau eu cymunedau er mwyn creu canlyniadau gwell ar eu cyfer.
Er bod cynnig dewis yn ffactor pwysig i bob sefydliad, roedd y cynnydd yn y galw am wasanaethau yn aml yn golygu bod y penderfyniad i gyfuno darpariaeth, o leiaf yn rhannol, yn cael ei ddylanwadu gan gyfyngiadau adnoddau a’r angen i wneud arbedion effeithlonrwydd. Roedd y sefydliadau hyn yn blaenoriaethu galluogi mwy o bobl i gael mynediad at gymorth dros gynnig y sianel ymgysylltu o ddewis i bobl. Yn aml, roedd cael mynediad at wasanaethau yn cynnwys proses brysbennu i asesu anghenion, galluoedd a dewisiadau pobl. A, lle bo angen, byddent yn cael cynnig pontio â chymorth o gymorth wyneb yn wyneb i gymorth digidol cyfunol—ac mewn rhai achosion, i'r gwrthwyneb.
I eraill, roedd y rhesymau dros gyfuno yn fwy adweithiol. Disgrifiodd ymarferwyr integreiddio gwasanaethau digidol i wasanaethau wyneb yn wyneb yn bennaf o ganlyniad naturiol i ddilyn amcanion cysylltiedig eraill—gan gynnwys ehangu cyfranogiad digidol a gwella arferion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant—a gweld gwasanaethau eraill yn cynnig darpariaeth gyfunol yn llwyddiannus.
Manteision darpariaeth gyfunol i ddefnyddwyr gwasanaeth
Mae darparwyr gwasanaeth yn adrodd bod cyfuno darpariaeth yn dod â llawer o fanteision i ddefnyddwyr gwasanaethau, gan wella mynediad at wasanaethau a chynnig ymatebolrwydd, hyblygrwydd a dewis. Mae’n galluogi pobl heb ddata, dyfeisiau na sgiliau digidol, a’r rhai sydd angen cymorth personol, i gael mynediad at wasanaethau wyneb yn wyneb ac mae’n creu cyfleoedd i bobl sy’n cael anhawster i gyrraedd mannau ffisegol, pobl heb yr hyder i ymgysylltu wyneb yn wyneb, neu bobl â chyfrifoldebau gofalu sy'n cyfyngu ar amser oddi cartref, i gael mynediad at wasanaethau ac apwyntiadau o gysur eu cartref.
Yn ogystal â’r manteision a adroddir yn gyffredin o ddarparu sianeli cyflenwi amgen i alluogi mynediad a chynhwysiant, clywsom am fanteision newydd yn deillio o ddulliau cyfunol sy’n hyrwyddo trawsnewidiadau ar draws sianeli ac sy’n grymuso pobl i gymryd rhan mewn ffyrdd lluosog sy’n gorgyffwrdd. Mae’r manteision hyn yn egluro pam yr ystyriwyd bod integreiddio sianeli a ddisgrifiwyd uchod yn bwysig (gan gynnig profiad cyfartal i ddefnyddwyr gwasanaethau ar draws sawl sianel sy’n gorgyffwrdd).
Soniodd darparwyr gwasanaethau am sut roedd pobl nad oedd ganddynt yr hyder i ymgysylltu â gwasanaethau a gweithgareddau cymunedol yn bersonol yn magu hyder ac ymddiriedaeth trwy sesiynau ar-lein, ac yn y pen draw yn teimlo’n ddiogel i gymryd rhan wyneb yn wyneb. Daeth enghraifft o’r trawsnewidiadau hyn yn sgil ymarferydd yn gweithio gyda phobl ifanc niwroamrywiol a fyddai ond yn ymgysylltu ar-lein, i ddechrau, gyda chamerâu i ffwrdd ac yn cyfrannu trwy’r cyfleuster sgwrsio yn unig, i gymryd rhan mewn sgyrsiau grŵp bach i deimlo’n gyfforddus i gwrdd â ffrindiau ar-lein newydd wyneb yn wyneb. Gweithiodd y trawsnewidiadau hyn i’r gwrthwyneb hefyd, gyda phobl nad oedd ganddynt yr hyder i ymgysylltu ar-lein i ddechrau yn cael eu cefnogi i gael mynediad at wasanaethau’n ddigidol.
Nodwyd bod y gallu i symud yn rhwydd rhwng darpariaeth ar-lein ac wyneb yn wyneb yn arbennig o bwysig i rai grwpiau. Er enghraifft, dywedodd un ymarferwr sy’n cefnogi pobl fyddar wrthym fod yn well gan y gymuned fyddar yn aml gyfarfodydd wyneb yn wyneb ond y gall fod yn anodd iddynt eu cyrraedd weithiau oherwydd iechyd meddwl gwael. Mae cynnig hyblygrwydd o ran sut mae pobl yn cael mynediad at wasanaethau a’u galluogi i newid sianeli yn lleihau’r risg y byddant yn colli apwyntiadau’n gyfan gwbl ac yn eu galluogi i gael cymorth a bod yn rhan o gymuned ar eu telerau nhw. Yn yr un modd, i’r rhai ag ymrwymiadau gofalu neu anableddau sy’n gwneud mynediad corfforol yn anodd, mae cyfuno yn cynnig yr hyblygrwydd i fynychu wyneb yn wyneb pan fo angen ac ar-lein pan fo’n fwy cyfleus, gan alluogi pobl i greu a chynnal cysylltiadau ag eraill a chael mynediad at gymorth sy’n cyd-fynd â’u hanghenion a’u hamgylchiadau.
Yn yr un modd, i’r rhai ag ymrwymiadau gofalu neu anableddau sy’n gwneud mynediad corfforol yn anodd, mae cyfuno yn cynnig yr hyblygrwydd i fynychu wyneb yn wyneb pan fo angen ac ar-lein pan fo’n fwy cyfleus, gan alluogi pobl i greu a chynnal cysylltiadau ag eraill a chael mynediad at gymorth sy’n cyd-fynd â’u hanghenion a’u hamgylchiadau.
Yn gyffredinol, roedd ymarferwyr o’r farn bod rhyngweithio wyneb yn wyneb yn hanfodol ar gyfer cynnal ymdeimlad o gysylltiad a chymuned a bod darpariaeth gyfunol yn cynnig llawer mwy o gynhwysiant na darpariaeth wyneb yn wyneb neu ddigidol yn unig. Mae hyn yn pwysleisio pwysigrwydd galluogi trosglwyddiadau ar draws sianeli a drafodwyd uchod.
Amlygwyd hyblygrwydd a dewis mynediad fel elfennau arbennig o bwysig yn yr argyfwng costau byw. Siaradodd ymarferwyr am bobl sy'n wynebu rhwystrau mynediad newydd, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau personol, eu lleoliad ac adnoddau. Gwnaethant ddweud wrthym fod gwasanaethau cyfunol yn hanfodol ar gyfer sicrhau nad oedd unrhyw un yn cael eu heithrio a’i adael ar ôl ac yn rhoi enghreifftiau o bobl yn wynebu rhwystrau gwahanol i gael mynediad at wasanaethau ar-lein ac all-lein: y rhai na allant fforddio teithio i wasanaethau personol (yn enwedig y rhai mewn ardaloedd gwledig), ac ochr arall i’r geiniog, y rhai na allant fforddio data i fynd ar-lein—neu na allant fynd ar-lein oherwydd bod seilwaith rhyngrwyd lleol yn anghyson.
Manteision darpariaeth gyfunol i ddarparwyr gwasanaeth
Roedd cyfuno yn galluogi sefydliadau i ehangu eu cyrhaeddiad, cefnogi mwy o bobl, a bod yn fwy effeithlon gyda'u hamser, er, fel y trafodir isod, roedd weithiau'n arwain at bwysau gwaith a straen cynyddol nid llai. Roedd hefyd yn galluogi eu staff (yn ogystal â'u cleientiaid) i feithrin eu sgiliau a'u hyder i ddarparu gwasanaeth mwy deinamig ac ymatebol.
Disgrifiodd ymarferwyr sut roedd cyfuno darpariaeth (a gweithrediadau) yn eu galluogi i deithio llai a gwneud mwy wrth barhau i ddiwallu anghenion eu cymunedau. Pwysleisiwyd sut roedd cyfuno wedi creu mwy o le ar gyfer cydweithredu â sefydliadau eraill ac wedi cyflymu gweithredu ar draws rhanbarthau.
Heriau cyfuno darpariaeth
Effaith ar lesiant
Er bod cyfuno darpariaeth wedi hwyluso arbedion cost a mwy o effeithlonrwydd, gan ryddhau amser staff, roedd yr arbedion effeithlonrwydd hyn weithiau'n digwydd ar draul llesiant staff. Ar ôl caniatáu i wasanaethau gynyddu cyrhaeddiad eu gwaith i grwpiau mewn angen presennol a newydd, roedd rhai arbedion effeithlonrwydd yn gysylltiedig â darpariaeth ddigidol – e.e. llai o amser teithio – wedi arwain at gynnydd, yn hytrach na gostyngiad, mewn llwyth achosion a straen.
Yn ogystal, clywsom fod rhai sefydliadau—yn enwedig y rhai yr oedd eu gwasanaeth wyneb yn wyneb yn gyfan gwbl neu’n bennaf cyn y pandemig—wedi canfod bod staff yn anghyfforddus gyda ffyrdd newydd o weithio. Weithiau nid oedd ganddynt yr hyder i gyflawni’n ddigidol neu roeddent yn teimlo nad oedd yn rhan o’u disgrifiad swydd na’r hyn yr oeddent am ei wneud. Roedd sefydliadau’n wynebu llawer o staff a gwirfoddolwyr yn gadael eu rolau, a oedd, yn ei dro, yn creu pwysau ychwanegol ac yn lleihau’r gallu i gyflawni.
Cyfyngiadau adnoddau
Sgiliau a hyder staff
Yn ystod camau cynnar y cyfuno, yn aml nid oedd gan staff y sgiliau a'r hyder i addasu i'r model cyflwyno newydd ac roedd angen hyfforddiant arnynt.
Integreiddio sianeli
Her arall a wynebai sefydliadau wrth gyfuno darpariaeth oedd sut i integreiddio gwasanaethau ar draws gwahanol sianeli i gynnig cymorth effeithlon a chyson i gleientiaid. Ymhelaethwyd ar yr her hon mewn sefydliadau mwy sy'n cynnig dulliau aml-sianel gan gynnwys wyneb yn wyneb, dros y ffôn, galwad fideo, sgwrs ar y we, a’r cyfryngau cymdeithasol, lle gallai rhyngweithiadau cleientiaid ar draws gwahanol sianeli orgyffwrdd hefyd. Roedd canoli gwybodaeth ar draws sianeli a sicrhau cyfathrebu tîm effeithiol yn hanfodol i greu cysondeb ar draws y gwasanaeth a sicrhau bod y ddarpariaeth yn teimlo'n gydgysylltiedig ac nid ar wahân.
Cefnogaeth arweinyddiaeth
Er bod sefydliadau’n cydnabod yr angen i greu gwasanaethau sy’n deg ac yn optimaidd, roedd ymarferwyr ar lawr gwlad yn aml yn teimlo bod diffyg diddordeb yn y ‘sut’ o ddarpariaeth gyfunol gan dimau arweinyddiaeth, a oedd yn golygu bod rheoli dwy ochr y geiniog o fanteision a’r heriau o ddarparu gwasanaeth teg, fel y disgrifiwyd gan un ymarferydd, yn debyg i ladd nadroedd.
Lle i fyfyrio
Yn y brys i gyflwyno gwasanaethau cyfunol ac ailadrodd wrth fynd, nid oedd sefydliadau wedi cael cyfle i fyfyrio ar eu taith na gwerthuso effaith darpariaeth gyfunol. Yn ystod y prosiect hwn, dywedodd llawer o ymarferwyr mai’r sgyrsiau hyn oedd y tro cyntaf iddynt ddod o hyd i amser i oedi a myfyrio ar yr hyn a weithiodd yn dda, beth oedd yn heriol a lle roedd angen newidiadau. Roedd pobl yn gyson yn lleisio awydd i rannu yr hyn maent wedi’i ddysgu gyda chyfoedion ond eu bod hefyd yn tynnu sylw at ddiffyg diffiniad cyffredinol o ystyr cyfunol, a oedd yn gwneud pobl yn ansicr p’un a yw’r hyn yr oeddent yn ei wneud yn cyfrif: A yw'n hybrid neu gyfunol? Ydyn nhw'r un peth?
Yn gyffredinol, er gwaethaf yr heriau hyn, mae ymarferwyr yn credu bod darpariaeth gyfunol yn fwy cynhwysol o set ehangach o anghenion defnyddwyr, yn ehangu cyrhaeddiad, yn gwella cyfranogiad, yn annog sefydliadau i ofyn i ddefnyddwyr gwasanaeth beth sydd ei eisiau a’i angen arnynt ac, yn ei dro, mae’n galluogi mwy o bobl i ddylanwadu ar ddylunio’r gwasanaethau y maent yn eu defnyddio.
Dywedodd ymarferwyr wrthym hefyd fod arwyddion cynnar yn awgrymu y gall dulliau cyfunol rymuso defnyddwyr gwasanaeth trwy eu galluogi i gael mynediad at wasanaethau ar eu telerau nhw, sy’n gwella cyfranogiad ac, yn ei dro, yn creu cyfleoedd ar gyfer cysylltiad ystyrlon. Fodd bynnag, mae ymarferwyr hefyd yn cydnabod yr angen brys i symud o gyflenwi adweithiol i gyflenwi strategol a gwerthuso'r hyn sy'n gweithio i bwy er mwyn mireinio gwasanaethau a thystiolaeth o effaith.
Mae ymarferwyr hefyd yn cydnabod yr angen brys i symud o gyflenwi adweithiol i gyflenwi strategol ac i werthuso'r hyn sy'n gweithio i bwy er mwyn mireinio gwasanaethau a dangos effaith.
Ble nesaf
Sut olwg sydd ar ymarfer addawol?
Megis dechrau y mae sefydliadau llesiant cymunedol o hyd yn eu teithiau cyflawni cyfunol. Mae’r rhan fwyaf o sefydliadau’n parhau i ailadrodd ac addasu, yn enwedig yn awr yng nghanol argyfwng costau byw sy’n creu pwysau ychwanegol lluosog. Er hynny, mae sefydliadau wedi datblygu mewnwelediadau am yr hyn sy'n cefnogi cyflwyniad cyfunol effeithiol. Mae ymagweddau addawol mewn darpariaeth gyfunol yn aml yn rhannu’r priodoleddau canlynol, y gellir eu grwpio o fewn y categorïau strategaeth, sgiliau ac adnoddau, a diwylliant sefydliadol:
Mae llawer o ffactorau allanol gwahanol hefyd yn cefnogi ac yn rhwystro arferion addawol, o brosesau caffael cylch cyflym nad ydynt yn galluogi dysgu ailadroddol a darpariaeth ymatebol, cynlluniau ariannu sy’n blaenoriaethu dulliau digidol unigol neu ddulliau wyneb yn wyneb dros rai cyfunol neu nad ydynt yn ddigon hyblyg i gefnogi darpariaeth ailadroddol tymor hwy, i amrywiadau rhanbarthol mewn seilwaith rhyngrwyd a chysylltedd.
Beth sydd ei angen?
Gan adlewyrchu ar ein sgyrsiau gyda sefydliadau ledled Cymru, bu ein cyfranogwyr bord gron (a oedd yn cynnwys rhai o’r ymarferwyr a oedd yn rhan o’r prosiect hwn, yn ogystal â chyllidwyr, llunwyr polisi, comisiynwyr gwasanaethau, arweinwyr strategol ac ymarferwyr cymunedol) yn trafod ac yn tynnu sylw at y camau gweithredu a’r camau nesaf a ganlyn:
Darllen (a gwylio) pellach
Rydym yn awyddus i barhau â’r sgwrs am ddarpariaeth gyfunol mewn gwasanaethau llesiant cymunedol ledled Cymru a gobeithio y byddwch am gyfrannu. Cysylltwch â thîm Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar (info@wcpp.org.uk) os hoffech glywed mwy am ein gwaith ar y pwnc hwn neu os hoffech dderbyn diweddariadau prosiect.
Mae rhagor o wybodaeth (ar ffurf postiadau blog, erthyglau, adroddiadau a fideos) am ddarpariaeth gyfunol a gwaith cysylltiedig ar ynysigrwydd ac unigrwydd cymdeithasol wedi’u rhestru isod: